bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
»Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr Llais Tros Heddwch BydRhwng cariad
a'r gwn

Brwydr y canrifoedd rhwng heddwch a heddychiaeth

Dydd Iau, Gorffennaf 27, 2000
Bu gwybod sut i ymateb i ryfel yn broblem i’r eglwys ers ei dyddiau cynnar. Daeth yn fwy o broblem gyda threigl y canrifoedd.

Gellid maddau i rywun sy’n edrych o’r cyrion am feddwl nad felly y dylai hi fod.

Bydd y gyfrol Llais Tros Ddyfodol Byd - Seiliau Diwinyddol Heddychiaeth o gymorth mawr, felly, i grisialu pethau.

Mae’r awdur, E.R. Lloyd-Jones, yn edrych gyda manylder ar heddychiaeth o safbwynt y Cristion gan olrhain y gwahanol safbwyntiau a amlygodd eu hunain dros y canrifoedd.

Nid yn unig y mae’n edrych ar heddychiaeth o safbwynt dysgeidiaeth Crist ond hefyd yn edrych ar ddylanwad dysgeidiaeth yr Hen Destament.

Y mae’n olrhain ddehongliad diwinyddol gwahanol Gristnogion o ddyddiau’r Eglwys Gynnar hyd y dydd heddiw.

Y Rhyfel Mawr
- Cristnogion yn anghydweld

Darlunia’r anhawster sy’n wynebu’r Cristion trwy sôn am y ddau safbwynt gwahanol oedd yna ymhlith Cristnogion tuag at y Rhyfel Byd Cyntaf.

Yr un fu’r problemau gyda rhyfeloedd eraill.

Y Parchedig John Williams, Brynsiencyn, yn annog bechgyn ifainc i ymuno â’r fyddin er mwyn trechu gormes yr Almaen ond Thomas Rees, Bangor, yn dadlau na ddylai fod gan yr eglwys unrhyw ran o gwbl mewn ymladd a thrais beth bynnag yr achos.

Safbwynt John Williams, fel un sawl Cristion ar ei ôl, oedd: mai eiddo Duw yw grym a bod gan ddyn felly yr hawl i’w ddefnyddio er mwyn amddiffyn cyfiawnder.

"Nid yw cenhedlaeth gyfan yn ormod o bris i’w dalu am gyfiawnder," meddai wrth amddiffyn ei safbwynt.

Dadleuai Thomas Rees, ar y llaw aral: fod rhyfel "yn groes i’r union beth y mae’n honni ei ddiogelu" ac o’r herwydd yn anghyfiawn.

Unwaith eto, gellid maddau i’r sawl sydd ar gyrion Cristnogaeth am feddwl fod safbwynt Thomas Rees mor syml â chlir ei resymeg na ddylai fod anhawster o gwbwl ei goleddu.

Sut, yn enw popeth, y gellid cyfiawnhau defnyddio anghyfiawnder i ddiogelu cyfiawnder.

O na byddai hi felly.

Y syniad o Ryfel Cyfiawn

Yn cymhlethu’r ddadl hon ym meddwl sawl un y mae’r syniad o Ryfel Cyfiawn. Yn syml, y ddadl yw fod yna rai pethau sydd mor ofnadwy o ddrwg y gellir cyfiawnhau defnyddio grym milwrol a lladd i’w hatal.

Yr oedd Hitler yn un y gellid cyfiawnhau mynd i ryfel i’w rwystro. Yn fwy diweddar deyrn gel Gadaffi a Saddam.

Mae E. R. Lloyd-Jones yn mynd i’r afael a’r holl ddadleuon hyn gan nodi fod safbwynt yr eglwys gynnar "yn heddychlon-ddiamod."

Dim ond wedyn y llwyddodd dyn i dymheru ei safbwynt hwnnw i gydfynd a’i amgylchiadau ei hun.

Daeth y Cristion i gyflwr y gallai gyfiawnhau rhyfel trwy "haeru ei bod yn rhesymol disgwyl iddo (h.y. rhyfel) adael mwy o dda nag o ddrwg ar ei ôl."

Dim ond pan yw dyn yn defnyddio mwy o rym nag sydd ei angen i’w amddiffyn ei hyn y mae’r trais yn anghyfiawn a phan fo ei filwrio yn ymosodol yn hytrach nag yn amddiffynnol.

Pan ddaeth arfau niwclear

Dengys E. R. Lloyd-Jones sut y cymhlethwyd y ddadl gyfleus a diddig hon fwyfwy gyda dyfodiad arfau niwclear a chanddynt y gallu i ddinistrio dyn a’i fyd.

O ddarllen y gyfrol mae rhywun yn sylweddoli’n fuan nad yw’r holl dindroi ac ystumio ymenyddol yn tanseilio mewn unrhyw ffordd ddamcaniaeth yr heddychwr pur.

"Dadl yr heddychwr yw fod rhyfel yn defnyddio moddion sy’n groes i’r diben. Pan ddywedir bod rhyfel yn rhywbeth y mae cariad yn gofyn amdano, rydym yn dweud fod cariad yn gofyn am rywbeth sy’n groes i’w hanfod ei hunan," eglura E. R. Lloyd-Jones.

I aralleirio T. H. Parry-Williams does dim dianc rhag hyn ac y mae’n dda inni gael ein hatgoffa gan E. R. Lloyd Jones o’r hyn a ddywedodd Gandhi; nad methiant heddychiaeth a welsom dros y canrifoedd o ryfel ond methiant trais "am na roesom gyfle i heddwch."

Da hefyd inni gael ein hatgoffa fod sawl gwahanol math o ryfel yn amrywio o rai arfog i rai economaidd a’u bod i gyd yn fygythiad i gyfiawnder.

Dim ond cariad all fod yn drech na hyn. Sut mae argyhoeddi pobl i'w ddefnyddio yw’r cwestiwn nad ydym wedi cael ateb iddo hyd yn hyn.

Llais Tros Ddyfodol Byd - Seiliau Diwinyddol Heddychiaeth gan E. R. Lloyd-Jones. Gwasg Pantycelyn. £4.95.

Cliciwch yma
er mwyn mynd yn syth i'n rhestr o lyfrau sydd newydd eu cyhoeddi.

 
Wythnosau Blaenorol:

News image

Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
News imageAdolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

News imageAdolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
News imageLlais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
News imageY Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2
News image



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy