
 |  | Tre'r Sosban
Golwg dyn dieithr ar dref Eisteddfod Genedlaethol 2000
| "Mae pob cerddoriaeth fodern yn anodd," meddai’r dyn yn ddwys wrth wraig ganol oed y mae’n siarad a hi ar gornel stryd.
Llanelli, bore Sadwrn heulog dair wythnos cyn yr Eisteddfod Genedlaethol ac y mae’r ddau yn trafod yn Saesneg hyfryd yr ardal y darnau a fu Côr yr Eisteddfod yn eu hymarfer dros y misoedd diwethaf.
Mae’r sgwrs yn symud yn ei blaen i sôn am emyn a gyfansoddwyd gan Meirion Evans "the Archdderwydd" ac anhawster cael amser i ymarfer ar gyfer pob peth.
Canmol y côr Go brin y dylai rywun synnu fod sgwrs fel hon i’w chlywed ar y stryd yn Llanelli.
Y mae traddodiad cerddorol cyfoethog yma gyda chôr yr Eisteddfod eleni yn un o’r rhai mwyaf erioed, yn 450 o leisiau.
Bu’n rhaid i’r Llanelli Star dynnu ei lun mewn dau hanner a’u hasio a’i gilydd.
Ddydd Mawrth nesaf bydd yn perfformio mewn cyngerdd Nabucco, Verdi gyda Jason Howard yn unawdydd.
Mae gan Lanelli ei chôr meibion hefyd ac arwydd o’r balchder lleol yn y côr hwnnw yw i’r cyfarwyddwr cerdd, D Eifion Thomas, ddweud rhwng difrif a chwarae yn dilyn 32 cyngerdd blynyddol y côr hwnnw iddi ddod yn amlwg o’i berfformiad o’r Dies Irae o Requiem yn D Leiaf LuigiChurubini y noson honno pam nad oes côr o unman arall yng Nghymru wedi meiddio cystadlu yr wythnos nesaf.
Dim gwerth ymweld â hi! Er bod Llanelli yn dref sydd wedi newid yn fawr dros y blynyddoedd a’i gobeithion am ddyfodol llewyrchus yn cael ei hoelio yn awr ar dwristiaeth dydi hi ddim yn dref gwerth ymweld â hi o gwbl yn ôl y Rough Guide to Wales:
"Dydych chi ddim yn colli llawer trwy beidio ag ymweld â’r lle," meddai gan ei galw’n "dour."
Ond dydi hwnnw ddim yn air y byddai pawb yn ei ddefnyddio.
Ar ddiwrnod o haf y mae’r ganolfan siopa newydd yn ysgafn, yn olau ac yn fodern - er - fel sy’n wir am bob tref y dyddiau hyn gwaetha’r modd - gyda’r un siopau a busnesau â phobman arall.
Mae ychydig mwy o flas a chymeriad lleol i’r farchnad dan do mewn adeilad cymharol newydd yn dilyn dwy ymgais i ailgynllunio canol y dref yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf - a hynny'n esgor ar gyhuddiadau o fandaliaeth cynllunio gan rai.
Yn eistedd ar gefnau seti yn haul y stryd siopa mae criwiau ifanc yn cadw hwyl a reiat.
Ambell un wedi sylwi ar Arfon Haines Davies yn cerdded yn osgeiddig tuag at gamera teledu ac yn ymddangos fel pe byddai’n siarad ag ef ei hun.
"He was talking up b’there just now," meddai bachan wrth un arall. "That’s because he’s a pillock," atebodd hwnnw mewn ymgais at feirniadaeth deledu fyrfyfyr cyn ail afael yn y drafodaeth lle maen nhw a chriw o enethod am fynd nesaf.
"You keep my money," meddai merch landeg wrth ffrind, "otherwise i’ll be spending it an' I won't 'ave anything for tonight."
Beth bynnag a ddywed y Rough Guide mae’r acen sy’n bopeth ond dour yn hudo ymwelydd gyda’r Gymraeg a’r Saesneg yn feoldiau ar yr awyr.
"There’s a gorgerous day," meddai dyn wrth weld dieithryn yn crwydro’n ddiamcan ar hyd stryd gefn ddistaw. "It’s absolutely boggling," cytunodd ag ef ei hun cyn rhoi cyfle i’r ymwelydd ateb.
Adeiladau mawreddog Ac er bod y ganolfan siopa fel pob un arall mewn tref ar ôl tref, y mae amrywiaeth rhyfeddol ym mhensaerniaeth gweddill y dref sydd yn gaer o amgylch y ganolfan.
Capeli talgryf, mawreddog, yn arwyddion ymffrostgar o orffennol crefyddol llachar pan oedd digon o gynulleidfaoedd i lenwi deugain ohonyn nhw.
Neuadd y dref yr un mor falch a Thy Llanelly, hen gartref teulu'r Stepney lle bu John Wesley yn aros sawl tro ac sy bron a bod yn gyfrinach gyhoeddus yng nghanol siopau.
Prin, fodd bynnag, yw’r arwyddion o’r gorffennol diwydiannol a roddodd fodolaeth i’r fath ysblander ar wahân i enw ambell i dafarn fel y Rolling Mill a'r Strip Mill ym mhen arall y dref.
Tre'r Sosban a Thinopolis Er bod hanes diwydiannol y dref yn ymestyn yn ôl i’r ddeunawfed ganrif, yn ystod blynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif y bu’r ffyniant mawr gyda Llanelli a’i phoblogaeth o 25,000 y mwyaf Cymreig o drefi maes glo y de.
