
 |  | Chwilio am farn yn y theatr Bwrw golwg dros gylchgrawn yr wythnos
Dydd Iau, Ebrill 5, 2000
| Efallai fod Rhodri Morgan yn arweinydd mwy poblogaidd nag Alun Michael yn y Cynulliad Cenedlaethol. Ond a fydd o gystal?
Dyna'r cwestiwn sydd wrth wraidd erthygl yn y rhifyn diweddaraf o Barn.
Mae arbenigwr ar wleidyddiaeth y dydd o Brifysgol Aberystwyth, Richard Wyn Jones, yn tynnu sylw’r darllenwyr at y ffaith "nad yw cyfathrebu cywrain arwr y werin yn ddigon i gynnal ei lywodraeth . . . Rhaid g’neud nid, deud."
Dawn dweud Er nad oes amau dawn dweud Rhodri dywed fod "cwestiynau wedi codi ynglyn â’i ddawn gwneud. A dagrau’r peth - o safbwynt y Blaid Lafur Gymreig - yw na fydd cyfathrebu cywrain yn ddigon o hyn ymlaen. Yn y tymor canolig, mae’n rhaid i’r Cynulliad Cenedlaethol ddechrau gwneud argraff os ydi’r Blaid Lafur Gymreig am ei chodi ei hun o’i chyflwr lluddiedig presennol."
Dydi’r arwyddion ddim yn dda: ". . . mae beirniadaeth hallt y Comisiwn Ewropeaidd o gynlluniau Llafur ar gyfer defnyddiio arian Amcan Un yng Nghymru yn codi cwestiynau sylfaenol ynglyn â gallu Rhodri Morgan. Wedi’r cwbl, ef oedd yr Ysgrifennydd oedd yn gyfrifol am baratoi’r cynlluniau yma," meddai Richard Wyn Jones.
Pa ymateb bachog fydd gan Mr Morgan i hyn tybed.
Ac ynglyn â’r Amcan Un bondigrybwyll y mae erthygl bwysig, a digon trwm, gan Gareth Wyn Jones ac Einir Young sy’n dadlau fod y Trysorlys yn amddifadu Cymru o arian Ewropeaidd.
'Wedi siomi'r dosbarth gweithiol' Pwnc gwleidyddol gwahanol sydd yn mynd a bryd Simon Brooks, golygydd y cylchgrawn, yn ei golofn ef - sef y modd y mae’r Cynulliad, yn ei olwg ef, wedi siomi’r dosbarth gweithiol yng Nghymru.
"Dosbarth, nid rhyw, yw’r prif anghyfiawnder yng Nghymru heddiw. Efallai yn ein hymdrech i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau ein bod wedi anghofio hynny," meddai.
Barn amserol Yn cael eu hamlygu yn yr un rhifyn o Barn y mae anhawster cylchgrawn misol i fod yn amserol.
Cyrhaeddodd y rhifyn hwn gydag erthygl ynddo yn cwyno am anffyddlondeb Ryan Giggs i dîm pêl-droed Cymru yr union ddiwrnod wedi i hwnnw sgorio gôl fendigedig dros ei wlad yn erbyn y Ffindir.
Trafodaeth ar gyflwr rygbi drannoeth gêm Lloegr a wneir er bod llawer wedi digwydd ers hynny a bydd rhai yn darllen am ragoriaeth Iwerddon ar ôl i Gymru eu trechu.
Chwilio am feirniaid Mae’r adran Theatr yn gwbl amserol, fodd bynnag. Ynddo mae Ifor ap Glyn yn cwyno fod Cymru yn brin o feirniaid.
"Mae’n rhyfedd pa mor anfodlon yw pobl i feirniadu," meddai - er mi glywch chi lawer o gwyno sydd ddim, rwy'n cydnabod, yn union yr un peth.
Ond eto meddai Ifor ap Glyn: "Os prin yw’r rhai sydd am fod yn feirniaid, mae ’na lawer sy’n awchu am feirniadaeth."
Dydw i ddim mor siwr. Chwilio am ganmoliaeth mae llawer o'r bobl hyn ond wrth ddweud hynny rwy'n cyfaddef nad ydw i mor gybyddus a hwy a'r byd hwn.
'Paid a brifo' Dydio ddim yn cynnig ateb i’r cwestiwn; oes na bethau gwerth eu beirniadu er bod theatrau hanner gwag yn codi’r cwestiwn hwn - ond y mae yn tynnu sylw at gyfrifoldeb beirniaid i "ddefnyddio’i b/phwer yn ystyriol" rhag brifo yn ormodol gyda beirniadaeth gas. Yn enwedig frifo pobl ifainc y gallai geiriau geirwon dorri eu calonnau.
Hmmm; fel y byddai Gwilym Owen yn dweud. Glyn Evans |  | 
|