
 |  | Llygad am lygad
Cylchgrawn llygadog yn dathlu'r mil - ond beth am Gymru?
Dydd Iau, Ebrill 27, 2000
| "Does yna’r un bod dynol wedi fy holi am y broses ddewis - dim ond newyddiadurwyr."
"Fe fyddwn yn disgrifio’r dyfarniad â dau air - annisgrifiadwy a gwyrdroedig."
Mae Colemanballs fel y rhai yna - wedi eu henwi ar ôl caffau gwag gan y sylwebydd chwaraeon David Coleman - yn un o nodweddion rheolaidd a mwyaf poblogaidd y cylchgrawn Private Eye.
Frank Dwi-isio-bod-yn-faer Dobson biau’r naill a David Holocôst Irving y llall yr wythnos hon. Yr wythnos y mae’r organ - fel y byddai’n disgrifio ei hun - yn dathlu ei filfed rhifyn.
Blynyddoedd y dychan Yr oedd cychwyn Private Eye yn y chwedegau yn fenter digon enbyd gan griw o Saeson rhy glyfar ac amharchus o’r hanner yn cynnwys y digrifwyr Peter Cooke a Wille Rushton - yr ail yn sefyll yn 1964 fel ymgeisydd seneddol swyddogol y cylchgrawn yn erbyn Syr Alec Douglas Hume a oedd wedi ymwared a’i Arglwyddiaeth yn Kinross er mwyn cael bod yn Brif Weinidog Toriaidd yn Nhy’r Cyffredin i ddilyn Harold Macmilan.
Rhain oedd blynyddoedd y rhaglen deledu fentrus a phowld, That Was the Week That Was, yn cael ei chyflwyno gan Ddavid Frost beiddgar a llu o ddychanwyr amharchus fel Rushton yn cymryd rhan, a'u bryd ar bigo a baglu’r pwysig.
Rhaglen a oedd mor ddylanwadaol y bu’n rhaid ei thynnu oddi ar y sgrin unwaith y cyhoeddwyd y byddai yna etholiad cyffredinol
Dyna’r cyfnod, felly. Cyfnod o ddweud pethau mawr ac o fod yn ddifriol o'r sefydliad a diraddiol o bethau parchus ac o roi pinau ym malwns pwysigrwydd.
Dal yn y chwedegau Tuedd Private Eye yw dal i fyw yn y cyfnod hwnnw o ran agwedd. Gwir hefyd nad yw wedi newid llawer o ran pryd a gwedd dros y blynyddoedd a dydi'r hiwmor ychwaith ddim wedi tyfu'i fyny.
Y mae’n dal i ddatgelu cyfrinachau mewn bywyd cyhoeddus a gwleidyddiaeth. Daw'r senedd dan chwyddwydr yng ngholofn HP Sauce (wedi ei henwi ar ôl i'r Prif Weinidog Harold Wilson fynegi ei hoffter o'r saws) a gwelir newyddiadurwyr Llundeinig yn chwidlo ar ei gilydd yn Street of Shame gan wneud i'r Eye weithiau ymddangos yn fewnblyg.
O’r cychwyn bu Lord Gnome, y perchennog, yn llunio’r golygyddol gan fabwysiadu’r dull o ddamnio trwy ganmol. Y Banc Mawr sydd o dani yn y milfed rhifyn.
Daeth sawl un o gyfranwyr yr Eye yn boblogaidd dros y blynyddoedd; y gohebydd Lunchtime O’Booze (a legend in his own lunchtime), Glenda Slag, Polly Filler, Square Eyes y colofnydd Teledu a Sylvia Krin, awdur nofelau rhamantaidd a chyfolglyd am garwriaeth tywysoges ifanc o’r enw Diana. Yr Eye, gyda llaw, oedd yr unig gyhoeddiad a feiddiodd fentro gydag amharch adeg lladd y Dywysoges honno gan weld, yn gliriach na fawr neb arall, drwy yr histeria gwirion a feddiannodd Brydain wrth i wasg a theledu chwipio teimladau.
Nodwedd o’r cylchgrawn o’r cychwyn cyntaf yw ei glawr gyda bybls geiriau yng nghegau enwogion. I gydfynd a’r milfed rhiftyn cyhoeddwyd The Book of Covers yn cynnwys detholiad o gant o gloriau.
Nodwedd arall o’r cylchgrawn yw’r golofn yn ymwneud a Phrif Weinidog y dydd a gychwynnodd gyda Mrs Wilson’s Diary yn son am fywyd ar aelwyd Number 10 trwy lygaid gwraig y Prif Weinidog, Harold Wilson.
Wedyn daeth colofnau fel Dear Bill, llythyrau gwr y Thatcher at ei gyd yfwr jin a chyd olffiwr, Bill; Dyddiaduron John Major yn null Adrian Mole ac ar hyn o bryd ymhlith goreuon y gyfres hon, llythyr newyddion wythnosol St Albion Parish News oddi wrth y Rev. A.R.P. Blair MA (Oxon) at ei blwyfolion.
Tipyn o fanana Y golygydd erbyn hyn, yn dilyn Richard Ingrams a aeth i sefydlu TheOldie, yw Ian Hislop o dîm Have I Got News For You a ddaeth i enwogrwydd bach am ddweud ei fod o’n fanana, ar ôl un gwrandawiad llys, os oedd hwnna’n ddyfarniad cywir.
Mae achosion llys yn rhan o fywyd yr organ gyda chronfeydd yn cael eu sefydlu o bryd i’w gilydd i godi arian i’w hymladd.
Yr Eye hefyd a luniodd dermau fel Tired and exhausted i ddisgrifio ffigur cyhoeddus yn feddw ac Ugandan discussions i ddigrifio cyfathrach rywiol.
Ceisiodd cylchgronau eraill wneud yn well na’r Eye dros y blynyddoedd ond nis disodlwyd. Y mae o, yma o hyd, ac yn edrych mor amharchus a mentrus ag erioed yn ei filfed rhifyn.
Dafad ddu yng Nghymru Wrth ddathlu’r mil y mae rhywun yn gofidio na fu cylchgrawn tebyg yn y Gymraeg. Yr agosaf, am ddau gyfnod byr, oedd Rececca yn y saithdegau ac unwaith y flwyddyn mae Lol yn ceisio gwneud rhywbeth yn debyg yn y Gymraeg bob Awst.
Ers tri mis bellach bu cylchgrawn Saesneg o’r enw Black Sheep yn dilyn yr un trywydd o amharch, dychan a datgelu yr hyn nad yw pobl eisiau ei weld yn cael ei ddatgelu.
Braf meddwl am fedru dathlu’r milfed rhifyn o hwnnw hefyd, sut bynnag Gymru fydd yma’r adeg honno. Y mae angen rhain a'u tebyg. gan Glyn Evans.
Private Eye - Y Milfed Rhifyn. £1.20. Cyhoeddir pob pythefnos.
Black Sheep. £1.50 bob mis.
Os ydych am ymateb i'r erthygl hon cliciwch isod a gwebostio; [email protected] |  | 
|