
 |  | Gawn ni'n llyfr yn ôl
Parhau'r ymgyrch am Lyfr Teilo
Dydd Iau, Awst 31, 2000 | Cylchgrawn yr Wythnos
Yr ymdrech ganmoladwy i gael Llyfr Teilo yn ôl i Gymru sydd yn cael y prif sylw yn y rhifyn diweddaraf o’r cylchgrawn Cambria.
Mae hon yn ymgyrch sy’n haeddu’n cefnogaeth.
Efallai i’r ymateb fod braidd yn llugoer hyd yn hyn oherwydd nad yw’r rhan fwyafl wedi sylweddoli gwir arwyddocâd y trysor gwych a rhyfeddol hwn.
Nid yn unig y mae yn arbennig o gain ond y mae ynddo yr enghraifft gynharaf o’r iaith Gymraeg yn cael ei defnyddio ar bapur.
Mae’r cyhoeddiad hanesyddol. Fodd bynnag, nid yn niogelwch Cymru ond yn Litchfield yn Lloegr a dyna pam mai wrth yr enw The Litchfield (neu Chad) Gospels y’i hadnabyddir yn gyffredinol.
Er mai Lladin yw’r geiriau y mae cytundeb ymhlith ysgolheigion mai llaw Gymraeg a’u sgrifennodd. Arddull Gymreig sydd iddyn nhw.
Yn bwysicach na'r testun ei hun, y mae nodyn cyfreithiol ymyl-y-ddalen lle gwelir y Gymraeg yn cael ei defnyddio.
Cartref y gwaith cyn iddo gael ei gludo i Litchfield oedd eglwys Llandeilo Fawr
Hyn oll yn peri i ysgolheigion ddadlau mai enw cywirach na’r Litchfield Gospels fyddai The Teilo Gospels.
A daw hynny a ni at yr ymdrechion presennol i berswadio’r awdurdodau yng Nghadeirlan Litchfield i ddychwelyd Llyfr Teilo i Landeilo, ei gartref go iawn.
Yno yr oedd o yn y flwyddyn 1000AD gyda’r nodyn-ymyl-y-ddalen a ddyddiai o’r nawfed ganrif yn dystiolaeth gynnar iawn o drafodaeth gyfreithiol Gymraeg.
Prawf, meddir, fod yr iaith Gymraeg yn un oedd yn cael ei harfer ar bapur gryn dipyn cyn hyn.
Y mae’n drysor felly mor arwyddocaol i’r Cymry a Maen Scone i’r Albanwyr.
"Nawr ein bod yn gwybod mai ni biau’r Efengylau fe hoffem eu cael yn ôl," meddai Rhodri Pugh yn Cambria - lle yr atgynhyrchir mewn lliw ddalennau sy’n dangos hen gelfyddyd sydd heb ei hail mewn ceinder a chymhlethdod artistig.
Camp y gerddi Camp fodern yr un mor gain yn ei ffordd ei hun yw’r Gerddi Botanegol Cenedlaethol yn Llanarthne sydd ond megis tafliad carreg o eglwys Llandeilo.
Mae Cambria yn holi Dan Clayton-Jones, cadeirydd ymddiriedolwyr y fenter ryfeddol hon a agorwyd yn gynharach eleni.
Napoli Cymru Wn i ddim faint o Eidalwyr sy’n disgrifio Napoli fel Dinbych y Pysgod yr Eidal ond y mae Richard Keen yn fodlon disgrifio "Tenby" fel "The Naples of Wales".
Daw’r geiriau o hysbyseb yn 1921.
Ond y mae’n ychwanegu: "Fodd bynnag, nid yw Dinbych y Pysgod angen cymhariaethau, y mae iddo ei fri ei hun."
Cylchgrawn yw Cambria sy’n tynnu sy’n tynnu sylw at bob agwedd o fywyd Cymru ochr yn ochr a lluniau - postcardaidd eu natur - fel rhai John Keates a dynnwyd ar lannau afonydd Tâf a Thywi.
Dydi hi ddim yn hawdd dweud at bwy y mae'n cael ei anelu. Cyfuniad o ymwelwyr a dosbarth canol sy'n ymddiddori mewn hanesyddiaeth. Mae tinc o'r cylchgronnau hynny a roddir am ddim ar awyrennau neu a gynhyrchir gan gyrff fel awdurdodau datblygu gydag adroddiadau am gynnyrch a phethau Cymreig.
Mae tuedd i'r newyddiaduraeth - onibai am eithriadau nodedig fel Guto Harri - wisgo gwisg 'adroddiadau' swyddogol.
Cambria - Cylchgrawn Dros Gymru. Cyfrol 3. Rhif 5. Canol haf 2000, £2.95 |  | 
|