
|  | N
Hefyd - y rhestr diweddaraf o lyfrau newydd sydd ar werth
Dydd Iau, Awst 3, 2000
|
I fynd yn syth at y rhestr o lyfrau newydd cliciwch yma:
Glyn Evans yn son am ddau lyfr barddoniaeth Mae’n weddus mai bardd swyddogol plant Cymru sydd y tu ôl i ddau lyfr newydd yn denu plant at farddoniaeth.
Eu denu, nid yn unig i ddarllen batrddoniaeth ond eu hannog i gyfansoddi eu cerddi eu hunain hefyd.
Ar ben hynny y mae canllawiau i helpu plant ddeall barddoniaeth a gwahaniaethu rhwng yr amryfal wahanol fathau o gerddi sydd ar gael - yn amrywio o Haicws Siapaneaidd i Limrigau , Tribannau Morgannwg a’r mesurau cynganeddol.
Dau lyfr cyntaf mewn cyfres yw Armadilo ar fy Mhen a Sach Gysgu yn Llawn o Greision gan y Prifardd Myrddin ap Dafydd
Rhwng y ddwy gyfrol y mae cerddi gan oddeutu hanner cant o feirdd Cymraeg a’r rheini yn amrywio o ddwli digri-wirion i’r dwys a difrifol.
Mae’r amrywiaeth o feirdd yn deilwng iawn ac nid anghofir fod caneuon poblogaidd rhywun fel Dafydd Iwan yn gymaint o farddoniaeth a gwaith beirdd mwy traddodiadol fel Ceiriog, I. D. Hoosos, T. Llew Jones ac yn y blaen.
Y mae nifer o’r beirdd fel Lis Jones yn sgrifennu’n benodol ar gyfer plant.
Er mai ‘gwerslyfrau’ wedi eu rhannu yn ddeuddeg gwers neu "uned" yr un yw y rhain, dydyn nhw ddim yn ymddangos fel llyfrau ysgol. Mae’r diwyg yn fywiog, cyffrous a llawen gyda fflyd o gartwnau ardderchog gan Sian Morris.
I unrhyw un - bydded blentyn neu oedolyn - y mae y cyfrolau hyn yn ddetholiadau heb eu hail o farddoniaeth ac ni ddeuai rhywun byth i ben wedi dechrau dyfynnu ohonyn nhw.
Buddiol hefyd yw y nodiadau bywgraffyddol cryno am bob un o’r beirdd.
Yn ei sylwadau cyn cychwyn dywed Myrddin ap Dafydd: "Wrth ymdrin â barddoniaeth, rydym yn ymwneud â’r pleser o drin geiriau mewn sawl ffordd ddiddorol a dyfeisgar. Mae’n bwysig pwysleisio’r pleser sy’n perthyn i’r grefft a’r mwynhad yn y darllen fel ei gilydd. Unedau i’w mwynhau yw cynnwys y llyfr hwn . . ."
Mae fy nghenhedlaeth i yn cofio cyfnod pan nad oedd hynny’n wir a barddoniaeth a poetry yn troi’n hunllef addysgol i blant yn nwylo rhai athrawon - er i mi’n bersonol fod yn ffodus yn fy athrawon Cymraeg a Saesneg i.
Pris y ddau lyfr yw £7 yr un. Cyhoeddir gan Wasg Carreg Gwalch.
Dyma restr yr wythnos hon o lyfrau newydd:
Mae'r rhestr hon gan y Cyngor Llyfrau yn cael ei diweddaru bob dydd Iau. I gael holl fanylion y llyfrau, ac i archebu trwy siop lyfrau o'ch dewis chi, cliciwch ar logo gwales

|  | 
|