BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Trysor y Morloi
Trysor y Morloi - stori a lluniau gan Jackie Morris. Addasiad Cymraeg gan Siân Lewis. £5.99
Mae plant ysgol ym Mhenfro yn edrych ymlaen at fynd am dro i weld ble yn union y digwyddodd y stori mewn llyfr Cymraeg sydd newydd ei gyhoeddi.

Bydd plant o Ysgol Gynradd Croesgoch, Tyddewi, yn ymweld â Maes y Mynydd, , ar Fai 27 lleoliad Trysor y Morloi gan awdur lleol, Jackie Morris.

Cyhoeddwyd y llyfr yn y Saesneg yn gyntaf, The Seal Children, ond yn ddiweddar cyhoeddwyd addasiad Cymraeg Siân Lewis gan Wasg Gomer.

Clawr y llyfrMae'r stori sydd wedi ei sgrifennu'n gain yn sôn am forforwyn neu fôr-lodes yn priodi bachgen lleol ac am y bobl yn gadael y fro i geisio bywyd gwell mewn gwlad arall.

Mae'r ymweliad yn rhan o wythnos gyfan i hybu'r Gymraeg drwy'r celfyddydau yn yr ysgol lle mae plant Jackie yn ddisgyblion.

Dywedodd mai arfordir Penfro ac olion hen bentref a'i sbardunodd i fynd ati i lunio'r llyfr stori-a-llun.

"Mae cerrig a waliau'n nodi'r fan lle bu pentref unwaith. Does dim pobl yno nawr. Yr unig swn yw cri'r boda, clochdar penddu'r eithin, bwrlwm pêr yr ehedydd a chân bellennig y môr."

Bu pobl yn byw ym Maes y Mynydd ger ei chartref tan ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf a'r sôn yw mai Crynwyr oeddan nhw ac ac yn awyddus i ymfudo i Bensylfania i ddechrau bywyd newydd ond na allent fforddio gwneud hynny.

Yn stori Jackie Morris mae pysgotwr o'r enw Huw yn syrthio mewn cariad â môr-lodes a'i phriodi.

Hanner-merch a hanner-morlo o dylwyth y môr yw môr-lodes a cheir llu o hanesion amdanynt ar hyd arfordir Prydain.

Wedi i ddau o blant gael eu geni iddynt mae hi'n dychwelyd i'r môr.

Flynyddoedd yn ddiweddarach, daw ymwelydd dieithr i'r pentref i sôn am Fyd Newydd lle mae gan bobl eu tyddynnod eu hunain a lle maen nhw'n elwa ar eu llafur.

Gyda help tylwyth y fôe-lodes llwydda'r pentrefwyr i wireddu eu breuddwyd a hwylio i ffwrdd.

Nodwedd arbennig y llyfr yw ei sgrifennu cain a'r lluniau trawiadol a bydd arddangosfa o'r arlunwaith gwrieddiol yn Oriel Rhosson, Tyddewi drwy fis Mehefin 2004 ac wedyn yng Ngwyl Lyfrau Caeredin fis Awst.

Yn y gorffennol mae Jackie Morris wedi arddangos ei gwaith yn Llundain ac Awstralia.

Beth yw eich barn chi am gyhoeddi yng Nghymru? Cliciwch i anfon e-bost at Llais Llên


Llyfrau - gwefan newydd
Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy