bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
[an error occurred while processing this directive]

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
[an error occurred while processing this directive]
»[an error occurred while processing this directive]
Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


EiconGwefr y Corau
Corau'r Wladfa yn dod at ei gilydd i ddathlu'r Nadolig


Nos Sadwrn, Rhagfyr 23 ar S4C dangosir Nadolig y Paith. Rhaglen gan Teliesyn yn dangos sut y daeth aelodau gwahanol gorau gannoedd o filltiroedd oddi wrth ei gilydd yn y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia ynghyd i ganu offeren go arbennig.

Yr oedd Glyn Evans o BBC Cymru’r Byd yn dyst i'r digwyddiad gwefreiddiol.

Er bod y bws o Esquel awr a hanner yn hwyr yn cychwyn ar ei hwyth awr o daith i’r Gaiman y mae pawb mewn hwyliau da.

Prin wedi cyrraedd Teka, 60 milltir i lawr y ffordd, ydym ni, ac mae’r cwpan mate yn mynd o un i’r llall a’r aelodau o Gôr Esquel yn rhannu facturas a theisennod ymhlith ei gilydd.

Wedi wythnosau o ymarfer yn lleol mae’r côr o’r Andes ar ei ffordd i’r Gaiman yr ochr arall i’r paith.

Yno, bydd yn ymuno â chorau eraill i’w ffilmio gan gwmni teledu o Gymru yn canu gwaith crefyddol sy’n cael ei alw yn Misa Criolla.

Mae hwn yn ddarn sydd cyn enwoced yn yr Ariannin ag yw Meseia, Handel, ymhlith corau Cymru.

Fel "trefniant gwerinol" o offeren y Nadolig y disgrifiodd un aelod o’r côr ef i mi.

Dioddefaint a dewrder yn ysbrydoliaeth

Ramirez a CuraYsbrydolwyd y cerddor o’r Ariannin, Ariel Ramirez, i’w gyfansoddi ar ôl cael ei ysgwyd gan yr hanes am ddewrder lleianod yn bwydo 800 o Iddewon newynnog yn yr Almaen adeg y rhyfel gan wybod mai eu crogi fyddai eu cosb o gael eu dal gan y Natsiaid.

"Yr oedd clywed am hyn yn gymaint o ysgytwad imi fel yr addewais i sgrifennu rhywbeth ar gyfer y lleianod. Dyna oedd cychwyn y Misa Criolla gyda’r gân gyntaf wedi ei chysegru i’r lleianod dewrion hynny."

Er mai dim ond 2,000 o gopiau a argraffwyd yn wreiddiol gwerthwyd 15,000,000 erbyn hyn ac y mae’r Misa Criolla gyda’i rhythmau gwerinol, i gyfeiliant gitars, charangos a bombas yn waith y mae parch a phoblogrwydd mawr iddo yn yr Ariannin.

Yr apêl honno sy’n gyfrifol fod yna lond bws o aelodau Côr Esquel ac Elda eu harweinydd yn gwibio yn awr yng ngwres yr haf 700 o gilometrau ar draws y paith ar gyfer perfformiad unigryw o’r offeren dan arweiniad Ramirez ei hun.

Ei hen gyfaill, y Tad Jesus Gabriel Segade, fydd meistr y côr cyfansawdd sy’n cynnwys 120 o aelodau hanner dwsin o gorau eraill a fydd yn canu hefyd y Navidad Nuestra - Ein Nadolig.

Rhannu llwyfan a thenor enwog

Tu allan i'r capelBu cryn sôn a siarad ers dyddiau ynglyn â rhannu llwyfan efo nhw a thenor enwocaf yr Ariannin, Jose Cura, sydd wedi gwneud cryn enw iddo’i hun yn Ewrop.

Yr oeddem ni awr a hanner yn hwyr yn cychwyn oherwydd bod pedwar blwch o offer allweddol yn rhy fawr i fynd ar y bws a threfniant arall yn gorfod cael ein wneud ar eu cyfer.

Ar ben hynny, dydi bws arferol y côr gyda’i thy bach a’i pheiriant coffi ddim ar gael. Ac er bod addewid o ffeirio bws hanner ffordd am un arall mwy cyfforddus sy’n dychwelyd gyda theithwyr i Esquel; gwrthod newid a wna’r teithwyr hynny!

