
 |  | Llanelli - Y Dyff Geid
Darllenwch hwn cyn mentro i Dre'r Sosban
| Wedi danto ar gerdd dant? Dyma "Llanelli - y dyff geid" gan Kathryn Rowlands
1. Traeth gorau? Ar wahan i Barc Arfordirol y Mileniwm, o gwmpas Maes yr Eisteddfod, mae na’r hen ffefryn - Cefn Sidan, Penbre - milltiroedd o dywod glân ger parc gwledig - ewch yn borcyn, os mynnwch chi - ond dyw e’ ddim yn rhywbeth swyddogol.
Does dim rhaid ofni rhoi eich troed mewn rhywbeth drwg - mae na "waharddiad" ar gwn ar y traeth rhwng mis Mai a Medi.
Ers talwm roedd ffatri "ammunitions" gerllaw - nawr mae na gylchffordd rasio moduron yno sy’n denu raswyr ceir byd-enwog.
2. Papur newydd yr ardal:Llanelli Star - newyddion y dref, a’r pentrefi cyfagos. Digon o hanesion pwy sy’ wedi bod yn gyrru’n rhy gloi lawr Heol Sandy!
3. Parc gorau: Parc Howard yn cynnwys plasdy hardd sy’n arddangos casgliad o grochenwaith byd-enwog Llanelli, a’r hen gerrig gorsedd. Lle prydferth, 20 munud o gerdded o ganol y dre. Digon o le i orwedd yn yr haul (neu chwarae bowls a phytio), os ydych am osgoi eich cyd-babellwyr neu’ch gorseddwr lleol. 01554 772029
4. Ganwyd: Dorothy Squires, cyn-wraig Roger Moore, ym Mhontyberem, saith milltir o Lanelli.
5. Llecyn cudd gorau: rhan o bentref Ffwrnais (Furnace) hanner milltir tu allan i’r dre. Mae olion ffwrnais - a gyflwynwyd i’r ardal gan y diwydiannwr Alexander Raby - lle’r oedd peli canon ar gyfer y rhyfeloedd yn erbyn Napoleon yn cael eu gwneud.
Tyfodd y pentref o gwmpas y ffwrneisiau a chronfa ddwr Trebeddod a adeiladwyd i liniaru’r prinder dwr yn y dref yn y 1850’au. Mae’r gronfa erbyn hyn yn safle picnic hyfryd.
6. Sglods gorau'r dre: y Savoy, Stryd Cowell, canol y dre. Mae’r "rissoles" yn ffein hefyd.
7. Hyncs o’r ardal: Scott Quinnell, Huw Edwards ac Aled Richards (drymiwr Catatonia). Hyncs i Mam: Derek Quinnell, Barry John a hanner tîm Cymru yn y 70’au!
8. Cwrw gorau’r ardal: cwrw "Double Dragon"- wedi ei fragu yn Felinfoel, pentref tu fas i’r dre. Byd-enwog oherwydd Cwrw Felinfoel, yn 1936, oedd y cyntaf yn Ewrop (ail yn y byd) i gael ei werthu mewn caniau.
9. Lle glwypa’r ardal! Canolfan Adar y Gwlyptir - dros 200 erw o ddyfrffyrdd wedi eu tirlunio ar gyfer adar gwyllt - sy’n cynnwys elyrch, hwyiad, gwyddau - ac hyd yn oed fflamingos - oddi ar yr A484 - un milltir i’r dwyrain o Lanelli. Yn agored bob dydd o 9.30 tan 5.00 - 01554 741087
10. Llefydd gwlyb eraill? Ma `na ddigon o dafarnau. Ymysg y rhai trendi, bywiog, yng nghanol y dre mae Barnum’s a Tom Peppers.
11. Awyrgylch go iawn? Marchnad Llanelli - popeth dan do, os nad dan haul - cocos, bara lawr, tsieina, teganau, teisennau, carpedi!
12. Mwy o Siopa? Canolfan newydd yn cynnig digon o ddewis dan byramid gwydr. Nid y Louvre ond lot o hwyl!
Cyn iddynt adeiladu hwn, roedd Llanelli wedi mynd yn dre siopau sgidiau a dim byd arall, bron! Ynghanol y siopau yn Stryd y Parc Uchaf mae stiwdio Agenda sy’n cynhyrchu "Heno."
13. Hen adeiladau diddorol yng nghanol y dre: eglwys y plwyf; y llyfrgell a Thy Llanelly (i’w weld ar ei orau, edrychwch at yr hen blasdy hwn o fynwent yr eglwys) - y tri o fewn llathenni i’w gilydd.
14. Castell gorau’r ardal: Castell Cydweli, wrth gwrs! Siwrne fer heibio Pen-bre.
15. Bellach i ffwrdd? Digon i’w weld…Y gerddi botaneg yn Llanarthne - cestyll a thwr Paxton - Abertawe - Penrhyn Gwyr a’r Mwmbwls - Caerfyrddin (diwrnod marchnad - dydd Mercher) - Llansteffan gyda'i draeth a chastell. MWYNHWECH! |  | 
|