O feddwl lleoedd mor ddienaid, syrffedus ac oer y gall gorsafoedd trêns fod mae’n rhyfedd cymaint o ramant sy’n perthyn i reilffyrdd. Prin, fodd bynnag, yw’r rhai hynny sydd heb eu swyno gan hudoliaeth trêns.
·O gofio’r hud a’r cyfaredd mae’n rhywfaint o syndod na chafodd beirdd a llenorion Cymru eu temtio i sgwennu mwy ar y thema hon.
Ond fel mae Hywel Teifi Edwards yn ein hatgoffa yn ei gyflwyniad i’r gyfrol swynol, Llinellau Coll, ni ddigwyddodd hynny. Fel T. H. Parry-Williams defnyddio’r dychymyg yn drên wnaeth beirdd Cymru yn hytrach na mydryddu ac odli ynglyn a thrêns go iawn.
·"Yn seidings ein llên y bu’r trên ar hyd yr amser," meddai, ac "er ei fod yn bresenoldeb amlwg ym mhapurau a chylchgronau oes Victoria, nid ysgogodd yr un campwaith gan na bardd, na nofelydd nac arlunydd."
Fuon nhw ddim yn gwbl dawedog fodd bynnag a cherddi a baledi gan y beirdd hynny a fentrodd i gyfansoddi am drêns a phethau trenaidd yw Llinellau Coll wedi eu casglu gan bennaf hanesydd rheiffyrdd Cymru, Gwyn Briwnant Jones o Fachynlleth - ond sy’n awr yn byw yng Nghaerdydd.
Bu ei gyfraniad ef i hanes rheilffyrdd yn Nghymru yn rhyfeddol.
Mae arwyddocad arbennig i deitl y gyfrol achos erbyn heddiw nid yn unig llinellau’r beirdd aeth ar goll ond llinellau neu leins y trêns eu hunain hefyd. Diolch i lawfeddygaeth wallgof Dr Beeching collodd Cymru y rhan fwyaf o’i llwybrau rheilffordd gyda chledrau a gorsafoedd wedi dilflannu am byth.
Dim ond hen luniau sydd ar ôl erbyn hyn i’n hatgoffa o’r cyfoeth a fu ac y mae Gwyn Briwnant Jones yn cynnwys trysorfa o’r hen luniau hynny yn y gyfrol hon ochr yn ochr a cherddi’r beirdd yn ymateb i ddyfodiad y trenau cynnar.
Ond er i un bardd ganu:
Rhyfeddod, rhyfeddod ar waelod Cwm Nedd,
Yw gweled cerbydau mor wyched eu gwedd
nid pawb oedd yn argyhoeddedig mai bendith oedd dyfodiad y trêns. Pan agorwyd y rheilffordd rhwng Castell-nedd ac Aberdâr yn 1851 proffwydodd hen was ffarm o Ynysgerwyn:
Ni fydd dim llaeth gan wartheg mwyn
Daw’r twyni’n goch gan sychyn;
Y lloi yn feirw ar y waen
O ofn y train a’r injian.
Ond yn gyffredinol dathlu a gorfoledd fu yna ynglyn a dyfodiad y trêns ac yn ardal Y Bala proffwydodd Dewi Havhesp am Ffordd Haearn Y Bala:
Hi chwal asynnod Gwalia, - gyrru mawr
Gwyr a meirch ddiflanna,
Pan wneir hon, dynion nid a
Ar ebolion i'r Bala
Beirdd gwlad fu'n canu fwyaf ac ni fydd unrhyw feirniad llenyddol yn rhoi llawer o werth i'r cerddi o safbwynt farddonol neu lenyddol. Arall yw eu hapêl ac y mae Gwyn Briwnant Jones yn gwneud cymwynas a ni trwy ddod a hwy i olau dydd mewn cyfrol mor hyfryd sy’n profi’n gyfuniad go lwyddiannus o hiraeth, gair a llun.
Llinellau Coll gan Gwyn Briwnant Jones. Gwasg Gomer. £9.95.