
 |  | Cylchgrawn yr Wythnos
Dawn dynion y dyrnau dur
Cledr llaw, cic mul a chryn dipyn o feddwl!
Dydd Iau, Mawrth 23, 2000
| Kung hey fat choy!
Os daw rhywun i fyny ataf i mewn ty tafarn a dweud hynna wrtha i, camgymeriad ar fy rhan fydd mynd yn bolshi a gofyn efo pwy mae o’n meddwl mae o’n siarad.
Tebygrwydd yw ei fod yn feistr ar gelfyddyd ymosod - martial arts - ac yn darllen Combat bob mis.
Cylchgrawn ydi hwn sy’n ymdrybaeddu mewn pob math o ffyrdd o gwffio o Kung Fu i Gung Fu efo dipyn Tai Chi, bocsio traed, Chi Sau a Feng Shui ar y ffordd.
Osgoi trafferthion Dim syndod, felly, mai Jean Claude Van Damme sydd ar y clawr ochr yn ochr a rhywun o’r enw Simon Wong sydd yn meddwl efo'i ben yn ogystal a'i ddyrnau.
Peltiwr sy’n Fwdist, yn gerddor ac yn athronydd hefyd - ac un sy'n mynd allan o’i ffordd medda fo i osgoi ffeits.
"Dydi’n medr mewn martial arts ond i’w defnyddio pan nad oes gennych ddewis arall . . . yr amddiffynfa orau ydi osgoi’r broblem cyn cael eich hun mewn trwbwl," medda fo.
Mae o’n arbenigwr Feng Shui hefyd ac o fewn dwy flynedd iddo fo symud y dodrefn mewn swyddfa yn Llundain yr oedd cwmni yn trafod 20 biliwn y flwyddyn.
"Erbyn hyn," medda fo, "dydw i ddim mor awyddus i wneud petha fel hyn i gwmniau ar y farchnad stoc oherwydd eu bod yn gwneud cymaint o arian ond byth yn cynnig llawer i achosion da."
Bownsars Mae’n ymddangos fod llawer o’r bobl gydnerth hyn sy’n chwifio cyllill, cleddyfau a chledrau llaw - ac yn codi eu coesau fel cwn wedi gweld polyn - yn gweithio fel bownsars i wneud pres. Neu, a rhoi iddyn nhw eu henw newydd, arolygwyr drysau - door supervisors.
Daw y galluoedd i handlo eich hun mewn ffeit o sawl gwlad gyda Krishna Godhania yn pregethu’r Filipino Way sy’n eich galluogi i droi ar ei sawdl rywun sy’n ymosod arnoch chi efo cyllell a stwffio’r gyllell i’w ben ôl.
Giwed difeddwl Pwysleisir, dro ar ôl tro, fodd bynnag, nad rhyw giwed difeddwl ydi’r ymladdwyr hyn ac yn ei erthygl, Mind of the Warrior, mae Ian Fox yn trafod astudiaeth ffisegwr o’r enw Itzhak Bentov o ffenomenon o’r enw entrainment sydd yn creu perthynas rythmig rhwng pobl mewn grwp.
Mewn un arbrawf; er i bendilau pum cloc gael eu cychwyn ar wahanol adegau yr oedden nhw i gyd yn pendilio mewn cytgord ymhen pedair awr o fod gyda'i gilydd.
Darganfuwyd hefyd fod merched sydd efo’i gilydd am gyfnodau hirion yn tueddu i gael misglwyf i gyd ar yr un pryd.
Colli cariad Mae gan rywun hawl i gredu hefyd fod y Combataniaid hyn yn bobl esgeulus iawn.
Michael Bryan, er enghraifft, yn sgrifennu i holi a oes rhywun sy'n gwybod lle mae y ferch y mae o wedi dyweddio a hi!
Dywed y bydd yn hawdd ei hadnabod gan ei bod yn arlunwraig tatw-au gyda llun "a all brocio cof rhywun" ar ei chefn
"Mae hi’n byw, cyn belled ag y gwn i, yn un ai Texas neu Arkansas … Mi wnaethon ni ddyweddio drwy’r post fis Awst diwethaf ond yr wyf wedi colli cysylltiad a hi ers hynny," meddai.
Y mae gen innau hefyd brofiad o golli pethau yn y post ond dydwi ddim digon mawr i gynnig stîd i'r postman.
Combat. £2. |  | 
|