bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
»Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


News imageY ddraig addfwynaf!

Portread o Elen Roger Jones gan Harri Parri

Dydd Iau, Hydref 7, 2000

Fel “Sherman tanc mewn sgert” y disgrifwyd yr actores Elen Roger Jones ar sail ei hymddangosiadau mewn gwahanol ddramau a ffilmiau.

Yn wir, yr oedd ganddi gryn enw am actio draig o ddynes.

Oherwydd hynny yr oedd yn destun syndod i bron bawb a’i cyfarfyddai ei bod yn go iawn yn wraig mor hynaws, addfwyn a chlen.

Yr oedd yn wraig o egwyddorion cadarn a phendant hefyd.

Daw’r ochr hon i’w chymeriad yn amlwg mewn portread ohoni sydd newydd ei gyhoeddi gan Harri Parri.

Ni fydd neb a oedd yn adnabod yr athrawes ac actores weithgar hon yn anghytuno ag ef pan ddywed mai yr allwedd i’w holl egni a gweithgarwch oedd ei chred grefyddol.

“Roedd ei chrefydd yn rhywbeth y daliodd afael tyn arno o ddyddiau plentyndod hyd y diwedd, serch pob newid a fu,” meddai.

“Ar wahân i’w dawn ar lwyfan, ei hargyhoeddiadau Cristnogol a’i sêl dros grefydd oedd y pethau a adawodd yr argraff ddyfnaf ar lawer o’i chyd-actorion,” ychwanega.

Mae tinc o edmygedd yn ei lais pan ychwanega nad oedd yn orthrymus ynglyn â’i chred nac yn anoddefgar at rai a gredai’n wahanol.

Ond nid oedd ei goddefgarwch, meddai, yn gysystyr a dweud ei bod yn fodlon “gwerthu’i genedigaeth fraint i neb.”

“Ildio modfedd y byddai hi, ar y mwyaf, a chadw llathen,” meddai gan ychwanegu fod hynny ynr un mor wir am ei hymtaeb i newidiadau ym myd drama.

Mewn proffesiwn lle’r oedd hynny’n beth anghyffredin iawn yr oedd hi’n llwyrymwrthodwraig - byth yn cyffwrdd diod feddwol.

Gallai hynny greu sefyllfa ddigon digri weithiau ac adroddir hanesyn am ddigwyddiad yn dilyn ffilmio cyfres o’r enw Fallen Hero ym Manceinion gyda Granada.

Ar ôl cael sawl glasied o sudd oren mewn dathliad i foddi’r cynhyrchiad trodd at Nesta Haries a sibrwd wrthi, “Wyddoch chi be’, ‘dw i’n teimlo’n annifyr, Nesta bach. Ddylwn i dalu am rownd deudwch?”

“Heb ddirnad maint eu syched, na phris y farchnad, fe aeth Elen Roger i’w phwrs a thynnu allan bunt! Mae Nesta Harries yn dal i chwerthin wrth gofio fel y bu i Neli’s Round, chwedl y Saeson, gostio pymtheg arall iddi. Ond os mai pysgodyn allan o ddwr oedd hi yn y bar, yn ôl Nesta Harries roedd pobl Manceinion ‘wedi mopio hefo hi’ a hithau’n ffefryn y cynhyrchydd a’r cast.”

Mae Harri Parri yn hael ei ganmoliaeth hefyd o’i gwr, Gwilym, mab i weinidog, bancer o ran galwedigaeth ac un a fu’n gefnogol iawn i holl weithgarwch ei wraig.

“Y gwir amdani oedd, ni fyddai hi ddim wedi cyflawni hanner y gwaith, oni bai fod gwilym yn fodlon cadw gwyl bentan pan oedd ei briod ar gerdded,” meddai..

Yn ddiddorol iawn yr oedd ei brawd yn un gwahanol iawn o ran ei ymddygiad. Ond eto er cymaint y gwahaniaeth, doedd neb yn fwy o edmygydd o Hugh Griffith na’i chwaer ac ar fwrdd yn ei chartref hi ym Môn yr oedd yr Oscar a enillodd y brawd am ei berfformiad yn Ben Hur gydag Elen Roger Jones yn cael boddhad mawr yn ei ddangos i ymwelwyr.

“Welsoch chi Oscar erioed?” oedd ei chwestiwn gyda gwên i mi wrth imi adael yr unig dro y bum yno a phwyso arnaf i godi’r ddelw.

Mae pennod helaeth am Hugh Griffith y brawd lliwgar yn llyfr Harri Parri ac y mae i’w weld mewn sawl un o’r nifer o luniau a gyhoeddir.

Ond mae o, wrth gwrs, yn destun llyfr ynddo’i hun yn hytrach na bod yn droednodyn mewn cyfrol am ei chwaer.

Mae’r gyfrol yn olrhain troeon yr yrfa o’r cychwyn cyntaf un ond weithiau mae rhywun yn ofni bod gormod o gerrig mân wedi eu hel gyda chyfeiriadau weithiau nad ydynt yn ychwanegu ond at y swmp yn hytrach nag at y sylwedd.

Dydi dweud rhywbeth fel, “Mae gen i go’ am fynd i weld y cwmni hwnnw’n perfformio . . .ond fedrai ddim cofio mwy na hynny am y ddrama na’r perfformiad,” o fawr werth i ddarllenydd ond y mae amryw ohonynt megis un yn dyfynnu o lythyr gan rywun sy’n dweud nad yw’n ei chofio!

Ond mae’n bortread sydd wedi ei lunio gyda chyfuniad o gymymdeimlad ac edmygedd ac anodd anghydweld a brawddeg olaf y llyfr: “Gwyleidd-dra fel y dur oedd un Elen Roger, ac anaml y gwelwyd ei dewrach.”

Elen Roger - Portread gan Harri Parri.
Gwasg Pantycelyn. £8.95
Wythnosau Blaenorol:
News image

Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
News imageAdolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

News imageAdolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
News imageLlais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
News imageY Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2
News image



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy