|  |
 |  |  |  |  | |  | Llyfr y Flwyddyn 2005 Y deg sydd yn y ras - cyhoeddi'r rhestr fer hir Cyhoeddwyd rhestr fer hir Llyfr y Flwyddyn 2005 mewn seremoniau yn y de a'r gogledd Ddiwrnod y Llyfr, Mawrth 3, 2005.Mae'r rhestr o ddeg llyfr Cymraeg yn cynnwys llyfrau ffeithiol, barddoniaeth a ffuglen.
Bydd tri o'r rhain yn cael eu dewis ar gyfer rhestr fer derfynol ymhen rhai wythnosau; yna datgelir pa un fydd y llyfr buddugol mewn seremoni yng Nghaerdydd ar Fehefin 21. Bydd yr enillydd yn derbyn £10,000. Felly hefyd awdur y llyfr y flwyddyn yn Saesneg. Datgelwyd enwau'r deg llyfr mewn seremonïau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd ac yn Llyfrgell Wrecsam. Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd yr awduron y deg llyfr yn teithio o amgylch Cymru yn darllen o'u gwaith a'i drafod. Dyma'r ail dro i hyn gael ei drefnu gyda'r bwriad o roi cymaint a phosibl o sylw i lyfrau Cymraeg. Y tri beirniad Cymraeg eleni ydy Hafina Clwyd, Meg Elis a Tony Bianchi a'r beirniaid Saesneg yw; Charlotte Williams, Tony Brown a Patrick Hannan. Dyma'r deg llyfr Cymraeg a ddewiswyd ganddynt. Gellir clicio i ddarllen adolygiadau: O Dan Lygaid y Gestapo gan Simon Brooks. Gwasg Prifysgol CymruY Llaw Broffwydol gan Gareth Alban Davies. Gwasg Y LolfaRhaid i Bopeth Newid gan Grahame Davies. Gwasg GomerCyfaredd y Cysgodiongan Gwenno Ffrancon. Gwasg Prifysgol CymruSymudliw gan Annes Glynn. Gwasg GwyneddHi yw fy Ffrind gan Bethan Gwanas. Gwasg Y LolfaY Llaw Wen gan Alun Jones. Gwasg GomerMartha Jac a Sianco gan Caryl Lewis. Gwasg Y LolfaRhwng y Nefoedd a Las Vegas gan Elin Llwyd Morgan. Gwasg Y LolfaAmser Amherffaith / Dysgu Deud Celwydd yn Tsiec gan Emyr Lewis. Gwasg Carreg Gwalch
 |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|  |
|  | |  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|  |  |
|  | |  |  |  | Gair am air: Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|  |  |
|
|
|