BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Llyfr Coginio Dudley i herio'r cedyrn!
Bydd llyfr coginio Cymraeg sydd newydd ei gyhoeddi yn herio llyfrau gan gogyddion fel Nigella Lawson a Jamie Oliver yn eu ceginau!


Disgrifir y llyfr newydd o rysetiau'r cogydd teledu Dudley Newbury fel "y llyfr coginio mwyaf uchelgeisiol ac arloesol i'w gyhoeddi yn y Gymraeg erioed."

Dywed Gwasg y Lolfa y bydd yn cystadlu gyda llyfrau cogyddion mor boblogaidd â Nigella Lawson, Jamie Oliver a Delia Smith.

Poblogaidd ar deledu
Meddai Garmon Gruffudd o'r Lolfa:Clawr y llyfr
"Dros y Dolig mae llyfrau coginio'r celebrity chefs wastad ar frig y siartiau ac eleni rydym ni'n gobeithio y bydd y llyfr newydd Cymraeg yma gan Dudley yn disodli'r rhain yng Nghymru."

Gyda hynny mewn golwg, dywedodd i'r wasg fynd ati i wneud y llyfr mor ddeniadol â phosib o ran diwyg a lluniau.

"Ac mae poblogrwydd cyfresi teledu Dudley yn siâr o hybu'r gwerthiant, ychwanegodd.

Gobaith Dudley, sydd newydd gychwyn ffilmio ei ddegfed cyfres deledu yw y bydd y gyfrol yn rhoi hwb ymlaen i goginio yng Nghymru gan annog pobl i arbrofi.

Wedi bod yn Geidwadol
"Mae'r Cymry wastad wedi bod yn eitha ceidwadol ac mae hyn i'w weld mewn llyfrau coginio," meddai.

"Mae pobl nawr ishe gweld y bwyd cyn ei fwyta, a dyna pam fod angen lluniau da a dylunio safonol sy'n cael ei adlewyrchu yn y llyfr, gobeithio," ychwanegodd.

Mae'r cyfarwyddiadau coginio yn syml ac yn glir o fwriad yn y gobaith y bydd y llyfr o ddefnydd i bawb gan gynnwys plant, tadau, mamau a myfyrwyr.

Mae yma amrywiaeth o brydau o hen ffefrynnau i'r egsotig.

"Mae yna flas rhyngwladol i nifer o'r rysetiau ond eto mae Dudley yn mynnu mai bwyd ffresh o Gymru y dylid ei ddefnyddio ar bob cynnig," meddai'r cyhoeddwyr.

Canlyniadau danteithiol
Un o edmygwyr Dudley ydi Robin Llywelyn, rheolwr Portmeirion, sy'n ei ddisgrifio fel, cogydd sy'n feistr nid yn unig ar ddehongli'r traddodiad coginio cyfoes ond hefyd ar gyflwyno rysetiau hawdd ei dilyn sy'n gwarantu canlyniadau danteithiol."Er mai 19.95 ydi pris y llyfr bydd yn bosibl ei brynu am £17.95 yn rhai siopau yn ystod y mis cyntaf.


Llyfrau - gwefan newydd
Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy