
 |  | Tri chylchgrawn Urddasol!
Glyn Evans yn cael golwg ar gylchgronau'r Urdd ar gyfer bywyd modern
Dydd Iau, Mehefin 15, 2000
|
Cylchgrawn yr Wythnos: Hoffi'r peth neu beidio mae gennym oll ddiddordeb mewn selebs - hen air Saesneg, hyll, am bobol sy'n enwog am fod yn enwog.
Maen nhw dan draed rhywun ym mhob man yn dweud ac yn gwisgo y nesa peth i ddim. Ffrogiau efo mwy o holltau a thyllau nag o ddeunydd ynddyn nhw.
Y ferch gyntaf ar Channel 4 Un ohonyn nhw ydi'r ferch o Brestatyn, Carol Vorderman, a ddaeth i enwogrwydd gyntaf am fod y ferch gyntaf ar Channel 4 - ac wedyn am fod yn beniog.
Erbyn hyn mae hi mor enwog am fod yn enwog am fod yn beniog y mae gan bobl fwy o ddiddordeb yn ei phen ôl nag yn ei phen gwneud syms.
Mae'r llun ohoni ar glawr ac oddi mewn i iaw, cylchgrawn yr Urdd i ddysgwyr ifanc, yn gwbwl weddus fodd bynnag.
Hi yw gwestai'r mis gyda phob math o fân wybodaeth amdani - ei hen dad-cu yn gweithio yn Indonesia lle helpodd ddarganfod moddion rhag beri-beri. Ysgrifennodd lyfrau am adar a phlanhigion y wlad.
Mae rhai blynyddoedd ers i mi weld cylchgronau'r Urdd er y byddaf yn dal i droi at Gymru'r Plant yr oes o'r blaen o bryd i'w gilydd.
Cymreictod ac addysg ers talwm Yr oedd pwyslais y rheini yn drwm ar Gymreictod ac addysg.
Does yna ddim mwyach Gymreictod herfeiddiol y gorffennol - heddiw, gwneud pethau yn naturiol yn y Gymraeg heb bregethu am hynny yw y dull.
Er bod yna ymdrech o hyd i addysgu mae'r dull yn dra gwahanol i un gwerslyfryddol y gorffennol er mor arloesol oedd y rheini yn eu dydd.
Yn y rhifyn o iaw a gefais i y mae erthygl am y digartref, poblogrwydd newydd tatwio eich corff gyda sesiwn holi-ac-ateb â pherchenogion stiwdio datwio yn Ninbych-y-pysgod.
"Mae'n rhaid i chi fod yn artistig. Mae'n rhaid i chi gael hyfforddiant am ddwy flynedd. Mae'n rhaid i chi fod yn tatwist am ugain mlynedd i chi ddod yn Master Tatooist."
Mi fodlona i ar sgrifennu negeseuon ataf i fy hun ar gefn fy llaw efo beiro.
Digonedd o luniau Mae'r ddau gylchgrawn arall, Cip a Bore Da ar gyfer plant iau. Cip ar gyfer rhai rhwng saith ac unarddeg a Bore Da ar gyfer dysgwyr.
Y ffilm Gwr y Gwyrthiau sy'n cael prif sylw - canmoliaethus - Cip ond y mae yna hefyd bosau, stori a straeon cartwnaidd lu.
Hefyd, mae sylw i gwn achub penmaenmawr a darn am gyfres deledu newydd, Porc Peis Bach.
Mae yna hefyd gyfarwyddiadau sut i wneud coctels heb alcohol.
Mae pwyslais ym mhob un ar gyflwyno'n gyffrous ac yn fywiog - er, weithiau mae yna duedd i bentyrru pethau.
Cip - 90c; iaw - £1; Bore Da - 80c |  | 
|