
 |  | Hwyl efo pechod
Cylchgrawn yr wythnos yw tu chwith.com ac mae o'n bechadurus
Dydd Iau, Awst 3, 2000 | gan Glyn Evans
Yn ôl y rhai hynny sy’n gwybod y mae pechu yn llawer iawn mwy o hwyl na - wel na pheidio â phechu, mae’n debyg.
Yn sicr, rhoddodd pechod inni rifyn tra diddorol o’r cylchgrawn tu chwith.com.
Blas ifanc sydd ar y cylchgrawn ond yn ddigon difyr ar gyfer pob oed er i ambell gyfraniad fod efallai rywfaint yn hunandybus.
Ar gyfer rhifyn Haf 2000 penderfynwyd cyhoeddi rhifyn ar y thema Pechod a bu’n benderfyniad llwyddiannus gan y golygydd newydd, Lowri Davies o Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth.
Dydi bob cyfraniad ddim yn ffitio’r disgrifiad swydd yn gysact ond fydd neb yn cwyno am hynny.
Holi am y nofel Gymraeg Mae’r cylchgrawn yn agor trwy fentro gyda’r cwestiwn dyrys; beth yw dyfodol y nofel Gymraeg - ffurf lenyddol y byddai rhai yn dadlau nad oes iddi fawr o orffennol heb sôn am ddyfodol.
Gofynnwyd i ddeg o bobl - un ohonyn nhw yn ddienw - basio barn ar drothwy cyfarfod a fydd yn cael ei gynnal yn yr Iglw ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol Llanelli am 11.30, Awst 10.
Mae Bethan Gwanas yn rhoi cic haeddiannol i’r arfer gwirion o gyfieithu nofelau Saesneg ar gyfer oedolion i’r Gymraeg.
Gwell, meddai hi a phawb arall call, fyddai defnyddio’r arian i ddatblygu gwaith gwreiddiol Cymraeg a Chymreig.
Dywed Bethan hefyd nad oes digon o nofelau o sylwedd yn y Gymraeg am nad oes arian ar gael i alluogi awduron i’w sgrifennu.
Rhyw mewn nofelau Yn dal efo’r nofel y mae Ifor ap Dafydd yn cymharu yr ymdriniaeth o ryw ym Monica gan Saunders Lewis, Ienctid yw Mhechod gan John Rowlands a Dirmyg Cyhoeddus gan Androw Bennett.
Yr oedd Ienctid yw Mhechod yn un o nofelau blaengar (rywiol) fy ieuenctid i. Cyhoeddwyd Dirmyg Cyhoeddus gyda’i disgrifiadau amrwd o ryw rai blynyddoedd yn ôl gyda’r awdur, os cofiaf yn iawn, yn defnyddio’r gair erotig i’w disgrifio. Eraill yn defnyddio'r term nofel fudur!
Arlunydd yn sathru cyrn Pechod yr arlunydd John Redhead oedd sathru cyrn mamau dibriod a gweddill trigolion Deiniolen yn Arfon gyda’r llinell "In deiniolen every night converting young girls into single mothers with prams".
Mae o’n dweud, fodd bynnag, mai cael ei gamddeall a’i gamddehongli a wnaeth ac i hynny wneud ei fywyd yn uffern.
Yn ei atebion i gwestiynau Gwenan Thomas mae o mewn peryg o ychwanegu at ei adfyd trwy greu darlun gwahanol iawn o weithwyr chwareli yr ardal o’i gymharu â’r un rhamantus arferol o chwarelwr diwylliedig.
Mae’n eu disgrifio yn mynychu puteindai - "roedd yna o leiaf 15 putain yn y pentref ar un adeg" meddai gan awgrymu eu bod yn bymtheg prysur iawn hefyd.
Cynghorydd - nad yw’n cael ei enwi - sy’n cael y bai ganddo am gamarwain y Deinioliaid.
"Dwi’n wallgo fod y Cynghorwyr lleol ’ma wedi corddi pethau . . . tydi ’ngwyneb i ddim yn ffitio, a dwi’n fastad o Sais yng ngolwg nifer o bobol leol. Mae’n rhaid i artist fynegi ei deimladau . . ." meddai.
Ond go brin y bydd dal i wneud hynny o help iddo adfer ei enw da yn lleol ond mae Tu Chwith yn ddigon craff i sylweddoli fod ei brotestiadau yn gopi da.
Nofelydd yn taro'n ôl Un arall sy’n taro’n ôl wedi i rywun bechu yn ei erbyn yw Owen Martell - enillydd cystadleuaeth Nofel 2000 Gomer.
Gwilym Owen dynnodd flewyn o’i drwyn ef trwy ddisgrifio, hyd y gallaf i ddeall, bennawd di-dreigledig y nofel fuddugol, Cadw dy Ffydd, Brawd, fel Cymraeg Crap.
Mae Owen Martell yn cynnig y rheswm mwyaf gwreiddiol eto am unrhyw anallu ieithyddol. Bu’n rhaid iddo pan yn fyfyriwr tlawd losgi ei lyfr gramadeg er mwyn cadw’n gynnes.
Tebyg fod Gwilym yn defnyddio’r blew y mae’n eu tynnu o drwynau pobl gor-sensitif i’w gadw’i hun yr un mor gynnes!
Edrych ar bechod o safbwynt Pabydd o Gymro y mae Iestyn Daniel a bu Sion T. Jobbins yn trafod pechod gyda rheithor eglwys Pennal, Geraint ap Iorwerth.
Y beirdd sy’n cyfrannu at y cylchgrawn yw Ifan Prys, Iwan Llwyd a Grahame Davies - golygydd newyddion BBC Cymru’r Byd gyda llaw.
ty chwith.com. Cyfrol 13, haf 2000. Pechod. £3.50. |  | 
|