
 |  | Creu llyfr am helynt y peis
Wynford Ellis Owen yn troi dramau teledu yn straeon
Dydd Iau, Mehefin 29, 2000
| Y mae'r rhai hynny ohonom sy'n cofio cychwyn S4C yn cael ein temtio i feddwl - yn hiraethus - am Joni Jones wrth wylio'r gyfres Porc Peis Bach ar y sianel yn awr.
Hynny'm bennaf oherwydd mai bachgen drygionus yn gwisgo'r hyn oeddem ni'n ei alw yn bwlofyr yw'r arwr unwaith eto.
Mae cyfnod Porc Peis fymryn yn nes atom - ond ddim llawer o ran naws a meddylfryd.
Wynford Ellis Owen, un o arwyr - arloesydd, yn wir, gyda Mici Plwm - teledu plant yn y Gymraeg sydd y tu ôl i Porc Peis ond nad yw hon mor zany ag anturiaethau Syr Wynff ap Concord y Bos a Phlwmsan a ddaeth ag ef a Mici Plwm i amlygrwydd gyntaf.
Lladdwyd Syr Wynff a Phlwmsan gan S4C ond cyhoeddwyd llyfr i gydredeg a'r gyfres Porc Peis Bach yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.
Mae cynnwys Porc Peis Bach, y llyfr, yn addasiad ffyddlon o'r gyfres deledu sydd i'w gweld ar hyn o bryd.
Sylfaenwyd y stori Porc Pei gyntaf ar ddigwyddiad go iawn yn hanes Wynford Ellis Owen sydd fel Kenneth Robert Parry y straeon yn fab i weinidog ac a oedd yn blentyn - drygionus, siwr o fod - yng nghyfnod y straeon.
Mae'r stori wreiddiol - a'r gyntaf yn y llyfr - yn ymwneud a Wynford, pan yn fachgen, yn torri yn ofalus waelod porc pei a dwyn y cig ohoni cyn gosod y gwaelod yn ôl fel pe na byddai wedi ei chyffwrdd.
O ganlyniad ymwelodd cynrychiolydd gwneuthwyr y peis a'i gartref a chyfaddef yn eu hanwybodaeth mai nhw oedd ar fai! Mae honno'n stori wir, fe'm sicrhaodd.
Y mae Kenneth Robert Parry y math o hogyn yr oeddem yn gyfarwydd ag yng nghomics y cyfnod dan sylw - yn ddrygionus yn hytrach nag yn ddrwg.
Bachgen ei gyfnod ydi o ac y mae hynny, yn fy marn i, yn sicrhau fod apêl y llyfr a'r gyfres deledu gyda'i hymdeimlad o gyfnod yn fwy, mewn gwirionedd, at oedolion nag at blant yr oes hon.
Porc Peis Bach gan Wynford Ellis Owen. Hughes. £3.99 |  | 
|