
 |  | Pwy laddodd yr iaith?
Glyn Evans ar drywydd llofrudd mewn cyfrol o farddoniaeth
Dydd Iau, Ebrill 27, 2000
| Un o'r cyfrolau mwyaf anghyffredin o farddoniaeth i gael ei chyhoeddi yn y Gymraeg yw un o'r llyfrau sydd ar restr fer Llyfr y Flwyddyn eleni.
Stori dditectif ar ffurf cyfres o gerddi ydi Y Llofrudd Iaith gan Gwyneth Lewis - bardd sydd wedi ei henwebu ar gyfer y gystadleuaeth hon o'r blaen.
Y cwestiwn y mae'n rhaid i'r Ditectif Carma ei ateb yw pwy a laddodd yr iaith Gymraeg ac ef yn un o'r cerddi cyntaf sy'n gosod yr amgylchiadau ger ein bron:
Galwad nos Sul. Preswylfa. Y corff ar ei hyd ar y grisiau, cyllell i'w gweld, yng nghefn yr hen fenyw. Blaenor, gwraig barchus, yn ei dillad nos Dwy ferch o dan deimlad - archifydd, bardd. Ty fel pin - oglau polish, ôl glanhau ar y Saboth. A oedd rhywbeth yn eisiau? Arian? Ei thlysau? Amhosibl dweud ai disgyn neu esgyn roedd y wraig cyn cael ei thrywanu. Doedd dim digon o waed.
Pe na byddai ond am y syniad ei hun - y syniad y gall iaith gael ei llofruddio - y mae'r awdur yn ennyn edmygedd a phesgir yr edmygedd hwnnw wrth iddi ddatblygu ei syniad mewn 37 o gerddi i gyd.
Y mae hon yn gyfrol sydd yn mynnu cael ei darllen a'i hail-ddarllen sawl gwaith achos i'r darllenydd y mae yna fwy na dim ond cael gwybod pwy yw'r llofrudd. Y mae'n fater hefyd o ddehongli'r delweddau, y trosiadau a'r cyffelybiaethau wrth inni geisio adnabod fel pobol yn y byd go iawn y rhai sydd dan amheuaeth yn y cerddi.
Allai ddim dweud fod pob darn o'r pysl yn ddealladwy hyd yn oed yn awr ac y mae hynny yn rhan o apêl - a rhwystredigaeth y gyfrol.
Ceir rhyw lygedyn newydd o oleuni bob tro y darllenir. Gwelir rhywbeth na welwyd o'r blaen
Y mae Gwyneth Lewis yn fardd amlwg yng Nghymru erbyn hyn ac yn anghyffredin yn y ffaith ei bod yn cyhoeddi yn y Gymraeg a'r Saesneg. Cyhoeddodd Sonedau Redsa yn 1990, Cyfrif Un ac Un yn Dri yn 1996. Yna yn 1995 a 1998 cyhoeddodd gyfrolau Saesneg, Parables & Faxes a Zero Gravity.
Y bardd, Yr Archifydd (oes yna arwyddocad i'r brif lythyren?), y ffarmwr a'r cigydd sydd dan amheuaeth ond yn amlwg y maen nhw yn cynrychioli nodweddion neu deipiau mewn cymdeithas.
Er bod hon yn gyfrol y mae'n rhaid ei darllen fel uned y mae ynddi hefyd gerddi sy'n sefyll ar eu traed eu hunain allan o'u cyd-destun fel petai.
Y mae yna sawl llinell ac ymadrodd cofiadwy. Yn Lluniau Fforensics er enghraifft mae'r darlun trawiadol:
"Ac mae lipstic o waed am wefusau'r clwyf."
Dull arall, ond yr un mor drawiadol, o ddarlunio yw:
"a'r fuches yn symud fel ffilm du a gwyn ar gefndir amryliw" yn Yn Yr Awyr Agored.
A pheintiwr gwahanol eto dynnodd y llun hwn yn Cychwyn yr Ymchwiliad:
ji-binc yn pedoli munudau'r bore â'i dinc metalaidd.
Yn Strôc Ieithyddol y mae'n cynnal elwedd drawiadol am gerdd gyfan:
Gyda'r trawiad cyntaf diffoddodd map dinas ei feddwl. Collodd grap
ar briffyrdd ei enaid. trodd ei nerfau'n rhwyd
heb draffig geiriau. Aeth un goes yn ddiffrwyth a'r byd cyfoes
y tu hwnt i'w afael. Rhoddodd floedd mewn iaith gynharach, ac yntau'n bedair oed.
Er bod rhinweddau yma sy'n gwneud cerddi yn emau unigol, y mae'n rhaid sylweddoli wrth gwrs mai â breichled - cyfuniad o emau - yr ydym yn ymdrin yma. Sut felly, mae'r gyfrol yn plesio fel cyfanwaith?
Yn sicr, y mae yn gyfareddol - er nad yw'r gair hwnnw yn gwir gyfleu ystyr y gair Saesneg intriguing sydd gennyf i yn fy meddwl - ac yn ddigon goglesiol i beri i rywun ddychwelyd at y gyfrol, dro ar ôl tro, i chwilio am yr eglurder hwnnw sy'n mynd i wneud i 'r darnau i gyd syrthio i'w lle.
Ac y mae yn gyfrol digon byr i warantu y bydd hynny yn digwydd.
Tebyg mai cymysgedd o fwynhad, rhwystredigaeth ac edmygedd sy'n cael ei ennyn a gallwn ninnau ddweud am y gyfrol ei hun fel y dywed y Patholegydd yn ei adroddiad ef am gyflwr y corff:
Fy nghasgliad, Caram, yw fod y dystiolaeth yn amwys.
Y Llofrudd Iaith gan Gwyneth Lewis. Cyhoeddiadau Barddas. £6.95
Fel arfer, y mae chwe llyfr yn y râs am Lyfr y Flwyddyn 2000, a'r wobr o £3,000 - tri Chymraeg a thri Saesneg.
Cyhoeddir enw'r enillwyr yng Ngwyl Sunday Times, y Gelli Gandryll ar Fai 29.
Ar y rhestr fer Gymraeg y mae: Mihangel Morgan, Dan Gadarn Goncrit, Y Lolfa - nofel ddychan am y Gymru gyfoes; Jon Meirion Jones, Teulu’r Cilie, Cyhoeddiadau Barddas - hanes un o deuluoedd hynotaf Cymru gan fab un o'r chwech o feirdd a fagwyd ar aelwyd y Cilie; a chyfrol Gwyneth Lewis, Y Llofrudd Iaith
Ar y rhestr fer Saesneg mae: Stevie Davies, Impassioned Clay The Women’s Press - stori am ddioddefaint ac aberth menywod, heddiw ac yn y gorffennol, wrth geisio eu rhyddid; Sarah Waters, Affinity, Virago - nofel am gaethiwed a rhyddid merched, wedi’i lleoli mewn carchar yn oes Fictoria. Daw’r awdur o Neyland, Sir Benfro; Sheenagh Pugh, Stonelight, Seren - nawfed cyfrol bardd sy’n rhoi pwyslais ar saernio crefftus a difyrru’r darllenydd. Mae’n byw yng Nghaerdydd.
Dewiswyd y chwe llyfr gan ddau banel o feirniaid: yn Gymraeg, Yr Athro Sioned Davies, Meg Elis a Robert Rhys ac yn y Saesneg, Yr Athro Walford Davies, Catherine Merriman a Jeni Williams.
Mwy am y llyfrau eraill cyn y gystadleuaeth. |  | 
|