bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
»Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


News imageApêl
at hanes


Mae Hanes yn fwy na brenhinoedd, dyddiadau a ffeithiau sychion meddai hanesydd.

Dydd Iau, Mawrth 30, 2000
Y mae Hanes yn fwy na brenhinoedd, hen gestyll, dyddiadau a ffeithiau sychion.

Felly, y mae gan haneswyr ac amgueddfeydd ddyletswydd i adlewyrchu hynny meddai un o haneswyr mwyaf blaenllaw Cymru mewn llyfr y mae newydd ei gyhoeddi.

Y mae arwyddocad arbennig i’r is-bennawd, Côr o Leisiau, i gasgliad Glanmor Williams o ysgrifau Cymru a’r Gorffennol.

Ymuno a'i gilydd
Achos nid un llais yn siarad a ni o’r gorffennol yw Hanes ond cymysgedd - côr - o wahanol leisiau yn ymuno a’i gilydd i gyfleu un darlun cyfansawdd.

Yn llawer rhy aml y mae’r gair Hanes, meddai Glanmor Williams, yn "awgrymu hanes brenhinoedd a’r bendefigaeth, rhyfel a chynghreirio, llywodraeth a deddf, castell ac abaty, plasty ac eglwys plwyf; yn fyr, gwleidyddiaeth a diddordebau’r llywodraethwyr a’r dosbarthiadau uchaf."

Ond ychwanega mewn darlith a draddododd adeg trichwarter canmlwyddiant Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn 1982:

"Tueddir i gynnig darlun unochrog, yn rhannol o ganlyniad i darddiad aristocrataidd hanes fel astudiaeth."

Eang ac amryliw
Ond prysura i ddweud fod yn rhaid i hanes o’i astudio a’i ddysgu y ffordd iawn "gydnabod fod mantell ddi-wniad y gorffennol yn rhywbeth llawer mwy eang ac amryliw."

Y mae yn cynnwys "pob agwedd ar fywyd dynion, a'r newidiadau a achoswyd ganddynt a’r modd y newidwyd hwythau: gorffennol Cymru yn ei gyfanrwydd . . . rhaid wrth gorws cyfan o leisiau, yn cydasio, os yw’r gorffennol hwnnw i’w gyflwyno’n llwyddiannus."

Un o ganlyniadau hyn yw fod yn rhaid i’r hanesydd fod a diddordebau eang oherwydd gan fod cymaint o wahanol agweddau i un testun.

Er enghraifft y mae’n son yn benodol am ei ran ef ei hun yn astudio hanes yr Eglwys yng Nghymru.

"Er mwyn darlunio'r Eglwys fel rhan hanfodol o'r gymdeithas yng Nghymru ac yn Ewrop gydag unrhyw fath o argyhoeddiad, rhaid oedd edrych y tu hwnt i astudiaethau a ffynonellau hanesyddol confensiynol," meddai .

Oherwydd bod yr eglwys yn dirfeddiannwr rhaid oedd ei hystyried o safbwynt economaidd; wedyn o safbwynt bensaerniol a chelfyddydol oherwydd ei hadeiladau ac o safbwynt lenyddol a chrefyddol hefyd oherwydd ei gweithgarwch arall.

Canmol yr amgueddfa
Yr un dyletswydd sy’n wynebu amgueddfeydd ac y mae Glanmor Williams yn canmol cyfraniad Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn hynny o beth gan dynnu sylw arbennig at yr Amgueddfa Diwydiant a Môr a’r Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan yn ehangu’r gorwelion arferol.

Er, mi ddywedwn i, mai chwip dîn yn fwy na churo cefn y mae’r amgueddfa yn ei haeddu parthed yr Amgueddfa Diwydiant a Môr.

Bu’r ffordd y cafodd ei thrafod gan awdurdodau’r Amgueddfa yn destun ymchwiliad ac adroddiad seneddol hynod feirniadol ac, wrth gwrs, fe gollwyd cartref yr amgueddfa arloesol honno ers traethu'r ddarlith hon. Fe ddylid fod wedi cynnwys troednodyn yn y gyfrol yn tynnu sylw at yr anfadwaith hwnnw.

Y mae arwyddocad arbennig, felly, i sylw Glanmor Williams ynglyn â swyddogaeth a dyletswydd amgueddfeydd yn gyffredinol ac mae'n werth ei ailadrodd yn sgil anfelystra a blerwch yr hyn ddigwyddodd gyda'r Amgueddfa Ddiwydiant a Môr hynod;

"Nid cyflwyno gwrthrychau materol yw unig waith nac ychwaith brif waith amgueddfa, eithr cyflwyno syniadau: syniadau a fydd yn penderfynu pa wrthrychau a ddewisir er mwyn eu defnyddio i esbonio a darlunio’r gorffennol a’r presennol . . .

" Ennill dealltwriaeth fwy cyflawn a chyson o hyn fu o bwys ac sydd o bwys i bobl Cymru yw’n nod y mae’n rhaid i’r Amgueddfa ei gosod iddi ei hun. . . Mae arwain côr o leisiau y tu mewn i’r Amgueddfa a’r tu allan iddi, mewn cytgord perffaith, er mwyn cyflwyno gorffennol Cymru, yn gyfrifoldeb arswydus," rhybuddia.

Mae cwestiwn a ysgwyddwyd y cyfrifoldeb hwnnw yn llawn er na thrafodir hynny yma

Cymru’r Gorffennol - Côr o Leisiau, gan Glanmor Williams. Gwasg Gomer £14.95 . Mae’r gyfrol yn cynnyws hefyd ysgrifau ar: Proffwydoliaeth, Prydyddiaeth a Pholitics yn yr Oesoedd Canol; Harri Tudur; y Deddfau Uno; Cyfieithiadau Beiblaidd; y Diwygiad Protestannaidd; Yr Esgob William Morgan; John Penry; Etholiadau Seneddol; R. T. Jenkins; Cofio Dowlais - tref enedigol yr awdur.
Wythnosau Blaenorol:
News image
[an error occurred while processing this directive]*
News imageNews image
Heddiw ar Pobol y Cwm
[an error occurred while processing this directive]
*
*
*
Siaradwch
*
ClecsCymru
[an error occurred while processing this directive]

*
*
News image
Dysgwch
[an error occurred while processing this directive] *
News image
Gwybodaeth
*
Arolwg Blynyddol
adborth.cymru@bbc.co.uk
BBC Wales (Saesneg)


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy