
 |  | Byd rhyfeddol merched Cymru
Son am gyfnod pan oedd merched yn cael eu dwyn
Dydd Iau, Tachwedd 9, 2000
| Women and Gender in Early Modern Wales. Golygyddion: Michael Roberts a Simone Clarke. Gwasg Prifysgol Cymru. £14.99 neu £35 clawr caled.
Tan yn gymharol ddiweddar gellid yn hawdd iawn faddau i rywun am dybio mai rhywbeth yn ymwneud â dynion yw Hanes. Eithriadau prin oedd y merched a enillai eu lle yn ein llyfrau hanes.
Y mae hyn yn cael ei danlinellu gan yr hyn a ddywed yr hanesydd Michael Roberts mewn cyflwyniad i lyfr y mae wedi ei olygu gyda Simone Clarke.
Mae’n sôn am yr hyn a ddigwydd toc wed'rr Ail Ryfel Byd pan gomisiynodd yr hen Gyngor Sir Ddinbych lyfr hanes i’w ddefnyddio mewn ysgolion.
Pan ymddangosodd, ei deitl oedd, "Eminent Men of Denbighshire."
Nid y byddai hynny wedi ymddangos yn od i neb ar y pryd.
Ochr arall y geiniog Fel y mae ei deitl, Women and Gender in Early Modern Wales, bwriad llyfr Michael Roberts a Simone Clark yw rhoi inni ochr arall y geiniog .
Ar gyfer y lleygwr nad yw’n hanesydd bydd angen diffinio’r gair modern yna. Yng nghyd-destun hanes, fel y dywed Michael Roberts, mae Early Modern yn cyfeirio at gyfnod y Ddeddf Uno, y Rhyfel Cartref a’r ysgolion cylchynnol - cyfnod pan oedd ymagweddau gwrywaidd yn amlwg iawn.
Da felly, cael cyfrol fel hon gyda chyfraniadau gan naw o haneswyr eraill hefyd yn trafod gwahanol agweddau o hanes mewn perthynas a merched.
Y cyfranwyr eraill yw: Richard Allen, arbenigwr o Goleg y Drindod ar y Crynwyr; Lesley Davison sy’n llunio astudiaeth o ferched sengl; Ruth Geuter arbenigrwiag ar wniadwaith yr ail ganrif ar bymtehg; Nia Powell o Brifysgol Bangor; Llinos Beverley Smith - arbenigwraig ar hanes economaidd a chymdeithasol Cymru’r canol oesoedd; Richard Suggett sydd â’i arbenigedd mewn pensaeniaeth ac anthropoleg; Garthine Walker o Brifysgol Caerdydd; Eryn M. White, darlithydd yn Aberystwyth sydd wedi canolbwyntio ar hanes crefyddol y cyfnod dan sylw.
Y mae Michael Roberts hefyd yn ddarlithydd yn Aberystwyth a Simone Clarke yn gymrawd ymchwil ym Mhrifysgol Wolverhampton.
Mae ei chyfraniad hi yn ymwneud â hanes cymdeithasol ym Meirionnydd ddiwedd y ddeunawfed ganrif.
O safbwynt Cymreig Yn ei ragair mae Michael Roberts yn tanlinellu’r ffaith mai llyfr o safbwynt Cymreig wedi ei lunio yn arbennig gyda Chymru mewn golwg yw hwn yn hytrach na chyfrol sy’n cymhwyso damcaniaethau eraill i gyd-destun Cymreig.
Ychwanega fod cyfoeth o dystiolaeth a ffynhonellau Cymreig i hwyluso gwaith haneswyr yn y maes.
Yn sicr y mae digon i gnoi cil arno.
Llinos Beverley Smith, er enghraifft, yn dangos fod y bedwaredd ganrif ar ddeg a’r bymthegfed ganrif yn gyfnod pan sicrhaodd merched Cymru "important advancements". Yr oedd yn gyfnod hefyd pan oedd mwy a mwy o ferched yn derbyn tâl am eu llafur.
Dwyn merched a'u treisio Pennod eithriadol o ddiddorol yw un Garthine Walker, "Strange Kind of Stealing: Abduction in Early Moder Wales" sydd yn rhoi gwedd ddiddorol ac ysgytwol ar y ffordd yr oedd rhai merched yn cael eu ‘meddiannu’ gan ddynion.
Yr hyn sy’n ddiddorol yw: er bod hon yn cael ei hystyried yn drosedd nid oedd gymaint yn drosedd yn erbyn y fenyw fel merch ond yn drosedd yn ei herbyn fel eiddo i ddyn bydded hwnnw yn dad neu yn wr iddi.
Ystyr abduction yma yw fod merch yn cael ei chymryd yn erbyn ei hewyllys a’i gorfodi i briodi neu’n cael ei threisio.
Ond fel y dywedodd un sylwebydd o’r cyfnod, pe byddai’r ferch yn digwydd bod yn etifedd y gwir drosedd oedd mai tir mewn gwirionedd oedd yn cael ei ddwyn. Wrth ddwyn y ferch dwyn y tir y byddai’n ei etifeddu yr oedd y troseddwr. Dyna oedd yn ei wneud yn "strange kind of stealing."
Cawn hanes brawychus o ferch, Ellen Lewis, yn cael ei churo a’i cholbio a’i rhoi mewn cadwynau er mwyn ei gorfodi i briodi.
Pynciau eraill sy’n cael eu trafod yw gwrachyddiaeth; merched a mudiad y Crynwyr; barddoniaeth gaeth gan ferched; gwniadwaith; bywyd merched dibriod.
Y bennod sy’n cloi’r gyfrol yw gan Michael Roberts yn ymwneud â’r agwedd tuag at ddynion y cyfnod gyda’r pennawd pryfoclyd: "more prone to be idle and riotous than the English."
Digon, yn wir, i gnoi cil arno.
|  | 
|