
 |  | Merched ddoe
Yn dal cyn hardded ag erioed
Glyn Evans yn edrych ar Gylchgrawn yr Wythnos
Dydd Iau, Mai 4, 2000
| Dydyn nhw ddim yn eu gwneud nhw fel oeddan nhw. Dyna’r unig gasgliad i ddod iddo wrth fyseddu’r rhifyn diweddaraf o’r cylchgrawn i ddynion, Later.
Rhaid i’r cylchgrawn hynod gyfoes ac amserol hwn fynd yn ôl i’r pumdegau i chwilio am pinup werth chweil.
Ac yn wir i chi, hyd yn oed heddiw y mae yna rywbeth yn dal yn go arbennig ynglyn â'r Brigitte Bardot ifanc - y ferch a oedd yn gyfuniad o ddiniweidrwydd a goglais rhywiol ac y bathwyd y term sex kitten ar ei chyfer.
Llun a dynnwyd ohoni hi - the 20th century’s most remarkable sexual icon - yn noeth yn y pumdegau yw un o brif luniau’r cylchgrawn a dwy ddalen ohoni mewn wyth gwahanol ystum rhywiol i gadarnhau cywirdeb y geiriau.
Ac oedd, yr oedd rhywbeth yn sbesial ynglyn â seren Et Dieu Crea La femme - A Duw a Greodd Ddynes. O safbwynt pryfocio rhywiol dydi’r eiconau modern fel Heather I-feel-sexy-Graham ddim yn y râs hyd yn oed mewn rhan arall o'r cylchgrawn.
Yn syth i Uffern Yr ydym i gyd, dwi'n siwr, yn falch o ddarllen fod Heather (y mae ei chorff lluniaidd wedi ei deilwrio’n arbennig ar gyfer hotpants a sgidiau uchel) wrth ei bodd gyda "crude humour" ac yn gwbl gartrefol gyda’r "concept of sexual congress."
Hynny, er ei bod wedi ei magu yn "devout Catholic" y dywedwyd wrthi fod y llwybr rhywiol yn arwain ar ei ben i Uffern.
Yr argraff a gawn yw ei bod erbyn hyn wedi cysegru ei bywyd i ddadwneud diniweidrwydd yr ieuengrwydd Pabyddol hwnnw - ac yn gwneud eithaf joban o hynny mewn ffilmiau nid amwys eu teitlau fel Two Girls and a Guy - heb anghofio am ei phen ôl wrth gwrs.
Ond mae’r cylchgrawn yn mynnu edrych yn ôl. Nid yn unig ar Bardot ond ar brydferthwch Kim Bassinger, hefyd, a fu’n hudo Garth mewn londret yn Wayne’s World yn 1993.
Y cwestiwn nad yw’n cael ei ofyn na’i ateb yw; a fyddai y boneddigesau Bassinger, Bardot a Graham yn edrych ddwywaith arnom ni ddarllenwyr Latest.
Dynion pasgedig, boliog A chymryd ein bod ni i gyd yn edrych fel y dynion yn yr erthygl am golli pwysau, Male weight-loss: Forget Everything you’ve been told, go brin y byddan nhw onibai eu bod nhw, fel Heather, yn mwynhau jôcs - neu o leiaf ddynion pasgedig, boliog, sy'n edrych yn dipyn o jôc.
Datgelu’r "ffeithiau caled" sut yr ydym yn ennill brasder a sut i gael gwared ag ef wedyn y mae’r erthygl. Ymhlith yr awgrymiadau y mae codi awr yn gynt a mynd allan i gerdded am hanner awr cyn brecwast.
Yn wir, cerddwch, cerddwch, cerddwch ydi’r neges fawr i foliau mawrion fel fi: cerdded i fyny’r grisiau yn lle defnyddio'r lifft; cerdded i fyny grisiau eraill i dai bach y llawr uwchben yn hytrach na’r rhai cyfleus ar eich llawr eich hun a cherdded i weld pobol mewn swyddfa ym mhen draw yr adeilad yn hytrach na'u galw ar y ffôn mewnol.
