
 |  | Llyfrau pobol y llyfre
Gyda thros bedair miliwn o lyfrau yno dydio ddim syndod o gwbl i Lyfrgell Cenedlaethol Cymru fynd ati i ddathlu Diwrnod y Llyfr, ddoe.
Dydd Sadwrn, 11 Mawrth, 2000
| Un o’r llyfrau mwyaf poblogaidd ymhlith staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth yw’r hen ffefryn, Llyfr Mawr y Plant, meddai Sion Jobbins.
Ar gyfer Diwrnod y Llyfr holwyd staff y llyfrgell am eu hoff lyfrau, a dyma’r ymateb:
Roedd Llyfr Mawr y Plant yn syndod o boblogaidd, meddai, – ydi’r staff yn hiraethu am ddyddiau eu plentyndod, neu oes ’na lawer o rieni ifainc yn y Llyfrgell? Un cwestiwn sydd, pryd gawn Llyfr Mawr nesaf- i blant mawr a bach?!
Hanes Cymru. Mae beibl hanes y Dr John Davies yn dal i fod yn boblogaidd. Fel buasai rhywun yn disgwyl gan staff y Llyfrgell Genedaethol, mae’n cael ei ddefnyddio fel llyfr i’w fwynhau a llyfr i’w bori ynddo am wybodaeth pwysig yn y gwaith.
Mae Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard yn dal i fod ar y brig a hynny drigain mlynedd ers cyhoeddi'r nofel hunangofiaannol ac un ffilm yn ddiweddarach.
Nofel boblogaidd arall oedd yr hen ffefryn, Y Stafell Ddirgel gan Marion Eames. Tydyn nhw ddim yn sgwennu nofelau fel yr oedden nhw yn yr hen ddyddiau!
Ymhlith y llyfrau poblogaidd eraill y mae ysgrifau Islwyn Ffowc Elis, Cyn Oeri’r Gwaed, llyfr Harri Gwynn, Y Fuwch a’i Chynffon, a'r nofel Tabyrddau’r Babongo hefyd gan Islwyn Ffowc Elis.
Ymysg y fferfrynnau eraill mae Gweledigaethau’r Bardd Cwsg a Gwaith Guto’r Glyn.
Beth yw eich hoff lyfr Cymraeg chi? Beth am lunio rhestr o bump a dweud gair neu ddau am eich dewis. Ebostiwch yn syth i'r golygydd nodwedd:
glyn.evans@bbc.co.uk |  | 
|