Yn y Gymraeg yr oedd y gweithwyr yn trafod eu gwaith yn yr hyn oedd ar y pryd y ganolfan gwneud tun bwysicaf y byd i gyd.
Daethpwyd i’w hadnabod fel Tinopolis a’i bedyddio hefyd yn Dre’r Sosban ar sail gwaith gwneud sosbenni oedd yno.
Nid yn gymaint tyfodd Llanelli ond ffrwydrodd yng ngwres y ffwrneisi. Agorwyd saith gwaith tun newydd mewn deng mlynedd ar ddechrau’r ganrif.
Ond bu chwyldro arall ers hynny wrth i’r diwydiannau trymion edwino. Gwnaed y sosban olaf yn 1978. Yn 1982 caeodd y gwaith dur a oedd yn galon y dref gan roi dros fil o bobl ar y clwt.
Bu'r ergyd gymdeithasol yn erchyll.
Erbyn heddiw dim ond gwaith Trostre sydd ar ôl a pharc dwr sydd ar hen safle’r gwaith ac yn y parc hwnnw yr wythnos nesaf swn plant yn chwerthin a chorau’n canu; beirdd yn dadlau a chynganeddion yn clecian, fydd yna yn hytrach na seiniau tun a dur yn taro.
Distawodd am byth hisian ager a chrawc hwtars-gwaith a lleisiau gweithwyr chwyslyd yn gweiddi ar ei gilydd yng ngwres y ffwrneisi.
Soniwch am yr hen weithfeydd wrth y rhai sy’n eu cofio a’r ddau beth y bydd pawb yn cyfeirio atyn nhw yw’r perygl o'ch cwmpas ym mhobman a’r gwres o’r ffwrneisi.
Y gwres yn fwy na dim. Nid yw’n syndod i’r dref fod angen dau fragdy i ddiwallu syched y gwithiwrs ac nid yw’n syndod iddi gael enw am yfed.
Perchen gwaith tun oedd piau un o’r bragdai hefyd, Felinfoel - y bragdy cyntaf yn Ewrop i roi cwrw mewn caniau - wrth i’r perchnogion geisio ymestyn rhywfaint ar oes eu gwaith.
Yfed, rhyw a smocio Faint bynnag o enw oedd gan y dref am yfed yn y gorffennol pechodau newydd sy'n amlwg heddiw.
"Mae delio mewn cyffuriau yn arwain i'r carchar," meddai arwydd dwyieithog yn ffenest Maxwell's Bar. Yng nghyntedd clwb Barnum's y mae arwyddion yn eich rhybuddio y gallech gael eich harchwilio ar y ffordd i mewn.
Mae henoed rhan arall o'r dref yn cwyno fod pobl ifainc yn defnyddio cae chware ar gyfer yfed, smocio a rhyw yng ngwydd pawb - ond nid o angenrhaid yn y drefn yna - ac yn gweiddi enwau ar bensiynwyr
"Mae'r lle i gyd yn gwneud i Beirwt edrych fel gwersyll gwyliau,," meddai un cynghorydd lleol.
Ymestyn yn ôl Ond mae hanes Llanelli yn ymestyn yn ôl i ddyddiau llawer mwy syber y tu draw i chwyldro diwydiannol y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae’r cyfeiriad ysgrifenedig cyntaf yn y ddeuddegfed ganrif a chyn iddi ddod yn dref ddiwydiannol yr oedd yn dref farchnad bwysig.
Santes y dref yw Elli, merch pennaeth Cymreig o’r chweched ganrif, Brychan Brycheiniog. Yr oedd yn gyfnither i Ddewi Sant ei hun!
Seintiau newydd
Mewn dyddiau mwy diweddar crewyd seintiau newydd.
Dewiniaid fel y chwarewr snwcer y mae'r Terry Griffiths Matchroom yn gofadail byw iddo.
Albert Jenkins, wedyn, a oedd yn gweithio yn y dociau yn ystod yr wythnos ond yn dallu’r gwrthwynebwyr a gwefreiddio'r dorf a’i ddoniau ar y maes rygbi bob Sadwrn.
Mewn dyddiau diweddarach fyth, daeth y maswr hudolus, Phil Bennett, gweithiwr dur ers yn bymtheg oed ac yn aelod dîm Delme Thomas a drechodd y Crysau Duon 9-3 yn 1972 dan gyfarwyddyd Carwyn James.
Cyn hynny, roedd Llanelli wedi trechu’r Awstraliaid yn 1908 gan orfodi ychwanegu’r geiriau Who beat the Wallabies at anthem Sosban Fach y clwb. Cyflawnwyd yr un gamp eto yn 1992
Er i’r clwb bron a mynd yn fethdalwr wrth i’r gêm droi’n broffesiynol y mae’n dal yn dîm o bwys yng Nghymru ac yn dal i fwydo’r tîm cenedlaethol.
Erbyn heddiw mae Bennett newydd ar y maes hanesyddol.
A dywedodd Alex Bennett, chwaraewr rhyngwladol o Loegr a ddewisodd symud oddi wrth y Saracens at Lanelli yn hytrach na Chaerfaddon fod wyth mil o gefnogwyr Llanelli yn gwneud mwy o swn nag ugain mil o Saraceniaid!
Yr wythnos nesaf bydd maes Eisteddfod yn llythrennol ar yr aswy a'r maes rygbi ar y dde - gydag un o gewri gorffennol y Stradey, Ray Gravell, yn awr yn geidwad cleddyf Gorsedd Beirdd y maes arall wrth i ddau ddiwylliant gydorwedd yn hapus a’i gilydd. . . |  | 
|