Ac yfed llawer o ddwr. Hynny, mae’n debyg, fel eich bod yn treulio mwy fyth o amser yn nhai bach y llawr uwchben a gwneud mwy fyth o waith siarad i’ch cydweithwyr.
Beicio yn eich hunfan Awgrym arall, mewn erthygl arall, ydi beicio. Ond nid y math hwnnw o feicio sy'n mynd a chi i rywle ond ar gefn beic sy’n sefyll yn ei unfan waeth faint fyddwch chi’n dradlo.
Pwy fyddai’n credu y gallech chi losgi 700 calori mewn hanner awr a deng munud trwy aros yn eich hunfan?
Ond go brin fod hwn yn ymarfer i'w argymell i’r rhai hynny sy’n teimlo nad yw eu bywyd yn mynd i le’n byd.
Sut i fod yn sâl Ac os na wnaiff yr holl ymarfer sefydlog yma ichi deimlo’n gwla mae Later yn rhoi manylion bob mis am salwch y gallwch ffonio’r gwaith amdano i gael amser i ffwrdd.
Mae'r golofn, "Ways to get a day off sick - illnesses you can fake on the phone" yn swnio'n un fuddiol iawn i mi.
Salwch y mis y tro hwn yw Bowenoid Papulosis sy’n gwarantu saith niwrnod ar y tro i ffwrdd yn sâl ichi.
Nid yn unig rhoddir manylion am y salwch ei hun ond hefyd, gynghorion ynglyn a'r pre-illness preparation achos cyfrinach unrhyw salwch smalio effeithiol yw fod y bobol yn y gwaith yn dweud, pan ydych chi i ffwrdd, bethau fel, Dydio ddim wedi bod yn edrych yn iawn ers dyddiau.
Gyda llaw rydw i’n hoffi’r awgrym o gael salwch hynod bersonol gan fod bosus yn swil o holi’n rhy fanwl ynglyn â’r rheini.
Ffasiwn Caerdydd a Merthyr Y mae llawer gwell siap fodd bynnag ar y criw o fechgyn ifanc y daeth adran ffasiwn Later ar eu traws ar strydoedd Caerdydd.
Sean yr entrepreneur a qualifiedpsychologist 29 oed yn gwisgo siaced a throwsus gan Hennes er enghraifft a Craig, 27, y rheolwr storfa, mewn Rollneck gan French Connection a throwsus gan Reiss.
Ond dydi Later ddim yn datgelu ei fod ef, Craig Lima, hefyd yn chwarae pêl-droed i Ferthyr Tudful lle mae wedi sgorio pedair gôl i'r tîm cyntaf y tymor hwn a lle mae'n cael ei adnabod fel tipyn o classy dresser.
Pawb a'i broblem Mae gan Later ("Voted best new magazine," meddan nhw, er na ddywedir gan bwy!!) golofn hefyd ar gyfer y rhai hynny sydd ddim yn sgorio - neu yn achos un darllenydd y disgwylir iddo sgorio mewn lleoedd anghyfleus.
Ar gyfer rhoi'r bobl hynny ar ben ffordd sicrhawyd gwasanaeth Alan Percy, yn "resident therapist and relationship adviser" a Paul Daniels y consurwr.
Sgrifennodd un o'r darllenwyr i mewn ii gwyno, os cwyno hefyd: "My girlfriend only likes sex in strange places - parks, buses, anywhere but the bedroom in fact. It’s great every now and again, but how can i convince her that sex can be just as much fun at home?"
Dydio ffadan o wahaniaeth gen i be di cyngor Alan a Paul. Yr hyn ydw i eisiau wybod ydi, lle gallaf i ddod o hyd i ferch felna?
Later. Rhifyn 13. Mehefin 2000. £3.
Os yr ydych eisiau ymateb i'r erthygl hon cliciwch yma a gwebostiwch: glyn.evans@bbc.co.uk |  | 
|