BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Hunangofiant Meic Stevens
Adolygiad Dafydd Meirion o Hunangofiant Meic Stevens. Y Lolfa, £9.95.


Rhyw, cyffuriau a roc-a-rôl... Homar o hunangofiant!
Ym mha hunangofiant arall y caech chi sôn am Jimmy Saville, T H Parry-Williams, Mandy Rice Davies, Hywel Gwynfryn, George Best, Julie Felix, Kinsgley Amis, Bob Dylan, Pete Townsend, Dominic Behan, Cat Stevens, Mick Jagger, Tom Jones, Shirley Bassey... i gyd o fewn yr un clawr?

Clawr y llyfr Ond maen nhw i gyd yn hunangofiant Meic Stevens, a sawl un arall.

Mae hwn yn homar o hunangofiant! Ond hyd yn oed, heb hanes Meic, mi fyddai hwn yn lyfr diddorol gan ei fod yn croniclo bywyd jazz Caerdydd yn y 50au a'r 60au a Swinging Sixties Llundain yn ddiweddarach.

Nid y dechrau gorau
Lle mae rhywun yn dechrau efo hunangofiant fel hwn? Yn y dechrau wrth gwrs, a hynny cyn i Meic gael ei eni.

Cawn hanes ei dad yn cael ei ladd ddyddiau'n unig cyn i'w fam ac yntau briodi, ac yna ei gwr ers ychydig wythnosau'n boddi yn y môr pan suddodd ei long wedi ymosodiad ar y ffordd i America.

Yna'r gwr a roddodd i Meic ei gyfenw - ail wr ei fam Beti - yn ei gamdrin gymaint fel bu raid iddo adael Llundain a dod i fyw at ei fam i Solfach.
Doedd hynna ddim y dechrau gorau i fywyd.

Dirdynol am ei fam
Mae'r darnau am ei fam adeg y rhyfel ac yn y blynyddoedd ddilynodd yn ddirdynol, ond does dim yn arbennig yn y penodau sydd yn dilyn sy'n sôn am ei blentyndod yn Solfach; plentyndod nodweddiadol o'r 50au yn unig ydyw.

Yng nghofiant rhywun arall byddai hyn yn dderbyniol, mae'n siwr, ond allwn i ddim disgwyl nes i Meic godi ei gitâr gyntaf, a chawn ni ddim o hynny tan dudalen 52.

Mae'n ffodus iddo gael ei fagu yn Solfach gan fod yna lawer o rai tebyg iddo yno â diddordeb ganddyn nhw yn y canu roc-a-rôl newydd; hefyd, gan fod nifer o fechgyn y fro wedi teithio'r byd fel llongwyr mae yna gitarau a banjos yn yr atig.

Mae'n ffurfio grwpiau ac yn chwarae mewn dawnsfeydd lleol.

O deulu cerddorol
Mae'n help, hefyd, ei fod o deulu cerddorol. Roedd ei fam Bet yn chwarae piano mewn bandiau dawns adeg y rhyfel, ac roedd ei daid ar ochr ei dad wedi bod yn canu'r ffidil yng Ngherddorfa Ffilharmonig Lerpwl.

Roedd Meic wedi ennill gwobrau fel bachgen soprano mewn eisteddfodau lleol ac roedd yn cael gwersi canu a cherddoriaeth. Er hynny, gyferbyn â Music' ar ei adroddiad ysgol am 1955, roedd, Makes no effort'!

Ac mae yna feirdd yn y teulu hefyd.
"Hen gadair farddol yw hi (cadair yn ei gartref yn Solfach), a enilodd hen ewyrth i mi mewn eisteddfod yng Nghaerdydd ym 1935..." ac roedd Edgar, brawd ei fam "yn fardd lleol adnabyddus".

Astudio yng Nghaerdydd
Mae'n gadael Solfach ac yn mynd i astudio celf yng Nghaerdydd. Does fawr o sôn am ddiod a rhyw cyn hyn, ac yn sicr dim cyffuriau.

Ond mae Meic yn cael ei ddenu i dafarnau jazz a chanu gwerin y ddinas, ac mae yma gymeriadau amheus yma - yn drigolion ac yn fyfyrwyr.

Nid yn unig cawn ei hanes o'n datblygu'n gerddorol ond cawn hanes hefyd gerddoriaeth yng Nghaerdydd o ddechrau'r ugeinfed ganrif ymlaen.

Mae'n honni mai yng Nghaerdydd y clywyd jazz gyntaf yn Ewrop a hynny gan gerddorion Americanaidd oedd yma'n ystod y Rhyfel Mawr a'r rheiny'n canu ar ben y porch y tu allan i ddrws gwesty'r Angel yng Nghaerdydd.

Cawn aml gyfeiriad at y gitarydd o Tiger Bay, Vic Parker. Dywed iddo ddod yn ail i Shirley Bassey mewn cystadleuaeth dalent ac iddo chwarae mewn band â'r Tom Jones ifanc.

