
 |  | Llawlyfr heb ei ail i rai sy'n hel achau
Argraffiad newydd o Cofrestri Plwyfi Cymru
Dydd Iau, Ionawr 4, 2001
| Cofrestri Plwyfi Cymru Pris: Clawr Caled £14.95. Clawr Meddal £9.95
Newydd ei ailgyhoeddi gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Grwp Archifyddion Sirol Cymru mae llawlyfr sy'n cael ei ystyried yn anhepgor ar gyfer y rhai sy'n hel eu hachau.
Mae Cofrestri Plwyf Cymru yn ailargraffiad hirddisgwyliedig o lyfr poblogaidd a gyhoeddwyd gyntaf yn 1986.
Y manylion diweddaraf Ceir ynddo'r manylion diweddaraf am holl gofrestri plwyf Cymru a'r copïau ohonynt a gedwir gan y Llyfrgell Genedlaethol a'r gwasanaethau archifau sirol.
Mae'n cynnwys hefyd: mapiau'r siroedd, lluniau'r mathau mwyaf cyffredin o gofrestr, rhagymadrodd manwl a mynegai cynhwysfawr.
"Cymharol ddiweddar yw'r drefn gofrestru geni, priodi, a marw sydd gyda ni heddiw," meddai John Watts-Williams, Ceidwad Cynorthwyol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth a chyd-awdur y llyfr gyda Christopher Williams, cyn Archifydd Sirol Clwyd.
"Dim ond yn 1837 y sefydlwyd hi, ac, os ych chi am hel eich achau cyn y flwyddyn honno, yna mae'n rhaid ichi gael golwg ar y cofrestri bedyddio, priodi, a chladdu sy'n perthyn i eglwys y plwyf lle roedd eich cyndadau'n byw.
Ble 'da chi'n dechrau "Ond ble rych chi'n dechrau? Pa gofrestri sydd ar gael heddiw yn y naill blwyf a'r llall, a ble gellwch chi gael golwg arnyn nhw? Dyna'r cwestiynau y mae'r llyfr hwn yn ceisio eu hateb," meddai.
"Erbyn 1986 roedd bron pob un o'r plwyfi wedi trosglwyddo eu cofrestri hynaf i ofal naill ai'r Llyfrgell Genedlaethol neu un o'r archifdai lleol. Ond ers yr argraffiad cyntaf mae cannoedd o gofrestri eraill wedi eu rhoi ar gadw, gan gynnwys dros ddeg ar hugain o rhai cynnar yr oedd arnom ofn yn 1986 eu bod wedi hen fynd i ebargofiant," ychwanegodd.
Diddordeb ar hyd a lled y byd Dywedodd iddo weld cynnydd mawr hefyd yn y diddordeb mewn hanes teulu ymhlith y Cymry a rhai o dras Gymreig ledled y byd ac yn sgil hyn bu aelodau brwd y cymdeithasau hanes teulu yn adysgrifo llawer o'r hen gofrestri plwyf a'u mynegeio.
"Rym ni'n gobeithio bod argraffiad newydd Cofrestri Plwyf Cymru yn mynd i helpu cynifer ag y gall i ddilyn trywydd eu cofnodion teuluol i'r gorffennol pell."
|  | 
|