
 |  | Be felly ydi bardd?
rhywun ar boster - ond be arall?
Glyn Evans yn trafod cylchgrawn yr wythnos.
Dydd Iau, Mawrth 30, 2000
| Y cwestiwn, "Beth sy'n gwneud bardd yn fardd?" wnaeth fy mhrocio fi i brynu rhifyn Chwefror 2000 o Taliesin.
Gwir, dydi o ddim yn gwestiwn sy'n fy nghadw ar ddihun yn y nos ond o weld Tudur Hallam o Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe, yn cynnig ateb, byddwn yn ffwl colli'r cyfle.
Un arall a hudwyd yw Gwilym Owen yr oedd yr erthygl yn bwnc trafod ar ei raglen radio fore Llun diwethaf.
Yr oedd o wedi gweld sarhau Gerallt Lloyd Owen yn yr erthygl. Doeddwn i ddim.
Mae Tudur Hallam yn defnyddio Gerallt, - un o feirdd mwyaf poblogaidd Cymru heddiw, - a Thaliesin a Lewys Clyn Cothi i'w helpu i ateb ei gwestiwn.
Efallai fod fy nisgwyliadau i yn rhy uchel ond rhaid imi gyfaddef fy mod i wedi disgwyl gwell ateb na'r un a geir.
O'i roi yn ei ffurf fwyaf amrwd credaf mai ateb Tudur Hallam i'r cwestiwn Beth sy'n gwneud bardd yn fardd? ydi; Bod rhywun yn defnyddio un o'i gerddi ar boster.
Wêêl, ateb braidd yn annigonol a dweud y lleiaf. Ond meddai Tudur Hallam wrth grynhoi:
"O geisio ateb cryno i'r cwestiwn (Beth sy'n gwneud bardd yn fardd), fy nghynnig i fyddai, mewn gair - sylw, cyhoeddusrwydd, amlygrwydd, os nad dylanwad cymdeithasol, yn fwy na chydnabyddiaeth farddol hyd yn oed. . . Er mwyn ennill y sylw, wrth gwrs, mae angen i'r bardd fod yn berson sy'n cyfansoddi cerddi, a gorau i gyd os yw'r cerddi o deip arbennig, sef math o gerddi sy'n mynd i ddwyn bardd i sylw'r cyhoedd, a'i ganoneiddio."
O'r ateb yna, mae'n amlwg nad oedd Tudur Hallam yn gofyn yr un cwestiwn ag oeddwn i'n feddwl oedd o'n ei ofyn ond un cwbl wahanol - ac un, yn fy marn i, nad oedd llawer o werth yn ei ofyn heb son am drafferthu cynnig ateb iddo.
Trueni.
Cwestiwn arall nad yw'n cael llawer o ateb yn yr un rhifyn o Taliesin yw'r un a ddylai Cymru gael Bardd Cenedlaethol Cymraeg a Saesneg yn ôl awgrym prif weithredwr yr Academi Gymreig.
Dim ond tri allan o'r pymtheg o feirdd a llenorion a wahoddwyd gan Taliesin i fynegi barn a drafferthiodd i ateb. Yn amlwg, dydi'r syniad ma o rhyw fath o poet laureate Cymraeg yn gysylltiedig a'r Asembli ddim yn un sydd wedi cyffroi'r beirdd heb son am weddilly Cymry.
Mae un o'r tri, y Prifardd Ceri Wyn Jones, yn codi'r cwestiwn a ddylid gwneud y fath swydd yn un etholedig.
Mae'r Archdderwydd, wedyn, yn disgrifio'r hyn sydd mewn golwg fel "peiriant barddoni" gan ofyn "a pha fath o farddoniaeth a ddaw o beiriant?"
Dim ond y Prif Lenor Robyn Lewis sy'n cynnig enwau i'w hystyried; Alan Llwyd, Donald Evans, Gwyn Thomas, Gerallt Lloyd Owen, Jim Parc Nest a Luned Teifi "er mwyn cadw dysgl y rhywiau yn wastad."
O safbwynt bersonol fyddai ddim gwaeth gen i gynnig Ifor ap Glyn achos y mae o yn llwyddo mewn cerdd yn Nhaliesin i gyfleu i'r dim brofiad a gefais innau hefyd sawl tro.
Dychrynaf, wrth basio fy hun mewn ffenest; y fi yw'r boi hefo'r bol! medda fo gan siarad drosof innau hefyd.
Efallai y byddai rhywun lecio rhoi y ddau ohonom ar boster.
Mi fedrwn innau, wedyn, fod yn fardd -yn ôl diffiniad Mr Hallam.
Taliesin. Cyfrol 108. Chwefror 2000. Yr Academi Gymreig. £2.50.
|  | 
|