bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
[an error occurred while processing this directive]

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
[an error occurred while processing this directive]
»[an error occurred while processing this directive]
Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Dawns flodauWyddech chi hyn?

Pigion Steddfodol cyn Prifwyl Llanelli
Mae dau gylch gorsedd yn Llanelli - un ym Mharc Howard a’r diweddara a godwyd ar gyfer Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod 2000 ar Barc y Dwr, Ffordd Sandy.

Ar gyfer Cylch Gorsedd Parc y Dwr, Ffordd Sandy, defnyddiwyd dros gan tunnell o graig a naddwyd o dair chwarel leol - Cross Hands, Gorslas a Meinciau. Dechreuwyd y gwaith ar Ebrill 1999 ac yr oedd wedi’i gwblhau mewn pryd i Seremoni’r Cyhoeddi ar Fehefin 19.

Yn 1932 yr etholwyd yr Archdderwydd cyntaf o Lanelli. Bu John ‘Gwili’ Jenkins (1872 - 1936) yn cadw trefn ar Orsedd y Beirdd o 1932 hyd 1936.

Bydd lle ym Mhafiliwn Eisteddfod Llanelli i 4,000.

Yr Archdderwydd presennol yw’r Parch Meirion Evans, Porth Tywyn. Cychwynnodd ar ei waith yn Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Llanelli ar Barc y Dwr, Ffordd Sandy.

Disgwylir y bydd 325 o stondinau yn Eisteddfod eleni. Fe’u lleolir wrth ochr y Pafiliwn, Theatr y Maes, Y Babell Lên, Y Stiwdio Ddawns, Y Babell Roc a Phabell y Dysgwyr. Cynrychiolir Gwyddoniaeth a Thechnoleg a Chwaraeon, hefyd, ar Faes yr Eisteddfod.

Ceir arddangosfa arbennig eleni o weithiau cyn enillwyr Medal Aur Celf a Chrefft yr Eisteddfod. Byddant yn cynnwys amrywiaeth gwaith, o waith haearn i frodwaith i grochenwaith.

Eleni, bydd Agoriad Swyddogol yr Eisteddfod, ddydd Gwener, Awst 4, yn cynnwys addasiad o’r ddrama gerdd, Joseph a’i Fantell Fraith, o waith Andrew Lloyd Webber a Tim Rice. Aled Lloyd Davies fu’n gyfrifol am yr addasiad.

Ceir perfformiad cyntaf o ddrama gerdd newydd o’r enw milELLIwm ar ddydd Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod, Awst 5. Gwaith newydd gan Ioan Hefin, Margaret Rees ac Eirlys Gravelle sy’n cynnig golwg newydd ar hanes Cymru.

Mae tocyn wythnos ar gyfer Eisteddfod Llanelli, gan gynnwys mynediad i’r Maes a sedd gadw yn y pafiliwn, yn costio £53.

Cynhelir Cyngerdd Nos gan Gerddorfa Ieuenctid Cymru a’r Côr Siambr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru nos Wener, Awst 11. Bydd y rhaglen yn cynnwys gwaith comisiwn newydd gan Karl Jenkins (cyfansoddwr Adiemus) a’r Planedau gan Gustave Holst.

Mae’r Eisteddfod yn costio £2.1 miliwn bob blwyddyn. Mae Pwyllgor Apêl Llanelli a’r Cylch eisoes wedi cyrraedd 98 y cant o’i nod o £250,000.

Defnyddir digon o bapur ty bach yn nhoiledau’r Maes yn ystod yr wythnos i ymestyn o Lanelli i Gaerfyrddin ac yn ôl.

Defnyddir oddeutu 300,000 galwyn o ddwr yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Gosodir chwe milltir o geblau trydan ar faes yr Eisteddfod ar Barc y Mileniwm.

Gosodir dwy filltir o bibau dwr ar safle’r Eisteddfod.

Arnol James oedd gwneuthurwr Cadair yr Eisteddfod.

 

News image

Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
News imageAdolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

News imageAdolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
News imageLlais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
News imageY Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2
News image



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy