
 |  | Pam darllen llyfr, Duw?
Holi cymeriadau Pam Fi Duw? am lyfrau a darllen?
Dydd Iau, Mawrth 9, 2000
| Ar gyfer Diwrnod y Llyfr yfory, Mawrth 10, bu Cymru’r Byd yn holi rhai o actorion Pam Fi Duw? am lyfrau a darllen. Dyma ymateb Lucy Rich (Sara), Gareth Jewell (Cwcw), Ellen Salisbury (Esyllt ap Einion) ac Eirlys J. Britton (Pegi)
Pwy yw eich hoff awdur? John Owen (Lucy a Gareth) Leon Uris (Ellen) Robin Llewelyn (Eirlys)
Pa lyfr Cymraeg ddarllenoch chi ddiwethaf? Y Stafell Ddirgel gan Marion Eames (Lucy) Ac yna Clywodd Swn y Môr gan Alun Jones (Gareth) Wele’n Gwawrio gan Angharad Tomos (Ellen ac Eirlys)
Pa gymeriad o lyfr sy'n mynd dan eich croen? Megan (Lucy) Dim un. Eu hoffi iI gyd mewn rhyw ffordd (Gareth) Y Nyrs yn Romeo a Juliet (Ellen) Enoc Huws (Eirlys)
Pa gymeriad o lyfr a fyddech yn hoffi ei gyfarfod? Rowland Ellis (Lucy) Meredydd (Gareth) Conor Larkin o Trinity, Leon Uris - wedi syrthio mewn cariad ag e (Ellen) Strempan (Eirlys)
Pryd a lle byddwch yn mwynhau darllen? Yn y gwely (Lucy) Cyn cysgu neu yn y ty bach (Gareth) Yn y gwely ac yn fwy na dim ar y traeth (Ellen) Yn y gwely (Eirlys)
Pa lyfr Cymraeg a fyddech yn ei argymell i ffrind? Pam Fi Duw? (Lucy a Gareth) Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard heb unrhyw amheuaeth (Ellen) Seren Wen ar Gefndir Gwyn gan Robin Llewelyn (Eirlys)
Pa lyfr sydd wedi cael y dylanwad mwyaf arnoch? Shirley Valentine (Lucy) Pam Fi Duw? - wrth gwrs (Gareth) Captain Correlli’s Mandolin - gyda digon o chwerthin a digon o ddagrau (Ellen) Wele’n Gwawrio (Eirlys)
Pa lyfr a hoffech ei weld yn cael ei addasu ar gyfer S4C? Cysgod y Cryman gan Islwyn Ffowc Elis (Gareth) Eisiau gweld mwy o ffilmiau yn cael eu comisiynu yn hytrach nag addasu mwy o lyfrau (Ellen) Pam Fi Duw? Ddy Mwfi (Eirlys)
Pa lyfrau ydych chi wedi mwynhau eu hastudio yn yr ysgol? Shirley Valentine (Lucy) Ac yna Clywodd Swn y Môr; Cysgod y Cryman (Gareth) Pob un Shakespeare a hynny oherwydd awch yr athro tra’n dehongli Cysgod y Cryman (Eirlys)
Pa lyfr a fyddech wedi hoffi ei ysgrifennu? Cofiant John Owen (Lucy) Cysgod y Cryman (Gareth) The Hobbit gan Tolkien (Ellen) Seren Wen ar Gefndir Gwyn gan Robin Llewelyn
Pa awdur a fyddech yn hoffi ei gyfarfod? Gwenlyn Parry (Lucy) John Owen? (Gareth) Tolkien (Ellen) Islwyn Ffowc Elis (Eirlys)
Lle mae eich hoff siop lyfrau? Yn y dre (Lucy) W. H. Smith (Gareth) Blackwell’s Caerdydd a siop fach ym Mhorthmadog (Ellen) Siop y Felin (Eirlys)
Beth yw eich neges ar gyfer Diwrnod y Llyfr? Daliwch i ddarllen (Gareth) Pan fo llyfr o mlaen mi fuasai’n wych tasa awr yn para am byth. Does na ddim byd gwell (Ellen) Darllenwch Pam Fi Duw? (Eirlys) |  | 
|