
 |  | Cylchgrawn yr wythnos
Glyn Evans yn trafod Planet
Dydd Iau, Mehefin 22, 2000
| Byddai clawr y rhifyn diweddaraf wedi bod yn ddigon i'm perswadio i brynu'r rhifyn diweddaraf o Planet (rhif 141).
Dydw i ddim yn aficionado mewn gwirionedd. Yr ydwi'n teimlo fod gen i'r hawl i ddefnyddio gair crand wrth son am Planet gan fod Planet ei hun yn defnyddio llawer o eiriau nad ydw i yn eu deall.
Cylchgrawn felly ydi o.
Darllenais ddalen gyfan o Planet deirgwaith rai blynyddoedd yn ôl heb ddeall beth oedd hi'n ei ddweud.
Os ydi'r Mirror wedi ei sgrifennu ar gyfer rhai y mae eu hoed darllen yn chwech mae ambell un o awduron Planet yn sgrifennu fel pe byddent a'u llygaid ar oed yr addewid a mwy . . .
Mi fyddwch chi'n deall, felly, pam mai mynd am y clawr a wnes i'r tro hwn. Cyfuniad trawiadol o elfennau allan o luniau gan yr arlunydd Ken Elias, y mae Ceri Thomas yn trafod ei waith.
Yn ychwanegol at hynny y mae detholiad eang o luniau trawiadol i atgyfnerthu'r geiriau. Y rheini a dynnodd fy llygaid i.
Llawn cystal iddyn nhw wneud hynny.
Bu yna adeg pan mai'r unig beth y byddwn yn ei wir ddarllen yn Planet oedd sylwadau crafog Dylan Iorwerth ar bynciau'r dydd. Dydi Dylan Iorwerth ddim yn pigo ac yn goglais mwyach ac mae'r cylchgrawn ar ei golled oherwydd hynny.
Fodd bynnag, tynnodd sawl erthygl fy sylw - nid lleiaf un holi-ac-ateb gydag un o'r ychydig wleidyddion sy'n fodlon siarad yn blaen, Tony Benn.
Braf ei weld o yn rhoi peltan go hegar i'r "consensus politics" a ddaeth yn gymaint rhan o eirfa gwleidyddol Cymru ers ychydig cyn dyfodiad y Cynulliad Cenedlaethol.
I mi, mae'n un o'r cysyniadau (gair Planetaidd) hynny yr ydych yn gwybod yn reddfol nad yw'n iawn.
Dywed Tony Benn mai'r hyn y mae'r math yma o wleidyddiaeth yn ei wneud yw cuddio'r ffaith mai hanfod gwleidyddiaeth i sosialydd yw'r gwrthdaro rhwng y rhai sy'n creu cyfoeth a'r rhai sydd biau'r cyfoeth.
Y mae'n rhybuddio hefyd y gall datganoli greu'r argraff o ddemocratiaeth heb sicrhau hynny.
Erthygl arall a fydd yn peri inni feddwl yw un y golygydd, John Barnie, am Gyngor Celfyddydau Cymru a'i helyntion dros y blynyddoedd diwethaf.
Y mae o'n galw am ailfeddwl radical ynglyn â noddi'r celfyddydau yng Nghymru trwy gyflogi swyddogion celfyddyd gyda gweledigaeth - a rhoi iddyn nhw yr arian i droi eu gweledigaeth yn ffaith gyda chefnogaeth byrddau pwnc cryfion.
Mae'n dadlau dros ymwrthod ag amaturiaeth a mynd am y sylweddol yn hytrach na'r poblogaidd.
Pa mor boblogaidd fydd siarad fel yna ymhlith y rhai sydd am fwynhau celfyddyd sy'n gwestiwn arall.
Perthynas claf a'i feddyg Ar wahan i'r tywydd yr un peth y mae pobol yn siarad amdano yw eu hiechyd. Anodd deall, felly, yr anhawster a gaiff sawl un i drafod yr union beth hwn gyda'u meddyg!
Synnwn i ddim nad yw hynny yn fwy o adlewyrchiad ar ein meddygon nag arnoch chi neu fi.
Yn Stories Always Have Meanings cawn olwg ar gleifion trwy lygaid Glyn Elwyn o adran meddygaeth gyffredinol Coleg Meddygaeth Caerdydd.
Trafod y mae ymweliad pedwar claf ag ef gan roi golwg inni ar bethau o ochr y meddyg i'r ddesg.
Yr hyn sy'n fy nharo i yw fod Glyn Elwyn yn feddyg tra gwahanol a mwy cydwybodol na llawer o'r rhai y cefais i, a sawl un o'm ffrindiau y bum yn siarad a hwy, brofiad ohonynt.
Dim ond gobeithio fod y meddygon hynny ymhlith selogion Planet.
Planet, The Welsh Internationalist - 141. £3.25. |  | 
|