
 |  | Cofio naturiaethwr hynaws
Lluniau gwych a straeon difyr mewn llyfr am Ted Breeze Jones
Dydd Iau, Tachwedd 23, 2000 | TED Dyn yr Adar - Cyfrol Goffa Ted Breeze Jones. Golygyddion: Anwen Breeze Jones a Twm Elias. Gwasg Gomer. £19.95.
Y mae teitl cyfrol goffa Ted Breeze Jones yn dweud y stori i gyd - a dim ond yn dweud hanner y stori hefyd.
Mae’r cynnwys ei hun yn llenwi’r bylchau gydag amryw o gyfeillion yr adarwr brwd yn sôn am Ted Breeze Jones y dyn hefyd.
Cwmniwr hynaws a difyr Mae’r hyn a ddywedant yn cadarnhau yr argraff yr oedd rhywun yn ei gael - o gwmniwr hynaws, difyr a gwybodus yn ei faes - o wrnado arno yn darlledu, ei wylio ar y teledu ac o ddarllen ei lyfrau.
Dyma wr a chanddo bob amser ddigon o amser i drafod yn ddifyr faes yr oedd wedi ymddiddori gymaint ynddo, casglu cymaint o wybodaeth amdano a chyfrannu cymaint tuag ato.
Fel sy’n weddus, gwaith Ted Breeze Jones ei hun yw asgwrn cefn y gyfrol hon a drefnwyd gan ei weddw , Anwen, mewn cydweithrediad a naturiaethwr arall, Twm Elias.
Dewis gwych o luniau
Mae’n cynnwys detholiad ardderchog o luniau Ted Breeze Jones yn amrywio o adar, yn bennaf, i famaliaid, pobol a golygfeydd.
Mae rhai o’r lluniau yn mynd a gwynt rhywun; fel rhai o Lwyd y Gwrych yn bwydo cyw Cog anferth, Tylluan yn llyncu llygoden, Twrch daear yn torri i’r wyneb drwy’r pridd a’r adar yn ymgasglu i glwydo adeg machlud yn y gaeaf .
Nodiadau'r naturiaethwr ei hun sydd gyda’r lluniau gan gynnig gwybodaeth ddifyr gan wr a chanddo lygaid am yr anarferol a’r digri:
Adar wedi meddwi yn yr ardd! "Adar yn meddwi? Mae amryw o lwyni Berberis darwini yn ein gardd ac yn sioe o flodau’n flynyddol cyn datblygu’n aeron du-las hardd.
"Bydd yr adar, y Mwyeilch yn arbennig, yn eu llowcio. Ond bydd yr holl aeron maent yn eu llyncu yn eplesu yn eu stumogau a byddant yn rowlio o gwmpas llwybrau’r ardd!
"Mae yna berygl mawr yn hyn, nid ydynt yn ddiogel i hedfan ac mae tuedd iddynt daro yn erbyn ei gilydd neu fynd i wrthdrawiad â ffenestri," meddai.
Dadl gref dros ddirwest, siwr o fod!
Iar yn gori ar gi
Ymhlith y lluniau sy’n goglais y mae’r un o iar yn gori ar gi ac un o dylluan wedi ei dal gyda llygoden a oedd eisoes wedi ei dal mewn trap!
"Pan oedd pla o lygod yn fy ngardd, ac yn achosi tipyn o ddifrod, gosodais hanner dwsin o drapiau i’w dal. Roedd y trapiau wedi diflannu’r diwrnod canlynol.
"Gosodais ychwaneg o drapiau a bum yn ffodus o ddal y lleidr liw dydd golau. ‘Annwyl’, cyw Tylluan Frech amddifad a fagwyd gan Joan Addyman, cymdoges annwyl iawn, oedd wedi gweld ei gyfle i gael bwyd yn ddiymdrech."
Y rhai sy'n ei gofio Y mae 17 yn cyfrannu eu hatgofion am Ted Breeze Jones gan gyffwrdd yn gyntaf â’i fywyd o’i ddyddiau cynnar ym Mlaenau Ffestiniog - ardal yr arhosodd ynddi gydol ei oes.
Yn eu plith y mae Dei Tomos y darlledwr, Gwyn Thomas y bardd, Peter Hope Jones a Duncan Brown y naturiaethwyr. Hefyd: Ken Daniels, Dilwyn Jones, John Lawton Roberts, Gareth Parry, Robin Williams, Wil Evans, Emyr Roberts, Kelvin Jones, John Eric Williams, David Trevor Davies a Gareth Lloyd.
Mae Gwyn Thomas yn cofio am berthynas Ted a chathod - "Go brin y byddai neb yn cael ei demtio i ddisgrifio Ted fel ‘dyn cathod’," meddai!
Dyn hynaws ac amyneddgar Heb eithriad, mae pawb yn tynnu llun o wr hynaws, amyneddgar parod i rannu ei wybodaeth. Yn sicr yr oedd ei ddylanwad yn eang.
"Roedd yn amlwg yn ddyn goddefgar a mawr ei ofal, oherwydd yn ystod y blynyddoedd cynnar yna mae’n siwr fy mod wedi ei yrru’n wirion gyda’m holi diddiwedd ac yn wastad o dan ei draed.
"Trwy gydol fy nyddiau ysgol teimlwn ei fod yna i mi, rhywun y gallwn ddibynnu arno, rhywun y gallwn agor fy nghalon iddo ac fe wrandawai," meddai David Trevor Davies.
Nid adar yn unig Mae Gwyn Thomas yn ein hatgoffa: "Nid adar yn unig a âi a bryd Ted; yr oedd yn naturiaethwr eang ei ddiddordebau. O bryd i’w gilydd byddai ganddo, mewn cas gwydr yn y ty, nadredd - y sglyfa’th pethau anffansiol hynny.
"Ond nid dyna oeddan nhw i Ted - er iddo gael ei bigo fel y dwedwn i, ei frathu fel y dwedai o, gan wiber ar ben ei fys o leiaf unwaith."
Gwiber a Neidr Wair Y mae llun gwibr yn y gyfrol gyda’r nodyn hwn gan Ted:
"Roedd yna hen chwedl fod y wiber yn llyncu ei chywion pan fyddai perygl gerllaw. Rwy’n cofio gwylio Gwiber yn llyncu madfall, ac araf iawn y diflannai i lawr safn y neidr, felly dydw i ddim yn credu y gallai nifer o wiberod bach ddiflannu i lawr gwddf eu mam."
Disgrifia ymateb y Neidr Wair pan fo mewn peryg: "Bydd yn troi ar wastad ei chefn, a’i chorff yn hollol lipa, ei cheg agored yn gam a’i thafod yn hongian. Ystryw yw hwn i argyhoeddi gelyn ei bod yn hollol farw a gall aros yn yr ystum hwn am amser maith."
Difyr ym mhob ffordd O bob safbwynt y mae hon yn gyfrol ddifyr a gwerth chweil: o safbwynt y lluniau gwych, o safbwynt dod i adnabod naturiaethwr hynaws ac o safbwynt y dyfyniadau difyr o ddyddiaduron a chyhoeddiadau Ted Breeze Jones ei hun.
O ran rhywmiad a dyluniad clawr gallai rhywun gael ei demtio i feddwl mai cyfrol i blant yw hon ond y mae ynddi, mewn gwirionedd, berlau inni i gyd. |  | 
|