Cyffuriau
Daw cyffuriau i'r golwg yn gynnar:
"Roedd rhai o'r lladron a'r beatniks yn cymryd gwahanol fathe o amffetamin sylffad..." ac o hyn ymlaen mae Meic yn cael ei dynnu'n raddol i'w cylch. Mae'n teithio'n aml i'r Cyfandir i ymweld ag orielau celf ac yn cymryd tabledi i'w atal rhag cysgu ar y teithiau hir.

Dyw o ddim yn gorffen ei gwrs coleg. Mae'r gerddoriaeth yn denu. Mae rhai o'r cerddorion y daeth i'w nabod yng Nghaerdydd wedi symud i Lundain, wedi'r cwbl mae';n gyfnod y Swinging Sixties ac yma, mae Meic yn hofran ar gyrion llwyddiant.

Daw i nabod, nid yn unig gerddorion y dydd fel Long John Baldry a Syd Barrett o Pink Floyd ond hefyd rai o'r rheolwyr a'r bobol oedd yn cyfri' ym myd cerddoriaeth.

Daw yn gyfeillgar â Gary Farr (mab y bocsiwr enwog Tommy) ac mae'n ymuno â'i fand.

Penllanw hyn, wrth gwrs, yw arwyddo cytundeb â chwmni recordiau Warner Bros ble caiff flaendal o £50,000, a £10,000 ychwanegol gan Lupus Music.

Anodd dygymod â bywyd gwyllt
Ond mae'n ei chael yn anodd i ddelio â'r bywyd gwyllt - y cyffuriau, y cwrw a'r merched porcyn' ac mae ei iechyd yn torri ac mae'n dychwelyd i Solfach.

Yn y cyfnod yma, mae'n cael ei ddarganfod gan y canu Cymraeg, yn arbennig gan Meredydd Evans, oedd yn bennaeth adloniant ysgafn BBC Cymru ar y pryd.

Caiff fwy a mwy o waith yng Nghymru, yn arbennig ar Disc a Dawn - cyfres y mae'n rhyfeddol o garedig iddi, er iddo fod yn feirniadol iawn o ganu Cymraeg y cyfnod - a phwy wêl fai arno!

"... cerddoriaeth uffernol, hen ganeuon pop Americanaidd wedi'u cyfieithu'n anghelfydd i'r Gymraeg a'u canu gan gantorese digon i godi gwrid arnoch chi"!

Cawn hanes sgwennu Cân Walter, Yr Eryr a'r Golomen, a'r Brawd Hwdini, a llu o ganeuon adnabyddus eraill.

Y ferch o Gaerliwelydd
A chawn hanes Tessa, y ferch o Gaerliwelydd y mae'n ei chyfarfod ym Manceinion (ble cyfarfyddodd, hefyd, â Richard Reese Edwards a ddaeth yn rheolwr iddo ac a'i cyflwynodd i gwmni Warner Brothers - does dim sôn os oedd yna waed Cymreig yn Mr Edwards).

Caiff Tessa ac yntau ddau o blant ac mae'r teulu i gyd yn symud i d fferm Caerforiog ger Solfach.

Dyma un o gyfnodau gorau ei fywyd', ond mae'n rhaid iddo deithio i ennill ei fara menyn' a chanlyniad hyn yw bod Tessa yn cael salwch meddwl ac yn treulio cyfnod hir mewn ysbyty meddwl.

Wedi iddi ddod allan, mae'r teulu'n symud i Gaerdydd gan mai yno y caiff Meic y rhan fwyaf o'i waith, ond caiff ei tharo eto gan y salwch.

Hunangofiant trist llawn hwyl
Mae'n hunangofiant trist, eto'n llawn hwyl. Yn ddiweddar, dathlodd Meic ei ben-blwydd yn drigain.
Mae'n syndod iddo bara cyn hired!

Rhwng creulondeb ei lys-dad, y cwrw a'r cyffuriau a'r siomedigaethau, cafodd fywyd anodd er diddorol. Ar wahân i rai o'r penodau ar y dechrau, sef cyfnod ei blentyndod, mae'n llyfr sy'n anodd ei ollwng, er hynny cefais fy siomi cyn lleied o luniau sydd ynddo.

Mae cyfeiriad neu ddau at ffilmiau a wnaed o'i fywyd; do cafwyd dwy raglen os cofiaf yn iawn.

Ond mae'r llyfr hwn yn sail i gyfres, cyfweliadau efo'r bobol roedd o'n ei adnabod yn y chwedegau a'r saithdegau - os ydyn nhw'n dal yn fyw ac yn dal i gofio!Mae sawl hunangofiant yn gwanio at y diwedd - wedi'r cwbwl maen nhw'n cael eu sgwennu rai blynyddoedd wedi'r dyddiau gorau - ond mae Meic yn torri'r hunangofiant hwn yn ei flas - rhywbryd yn nechrau'r wythdegau os cofiaf yn iawn pan yw o a Gwenllian yn gadael Cymru am Lydaw.
Oes cyfle felly am ail ran?

Yn sicr, mae'r hunangofiant hwn yn gorffen gyda chlec - a honno gan blisman mewn cwffas yn un o swyddfeydd heddlu Caerdydd!

Cysylltiadau Perthnasol
Cyhoeddi cofiannau

Llyfrau - gwefan newydd
Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy