
 |  | Cyfrol gwerth ei darllen - ddwywaith. . .
Adolygiad o gyfrol Medal Lenyddiaeth Eisteddfod yr Urdd
Dydd Iau, Mehefin 22, 2000 | Brasluniau - Cyfrol y Fedal Lenyddiaeth. Gwasg Dwyfor. £2:50.
Enillydd Medal Lenyddiaeth Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni oedd Mari Sian Stevens o Gasllwchwr ger Abertawe. Dyma adolygiad Esyllt Môn Jones.
Cyfrol o ryddiaith a barddoniaeth yw Brasluniau.
Yn gyntaf, y farddoniaeth. Yn y gerdd Cul Cymru cawn ddelweddau cofiadwy o ddinas Abertawe lle maged y bardd.
Gwelwn ôl-ddylanwad Americanaidd yn y gerdd Friends sy'n seiliedig ar yr opera sebon o'r un enw ar y teledu.
Mae y ddwy gerdd yn sefyll allan.
Cerdd gofiadwy hefyd yw Atlanta lle mae'r bardd yn cyffelybu y clefyd Parkinson Muhammed Ali gyda'r un clefyd yn dwyn ei thaid oddi wrthi hi.
Cofiadwy hefyd yw'r gerdd i Josie Russell. Delwedd ysgytwol a dawn dweud arbennig a welwn isod :
Wrth i un gnoc,cnoc,cnoc olaf ddedfrydu Hen Blentyn Bach i grogi ar ei galar (t.21)
A throi yna at y straeon byrion sy'n dwyn y teitl, Llun o Luniau. Gwelwn ddylanwad y gyfres Who Wants to be a Millionaire yn y stori fer Rheolau. Stori hynod afaelgar sy'n cyflwyno prif themau'r awdur sef anffyddlondeb perthnasau agos byddent yn gariadon neu'n deuluoedd.
Stori fer afaelgar arall yw Negatif. Cystudd Medi yw a ydi hi'n feichiog ai peidio. Mae ei chariad tywyllodrus yntau yn ofni canlyniad positif gan mai chwarae gêm o gariad y mae o ac yn glafoerio dros ferched sengl eraill ar nos Sadwrn.
Meddai amdano'i hun: Diawl dauwynebog ydw i- yn gwisgo masg o ddifaterwch carwr anffyddlon dros fy nheimladau go iawn.(t.44)
Daw'r glec go iawn ar ddiwedd y stori gyda Medi yn ennill y gêm:
Mae'r gêm drosodd.Wrth iddi ddirwyn y daith i ben.(t.56)
Twyll dau gariad a gawn yn y stori fer, Darlun lle dadlennir perthynas drwy gyfrwng e-bost rhwng y ddau - y naill yng Nghymru a'r llall yn America.
Diweddu a wna eu twyllo hwythau.
I gloi'r gyfrol mae stori i blant, Mr.Abracadabra Jones lle dengys yr awdur wir ddawn a dychymyg trwy fynd i fyd plant a phobl.
Nid oes amheuaeth ei bod yn tynnu oddi ar brofiadau'r ifainc ac mae hi'n amlwg yn adnabod ei chymeriadau.
Meddwl miniog, gwibiog a chyfoes piau hi ac mae hon yn gyfrol gwerth ei darllen o leiaf ddwywaith i wir werthfawrogi camp ac arbenigedd yr awdur.
|  | 
|