
|  | Copenhagen Perfformio un o ddarmau pwysicaf y degawd - y cyfieithiad Cymraeg y cyntaf mewn unrhyw iaith! | Yn y flwyddyn 1941 aeth Heinzberg, un o brif ffisegwyr Yr Almaen, i Copenhagen.
Mynd yno i ymweld â’i hen athro, Bohr. Yr oedd Denmarc eisoes dan y Natsiaid. Roedd Bohr yn hanner Iddew - yn gyfaill ac yn elyn.
Pam felly yr aeth Heinzberg i Copenhagen? Mae’n ffaith hanesyddol iddo fynd - ond wyr neb pam.
Dyna ddirgelwch y ddrama Copenhagen gan Michael Frayn y ceir perfformiad Cymraeg ohoni ddechrau wythnos Eisteddfod Genedlaethol Llanelli. Tri chymeriad sydd i’r ddrama, Bohr, a chwaraeir gan Frank Lincoln, Heinzberg, a chwaraeir gan Geraint Wyn Davies, a Margaretta, gwraig Bohr, a chwaraeir gan Christine Pritchard.
Y cynhyrchydd yw Allan Cook.
Datgelu cyfrinach i Hitler Yr oedd Hitler wedi cael gwared a’r mwyafrif o ffisegwyr yr Almaen am eu bod nhw’n Iddewon. Penbleth Heinzberg - nad yw’n Iddew - oedd a ddylai gyflwyno cyfrinach creu y bom atomig i Hitler. Dyn, yr oedd ef ei hun yn cydnabod ei fod yn wallgofddyn.
O gwmpas hyn y mae’r ddrama yn troi - y moesoldeb a ddylai gwyddonydd fel ef drosglwyddo neu ymatal rhag rhoi gwybodaeth o’r fath yn nwylo gwleidydd fel Hitler.
Ygrifennwyd y ddrama yn 1998 ac y mae yn parhau i redeg yn Theatr y Duchess. Enillodd Wobr Olivier am ddrama orau 1999 ac y mae hefyd wedi ennill Gwobr Toni, gwobr theatr Efrog Newydd. Hyd y gwyddys yn Llanelli y gwelir y perfformiad cynta ohoni mewn unrhyw iaith heblaw’r Saesneg.
Dyma’r eildro i dri a fu’n gyd-weithwyr am nifer dda o flynyddoedd yn BBC Cymru yn Llandaf - dau ohonyn nhw o Lanelli - gydweithio ar gynhyrchiad ar gyfer yr Eisteddfod. Yn Eisteddfod Bro Ogwr ddwy flynedd yn ôl perfformiwyd yn Gymraeg ddrama enwog Harold Pinter, The Dumb Waiter. Y Gweinydd Mud, yn Gymraeg. Y cyfieithydd bryd hynny, fel ag yn achos Copenhagen, oedd Geraint Wyn Davies. A’r cynhyrchydd oedd Allan Cook.
Drama dau gymeriad oedd Y Gweinydd Mud - ceir un cymeriad ychwanegol yn Copenhagen, gwraig Bohr - a chwaraeir gan Christine Pritchard.
Mae Frank Lincoln yn enedigol o Lwynhendy tra bo Allan Cook yn enedigol o dre Llanelli.
"Roedd y ddau ohonon ni yn ddisgyblion yr un pryd yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn Llanelli," meddai Allan. "Fe chwaraeodd y ddau ohonon gyferbyn â’n gilydd mewn cynhyrchiad o Playboy of the Western World J. M. Synge yng Nghanolfan Pwll pan oedden ni yn yr ysgol - Frank oedd yn chwarae rhan y "Playboy" a fi oedd Sean."
Byd y ddrama oedd byd y ddau - Frank a’i fryd ar fod yn actor ac Allan am fod yn gynhyrchydd. A felly y bu. Ar ôl graddio yng Ngholeg y Brifysgol Caerdydd gwelwyd Frank mewn nifer o gynhyrchiadau BBC Cymru - chwaraeodd ran Harri Vaughan yn y ddrama gyfres, Lleifior.
Wedi cyfnod yn gweithio mewn theatrau yn Lloegr daeth Allan yn ôl i Gymru i fod yn gyfarwyddwr rhaglenni plant gyda BBC Cymru a wedi hynny yn un o gyfarwyddwyr Pobol y Cwm.
Does gan Geraint Wyn Davies ddim cysylltiad â Llanelli - heblaw bod ei dad yn byw ym Mhorth Tywyn. Daeth e a Frank i gysylltiad â’i gilydd yn gynnar - fel actorion. Ar ôl graddio o Goleg y Brifysgol, Abertawe, cychwynnodd Geraint, hefyd, ar yrfa fel actor.
Troi at newyddion Ond ymhen ychydig o flynyddoedd troes i fyd newyddion a bu’n ohebydd ac yn gyflwynydd Heddiw. Pan gychwynnodd S4C symudodd i’r Adran Chwaraeon lle bu’n Gynhyrchydd y rhaglen nos Sadwrn, Y Maes Chwarae.
Wedi rhai blynyddoedd yn cynhyrchu rhaglenni chwaraeon cafodd ei benodi yn bennaeth yr adran sy’n gyfrifol am amserlen rhaglenni teledu BBC Wales a chyfraniad BBC Cymru i S4C.
Yn raddol yr oedd Frank wedi troi o actio i gyflwyno rhaglenni radio a theledu a chael ei benodi i un o brif swyddi’r Adran Gyflwyno. Ymhen rhai blynyddoedd daeth y ddau i gydweithio unwaith eto yn yr adran sy’n gyfrifol am amserlen y gwasanaethau teledu.
Ar ôl ymddeol - yn gynnar - daeth y ddau at ei gilydd i ffurfio Cwmni Oni Bai, a chyflwyno’r ddrama Y Gweinydd Mud yn Eisteddfod Bro Ogwr. Fe’i perfformiwyd ar ôl hynny yn Theatr y Crwys, ddiwedd Tachwedd a dechrau Rhagfyr yr un flwyddyn.
Perfformir Copenhagen yn Theatr Coleg y Graig, Pwll, ar nosweithiau, Llun a Mawrth yr Eisteddfod - gyferbyn a’r Maes.
Drama bwysig "Does dim amheuaeth yn fy meddwl i nad yw hon yn un o ddramâu pwysica’r degawd ddiwetha," meddai Allan. "Mae’n ddrama sy’n defnyddio technegau teledu, ‘flashbacks’ a’r ‘action replay’. Mae’r cymeriadau yn mynd yn ôl i ail-drafod y dadleuon a’r digwyddiadau drosodd a throsodd. Mae’n ddrama sydd ei angen ei gweld fwy nag unwaith - mae cymaint o lefelau a dyfnderoedd iddi.
"Mae hynny’n amlwg o’r ffaith fod y fersiwn wreiddiol yn dal i fynd yn y Duchess Theatr yn West End Llundain - gyda cynulleidfaoedd llawn bob nos.
"Y peth arall y buaswn i’n hoffi sôn amdano yw’r cyfieithiad. Os oes unrhyw un am ddadlau na ellir defnyddio’r Gymraeg i drin materion gwyddonol, yn rhwydd ac yn ystwyth, fe ddylsen nhw ddod i weld y ddrama yma. Y mae cyfieithiad Geraint Wyn yn ardderchog - iaith gyfoethog na clywsom ei thebyg ar lwyfan y theatr Gymraeg ers dyddiau Saunders Lewis." |  | 
|