Breuddwyd y ddiweddar Shân Emlyn, cyn gadeirydd Cymdeithas Cymru Ariannin, oedd ffilmio’r Misa Criolla a Mary Simmonds a Ceri Sherlock o gwmni teledu Teliesyn sy’n llafurio ers dyddiau yng ngwres Rhagfyr i droi’r freuddwyd yn rhaglen deledu.

Cura yn wefreiddiol

Mary Simmonds yn trafodMae Mary Simmonds yn cyfaddef mai Domingez oedd eu dewis cyntaf o unawdydd ond ei fod yn rhy ddrud!

Erbyn iddyn nhw weld perfformiad Cura, y mae’n nhw’n falch na allent ei fforddio.

"Yr oedd Cura yn wefreiddiol ac fe ddaeth â rhywbeth cwbl arbennig i’r perfformiad," meddai Mary.

Nid ei lais yw unig apêl pedwerydd tenor gorau’r byd gan iddo ennill calon sawl un o ferched y côr hefyd.

Yr siarad yn lleol yw i Cura droi ei gefn ar ei wlad ei hun ar ôl cael ei wrthod ar gychwyn ei yrfa ym Muenos Aires.

Ac yntau, bellach, wedi gwneud enw iddo’i hun yn Ewrop mae’n destun syndod iddo gytuno i ymweld o gwbl a thref mor ddiarffordd a’r Gaiman i ganu gyda chôr o amaturiaid.

Onibai ei fod yn adnabod Ramirez yn bersonol efallai na fyddai wedi dod beth bynnag.

O ddod, mae wedi gwirioni a’r dref a sefydlwyd gan wladfawyr cynnar o Gymry.

Mae’r perfformiad yn ddigwyddiad o bwys mawr yn lleol ond dydi pethau ddim yn addo’n dda pan yw llwyfan a godwyd y tu allan i gapel Cymraeg Bethel ar lan Afon Camwy yn bygwth sigo dan bwysau’r côr yn yr ymarfer llawn cyntaf.

Ar ben hynny, mae ambell i aelod yn grwgnach fod y disgwyliadau ymarfer yn ormod i’w ofyn gan rai sydd ond yn gantorion amatur.

Brwdfrydedd yn heintus

Pedair awr yn ddiweddarach mae’r ysbryd yn well gyda brwdfrydedd anhygoel Cura wedi cyffwrdd pawb.

Ceri Sherlock yn cyfarwyddo"Hyd yn oed wedi pedair awr o ymarfer caled yn y gwres 'na fe ddaeth pawb oddi yno gyda gwên ar eu hwyneb. Yr oedd o’n ffantastig," meddai un o’r rhai fu drwy’r drin.

"Ac mi ofynnodd o am fy rhif ffôn i," meddai merch ifanc brydweddol o Gymru gan ofidio rhywfaint nad oedd ganddi rif i’w roi i ganwr sy’n sicr yn bishyn yn eu golwg ac sy’n ennill calon ar ôl calon gyda’i sylwadau doniol a’i ymddygiad sy’n gyfuniad ddrygioni plentynnaidd ac athrylith cerddorol!

"Mae ganddo fo goblyn o bersonoliaeth," yw un ddedfryd. "Mae o fatha hogyn bach drwg!"

Ond o’u cymharu a’r perfformiad ei hun dydi’r pedair awr o ymarfer ond megis chwinciad.

Er mai am saith mae’r ffilmio i ddechrau y mae’r gynulleidfa o gant y paratowyd lle ar ei chyfer o flaen y llwyfan yn dechrau ymgasglu toc wedi pump. Erbyn chwarter wedi chwech, mae hanner y seddau yn llawn a dim un ar ôl erbyn saith a phobl yn dal i gyrraedd, rhai gyda’u cadeiriau eu hunain yn eu llaw.

Chwe chant wedi dod i weld

Erbyn bod y côr ar y llwyfan am saith mae chwe chant a mwy o bobl yno yn disgwyl yn eiddgar yn y gwres wedi eu harfogi â hetiau rhag yr haul ac wedi chwistrellu eu hunain rhag mosgitos ffyrnig.

"Mi fydd hi’n ffresio cyn bo hir," proffwyda gwraig leol gan ddefnyddio’r gair Cymraeg lleol am oeri - ond mae’n anodd credu hynny mewn gwres sy’n lladdfa i’r aelodau o’r côr sy’n gwisgo ponchos.

Gyda’r ffilmio wedi ei drefnu i gychwyn am saith - yn unol a’r arfer Ariannaidd mae’n cychwyn yn brydlon toc cyn wyth.

