News image

MAWRTH
13th Mai 2003 BBC ONLINE

News image
Cymru'r Byd
Geiriau yn unig
News image
Ble ar y We?
 
safleoedd


Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Llais Llên

Straeon
Pobol y Cwm
Y Sîn Roc
Adloniant
Cymry Tramor
Creu Cenedl
Gemau
E-gardiau

Radio Cymru
Ffeil

 
BBC Cymru'r Byd

Llyfrau

News imageDathlu taith
Mari Jones


Y ferch a gerddodd
i gael Beibl

Dydd Iau, Mawrth 9, 2000
Bydd taith gerdded arbennig yfory yn dathlu dau canmlwyddiant taith chwedlonol Mari Jones i'r Bala i brynu Beibl Cymraeg.

Yr un diwrnod bydd llyfr i blant am ei bywyd yn cael ei gyhoeddi.

Er mwyn prynu copi o Feibl Cymraeg William Morgan, bu Mari, merch fferm dlawd, yn casglu ceiniogau am chwe blynedd. Dim ond pymtheg oed oedd hi pan gerddodd yn droednoeth ac ar ei phen ei hun i'r Bala o Lanfihangel y Pennant i brynu Beibl.

Y Parchedig Thomas Charles o’r Bala yn son am ei thaith arweiniodd at sefydlu Cymdeithas y Beiblau.

Bu hanes Mari Jones yn boblogaidd nid yn unig yng Nghymru ond mewn gwledydd eraill hefyd.

Disgyblion o Ysgol Uwchradd Tywyn, Ysgol y Gader, Dolgellau, Ysgol y Moelwyn, Ffestiniog, ac Ysgol y Berwyn, Bala fydd yn ail- greu rhan o'r daith 25 milltir o gartref Mari yn Llanfihangel y Pennant, i’r Bala.

Bydd y daith, a drefnir gan Gyngor Ysgolion Sul ac Addysg Gristnogol Cymru, yn dechrau am ddeg y bore ac yn dilyn llwybr ar hyd y priffyrdd. Disgyblion Ysgol y Berwyn fydd yn cwblhau'r rhan olaf, ac yn cyrraedd y dref tua 2.45 y prynhawn.

Awdur y llyfr, Mari Jones a'i Beibl, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar y diwrnod Mig Holder ac fe’I haddaswyd gan Margaret Cynfi, a'i gyhoeddi gan Gyhoeddiadau'r Gair, yn y Gymraeg.

. Meddai’r Parchedig Aled Davies o Gyhoeddiadau'r Gair, "Mae pobl ledled y byd wedi clywed hanes Mari Jones a'i thaith ryfeddol. Does dim dwywaith bod ei hanes wedi ysgogi sefydlu Cymdeithas y Beiblau, cymdeithas sy'n parhau i genhadu dros gyfieithu'r Beibl i gynifer o ieithoedd â phosibl er mwyn i bawb allu ei ddarllen.

"Mae'n briodol ein bod ni'n dathlu ei thaith hanesyddol ar Ddiwrnod y Llyfr, ac rydym yn falch bod disgyblion yr ardal yn gallu cymryd rhan yn y daith gerdded hon i goffáu Mari Jones."

Ffeithiau Beiblaidd
Cyfieithwyd y Beibl i'r Gymraeg gan yr Esgob William Morgan yn 1588.
Arweiniodd y digwyddiad hwnat ddiogelu dyfodol yr iaith Gymraeg er mai bwriad yr awdurdodau oedd ei gwneud yn haws i’r Cymry fedru dilyn y fersiwn Saesneg o’r Beibl.

Heddiw, mae'r Beibl ar gael mewn 300 o ieithoedd a rhannau ohono mewn 1,500 o ieithoedd.

 
Wythnosau Blaenorol:

News image

Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
News imageAdolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

News imageAdolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
News imageLlais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
News imageY Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2
News image

BBC
© MM