
 |  | Merched Cymru yn yr ugeinfed ganrif
Adolygiad gan Helen Price
Dydd Iau, Tachwedd 16, 2000
| Out of the shadows : a history of women in twentieth century Wales Deirdre Beddoe University of Wales Press, 2000
Mae troad canrif yn gyfle i oedi ac ystyried y cyfnod sydd wedi mynd heibio.
Dyma gyfrol arall ymhlith llyfrau hanes yr ugeinfed ganrif sy’n cynnig golwg newydd gan iddi ddisgyn i’r dosbarth newydd hwn o "gendered history".
Dim ond yn ystod y chwarter canrif ddiwethaf y cawsom ffrwyth gwaith ar y testun hwn ac fel y mae’r awdur yn cyfaddef, mae llawer o waith i’w wneud eto.
Mae’r llyfr yn llawn cyfeiriadau at ffynhonellau sydd heb eu hymchwilio ac at bynciau ymchwil nad oes neb wedi’u hastudio hyd yn hyn.
Ar gyfer cynulleidfa eang Serch hynny, nid cyfrol drom, academaidd, yw hon ond un wedi ei hanelu at gynulleidfa eang. Mae’n ddarllenadwy ac â darluniau diddorol.
Y mae apêl bersonol iawn a’r cychwyn, gyda rhagarweiniad Deirdre Beddoe yn sôn am ei dwy nain - dwy Gymraes o draddodiadau gwahanol iawn.
Y mae’r llyfr yn peri ichi ystyried a chofio eich storïau teuluol a phrofiadau personol eich hun.
Y mae terfynau’r llyfr yn eang gan gynnwys y cyfnod cyn y rhyfel byd cyntaf (erbyn hyn, ar ôl i’r llwch setlo, mae haneswyr yn tueddu i ystyried y cyfnod hwn gyda’r bedwaredd ganrif ar bymtheg).
Mae’r awdur yn adnabyddus fel hanesydd yn ne ddwyrain Cymru ac ar yr ardal hon y mae pwyslais y llyfr er iddi wneud ymdrech deg i fod yn gynhwysfawr trwy ystyried y gogledd a’r gorllewin gwledig ym mhob pennod.
Er yn hanesydd o’r Gymru Saesneg ei hiaith, yn wahanol i rai eraill mae wedi sylweddoli pa mor bwysig yw’r iaith Gymraeg er mwyn defnyddio’r ffynonellau amrywiol sydd ar gael.
Hefyd, mae’n ystyried menywod o bob dosbarth. "A tall order for a short book," fel y mae hi’n cyfaddef!
Chwe chyfnod Mae’r chwe phennod yn trafod chwe chyfnod: bellach, mae’r ugeinfed ganrif yn cael ei diffinio gan ryfeloedd, felly: cyn y rhyfel; y rhyfel; rhwng rhyfeloedd; y rhyfel nesaf; ar ôl y rhyfel.
Mae’n rhannu’r rhan olaf yn 1970, gyda dyfodiad mudiad rhyddid merched.
Mae’r llyfr yn llawn ffeithiau diddorol ac annisgwyl: Syniad ysbrydoledig pwy oedd gwahodd Lloyd George i fod yn llywydd yNational Baby Week yn 1917?
Diddorol darllen am yrfa Lady Rhondda fel anfonydd bom post cyntaf Cymru;
Timau pêl-droed merched mewn ffatrïoedd arfau yn ystod rhyfel 1914-1918;
Y ffaith fod merched yn rhoi gorchymyn i danio gynnau gwrthawyrennol yn y rhyfel 1939-45 (ond roedd yn rhaid cael dyn i danio).
Ceidwadaeth y dynion Wrth ystyried cyflogaeth mewn addysg, iechyd, bywyd cyhoeddus a bywyd cymdeithasol, ymddengys darlun cyson o geidwadaeth dynion Cymru.
Y mae Deirdre Beddoe yn ein hatgoffa i ddiwylliant gwrywaidd dosbarth gweithiol fod yn gryf iawn yng Nghymru i gadw yr hyn y mae hi’n ei alw yn "the doctrine of separate spheres" gyda’r undebau yn gweithredu er mwyn cadw merched allan o’r gweithle.
Wrth sôn am "fuddugoliaeth" merched Abertyleri yn llwyddo i groesi trothwy sefydliad y glowyr yn 1984 dywed; "People were amazed."
Drws y llyfrgell wedi cau Ac yn y cyd-destun hwnnw, sylwer nad oedd y cyfoeth o ddiwylliant a oedd ar gael i ddynion y cymoedd drwy’r llyfrgelloedd glowyr yn agored i ferched.
(Does dim sôn am yr ystafelloedd darllen i ferched yn llyfrgelloedd dinas Caerdydd cyn y rhyfel byd cyntaf).
Yn dal heb fod yn gyfartal Hyd yn oed ar ôl i ferched ddianc rhag gweini mewn tai parhaodd y syniad o gyfleon cyfartal yn freuddwyd am ddegawdau ac nid yw wedi cyrraedd byth.
Mae enghreifftiau cyfoes brawychus ganddi :
ym Mhrifysgol Caerdydd, er enghraifft, dim ond 25% o ferched sydd mewn swyddi academaidd â chontract parhaol o gymharu â 51% o ddynion.
(Mae’n wir hefyd bod merched yn fwy tebygol o gael eu cyflogi ar raddfeydd clerigol na dynion gyda’r un cymhwysterau yn y sector academaidd – a’r un peth yn digwydd mewn meysydd eraill.)
Yn baradocsaidd, y mae diwedd addysg-un-rhyw wedi golygu llai o gyfle i ferched gael swyddi uchel ym myd addysg, ac i fod yn fodelau rôl i ferched ifanc.
Anghytuno a'r awdur weithiau Llyfr personol ei naws yw hwn ac, weithiau, rhaid anghytuno â safbwynt yr awdur.
Er enghraifft, ei barn am y pumdegau, "with their repressive emphasis on sugar-and-spice femininity – a period which most women, who lived through it, regard as best forgotten."
I gynnig barn hollol bersonol arall, yr wyf yn cael yr argraff fod merched - dipyn bach yn hynach - yn fy nheulu i, wedi mwynhau’r cyfnod hwnnw o ffrogiau llawn, dawnsfeydd, colur ac ati wedi blynyddoedd iwtilitaraidd, di-liw, yn cuddio dan y grisiau yn ystod y rhyfel.
Ond dyma un o rinweddau’r llyfr - ei fod yn peri ichi feddwl ac i ymateb i’r hanes.
Ateb cwestiwn Y mae Deirdre Beddoe yn ateb y cwestiwn, a yw hanes merched Cymru yn wahanol i hanes merched gweddill Prydain? trwy gynnig dylanwad tymor hir "Brad y Llyfrau Gleision" gyda’i bwyslais ar foesau merched, a dylanwad y capeli, o’r ganrif cynt.
Mae hi’n dangos hefyd fod ceidwadaeth ddofn yng Nghymru o gymharu â’r Alban a Lloegr.
Er bod llawer o waith i’w wneud eto yn y maes hwn mae hon yn gyfrol ddysgedig a difyr i’w mwynhau. |  | 
|