
 |  | Yr heip yn drech na'r safon!
A yw'r llyfrau Harry Potter gystal ag y mae'r heip yn ei ddweud?
Dydd Iau, Gorffennaf 6, 2000
| Y mae cysylltiad ar waelod yr erthygl hon gydag erthygl arall berthnasol
Bydd dydd Sadwrn yn ddiwrnod mawr mewn siopau gwerthu llyfrau Saesneg. Dyma'r diwrnod y bydd y llyfr Harry Potter diweddaraf ar werth.
Y mae'r digwyddiad yn wers mewn heipio cyfres sydd wedi gwneud ei hawdur yn filiwnydd.
Yn hanes cyhoeddi llyfrau plant yn Saesneg fu yna yr un gyfres fwy llwyddiannus na'r un a grewyd gan y fam sengl, J K Rowling, mewn caffi yng Nghaeredin.
Yn Nulyn, hyd yn oed, bydd siopau llyfrau yn agor am hanner nos er mwyn cael dechrau gwerthu gynted a bo modd.
Er nad oes neb yn dadlau ynglyn â llwyddiant angrhedadwy y llyfrau y mae gwahaniaeth barn dybryd ynglyn â safon y sgrifennu.
Heip yn drech na safon Mewn erthygl yn yr Observer yn ddiweddar damniwyd a melltithwyd y llyfrau gan Anthony Holden a gyhuddodd y llesmair Harry Potteraidd a grewyd o fod yn orchuchafiaeth heip dros safon.
Disgrifiodd ef ddarllen llyfrau Harry Potter fel gweithgarwch sydd yn trethu'r meddwl fymryn yn llai gwylio Neighbours!
"Llyfrau cwbl un ddimensiwn yw y rhain. Cartwns Disney mewn geiriau, dim byd mwy," meddai wrth ddisgrifio'r straeon am y dewin bach fel "Billy Bunter ar ysgub."
Cyfeiriodd hefyd at ryddiaith bedestriaidd angramadegol a roddodd gur pen iddo
Gellid defnyddio dawn yn well "Os yw Rowling wedi ei bendithio a'r ddawn hudolus i dreiddio i feddyliau ifainc ni allaf ond dymuno na fyddai wedi gwneud defnydd gwell ohoni," meddai.
Aeth ymlaen i gyhuddo'r llyfrau o fethu a throsgwlyddo i blant fwynhad llenyddol ac o fethu a'u hannog i gwestiynu sicrwydd honedig eu byw bob dydd.
"Arwr plant ar gyfer ein cyfnod gelfyddydol dlawd ydi o," meddai..
Un sydd yn anghydweld yn llwyr a hyn yw Kathryn Rowlands - un o'r llaweroedd o oedolion sydd wedi eu hudo i fyd Harry Potter.
Cliciwch yma i weld beth sydd ganddi hi i'w ddweud |  | 
|