BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Alawon John Thomas gan Cass Meurig
Daw hen alawon Cymru'n fyw mewn llyfr newydd a gyhoeddir gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.


Yn Alawon John Thomas: A fiddler's tune-book from eighteenth century Wales a olygwyd gan Cass Meurig, mae casgliad arbennig o alawon gwerin gan ffidlwr amlwg o'r ddeunawfed ganrif.

Clawr y llyfrDyma'r cyntaf i'r tonau hyn sy'n rhan o gasgliad y Llyfrgell Genedlaethol, gael eu cyhoeddi a'u gwneud yn fwy amlwg i bawb.

Tonau dawns
Mae'r tonau o lawysgrif gan y ffidlwr John Thomas yn cynnwys 526 darn cerddorol ac yn dyddio o'r flwyddyn 1752. Ni wyddom lawer am John Thomas ond ei fod yn dod o'r gogledd-ddwyrain a'i fod yn ennill peth o'i fywoliaeth drwy ganu'r ffidil.

Dywed Cass Meurig, sy'n byw yn Nghwm-y-Glo ger Caernarfon, mae llawysgrifau John Thomas yn bwrw golwg werthfawr ar draddodiad arbennig cerddoriaeth Cymru.

"Mae dwy ran o dair o'r darnau yn dod o'r traddodiad llafar gyda rhai ohonynt wedi eu hysgrifennu mewn nodiant unigryw i'r ffidil a ddyfeisiwyd, fwy na thebyg, gan John Thomas ei hun.

"Tonau dawns a oedd yn boblogaidd ar ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg a dechrau'r ddeunawfed ganrif yw'r rhan fwyaf o'r darnau tra daw eraill o draddodiad canu carolau a chanu penillion."

Dywedodd llefarydd o'r Llyfrgell Genedlaethol fod Alawon John Thomas: A fiddler's tune-book from eighteenth century Wales yn cynnwys trawsdoriad eang o donau sy'n hanu o Gymru, Lloegr, Yr Alban a thu hwnt, gyda nifer ohonynt yn ymestyn yn ôl dros sawl canrif.

Yr offeryn yn eu anterth
"Mae'r llyfr yn bwrw goleuni hefyd ar repertoire, perfformiad a bywyd person a oedd yn ennill ei fara menyn fel ffidlwr Cymreig yn cyfeilio i ddawns a chân mewn cyfnod pan oedd yr offeryn ar anterth ei boblogrwydd," meddai.
Ychwanegodd fod Cass Meurig ei hun yn ffidlwr amryddawn ac adnabyddus ac hefyd yn un o'r ychydig bobl all ganu'r crwth.

"Yn wir, mae hi newydd gyhoeddi CD newydd o'r enw Crwth ar label Recordiau Fflach," meddai.

Yn addas iawn, yr oedd y cyfarfod i gyhoeddi Alawon John Thomas yn y Llyfrgell Genedlaethol yn rhan o ddathliadau Santes Dwynwen gydag un o'n harbenigwyr pennaf ar gerddoriaeth werin Gymreig, Phyllis Kinney, yno hefyd. "Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch iawn i gyhoeddi llyfr sydd mor werthfawr i'n traddodiad ni a'n hunaniaeth ni fel Gwlad y Gân," meddai Rhidian Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyhoeddus y Llyfrgell.

Cysylltiadau Perthnasol
Gwefan y Llyfrgell Genedlaethol
Gwefan Cass Meurig

Llyfrau - gwefan newydd
Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy