 Cyfrol newydd gan feirdd ifancBydd yr hyn sy’n cael ei disgrifio fel "blodeugerdd rymus" o waith beirdd newydd o Gymru yn cael ei chyhoeddi ar Orffennaf 5.
Ar gyfer y digwyddiad yn yn y Sports Cafe, Bae Caerdydd am 19.30 d bydd, Rhodri Morgan AM yn bresennol a golygydd Poetry Wales, Robert Minhinnick, yn llywio'r noson.
Dywedwyd y bydd cyhoeddi Oxygen yn ddathliad o asbri barddoniaeth gyfoes o Gymru ac yn adlewyrchiad o'r dalent newydd sydd ar gael.
"Mae'n gymysgedd eclectig a phenfeddwol o gerddi yn y ddwy iaith gan 30 o feirdd o'r genhedlaeth iau yng Nghymru, gyda chyfieithiadau Saesneg yn gyfochrog a’r cerddi Cymraeg.
"Yn ddinesig ac yn wledig, yn eironig ac yn fywiog, yn delynegol ac yn angerddol, mae Oxygen yn tanlinellu safle barddoniaeth wrth galon un o ddiwylliannau hynaf Ewrop," meddai llefarydd.
Y beirdd yw (s = cerddi Saesneg): Nici Beech; s Kate Bingham; s Sarah Corbett; Grahame Davies; Mererid Puw Davies; Huw Meirion Edwards; s Catherine Fisher; Ifor ap Glyn; s Karen Goodwin; e Paul Henry; Meirion MacIntyre Huws; Elin ap Hywel; Ceri Wyn Jones; s Stephen Knight; Emyr Lewis; s,c Gwyneth Lewis; Iwan Llwyd; Elin Llwyd Morgan; Twm Morys; s Deryn Rees-Jones; s Oliver Reynolds; Elinor Wyn Reynolds; s S. W. Rhydderch; s Don Rodgers; s Fiona Sampson; s Owen Sheers; s Zoe Skoulding; s Anna Wigley; s Frances Williams; Gerwyn Williams. |  | 
|