Bu’r oedi yn gyfle i Cura a’r Côr ymarfer ambell i ddarn a rhannu ambell i jôc wrth iddo chwarae’n bryfoclyd â’r gynulleidfa.

Uwchben y côr mae aderyn yn canu nerth esgyrn ei ben yn uchel ym mrigau coeden. Rhwng canghennau coeden arall y mae tynnwr lluniau yr El Chubut wedi clwydo yn chwilio am y llun gorau i’w bapur.

Ac, yn wir, mae hi yn ffresio a phobl yn dechrau tynnu eu cotiau yn dynnach amdanynt a’r gwisgwyr ponchos yn y côr yn diolch am gynhesrwydd y dilledyn.

Adar yn hedfan i glwydo

Gyda lleuad crwn yn codi yn yr awyr y mae adar i’w gweld yn hedfan i glwydo. Gwyra tair hwyaden oddi ar eu llwybr fel pe bai i gael golwg well ar y dyrfa oddi tanynt.

Mae Cura yn ymateb gyda rhyw ffraethineb i grawc aderyn sy’n tarfu ar gychwyn un o’i ganeuon.

Mae hi’n nos erbyn i’r côr orffen canu a chael gwybod y bydd yn rhaid gwneud yr un peth unwaith eto yn dilyn seibiant o hanner awr.

Er bod yr hyn a saethwyd eisoes yn "fendigedig" eglura Mary Simmonds fod y tîm cynhyrchu yn anelu at "berffeithrwydd".

Son am swper

Mae rhai aelodau o Gôr Esquel yn dechrau sôn am swper a theithio adref dros nos - er mwyn cael mynd i’w gwaith yfory - yn hytrach na chysgu noson arall yn y Gaiman.

Ond mae’r cynlluniau hynny yn newid wrth i’r hanner awr droi yn awr a phitsas ac empanadas a gwin goch yn cyrraedd Capel Bethel.

Yn ôl ar y llwyfan ar ôl bwyta y mae llawer iawn mwy o aelodau’r côr yn gwisgo ponchos.

"Un o’r gogledd yw hon," eglura un ohonyn nhw. "Costiodd rhyw ddau gan peso a hanner."

Mae ambell i aelod wedi smyglo potel o vino tinto i gefn y llwyfan ond heb ddim i dynnu’r corcyn. Dydi taro’i gwaelod yn galed gyda chledr llaw ddim yn gweithio ychwaith.

Mae Ramirez yn taro Yesterday ar yr allweddau a Cura yn canu’r geiriau.

Mae Mary Simmonds yn galw am drefn trwy gyfieithydd.

Llai na chant o’r gynulleidfa wreiddiol sydd ar ôl erbyn hyn wedi eu lapio’n dyn mewn cotiau trwchus rhag oerni unarddeg y nos.

Mae Cura yn cyfnewid geiriau gydag aderyn crawclyd arall a hynny, rywsut, yn cael pethau i gychwyn eto mewn ysbryd eithriadol o dda ymhlith cantorion sydd wedi sefyll yn hir ar lwyfan.

Cyfarwyddo'r gweithgareddau

Yn lled dywyllwch y capel y mae Ceri Sherlock a thri arall yn eu cwman dros offer sain a sgrins yn cydgordio’r holl weithgarwch yn fyddar i diwn y criced yn y waliau.

Mae ceisiadau Ceri, wrth iddo chwilio am berffeithrwydd mewn sain a llun bob amser yn gwrtais wrth ofyn am ail a thrydydd wneud gwahanol rannau.

Erbyn ei fodloni mae’n hanner nos a Chôr Esquel wedi penderfynu mai ei hel hi’n syth am adref fyddai’r cynllun gorau.

Ond ar gyrion Y Gaiman rhaid aros yn gyntaf am lymaid - a chân coeliwch neu beidio - yn Na Petko, a chyn bo neb yn sylweddoli bron y mae’n bedwar o’r gloch y bore cyn bo pawb ar y bws i ddychwelyd yn ôl dros y paith yn llawer iawn distawach nag yn ystod y daith i lawr.

Ac na, does neb yn teimlo fel mynd i’w waith wrth ddisgyn oddi ar y bws wyth awr yn ddiweddarach, am hanner dydd . . .

Yr oedd hynny flwyddyn union yn ôl ond yn teimlo fel ddoe a bydd canlyniad hudolus y ffilmio yn wledd ar deledu'r Dolig yng Nghymru.
Wythnosau Blaenorol:
News image

Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
News imageAdolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

News imageAdolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
News imageLlais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
News imageY Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2
News image



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy