
 |  | Huw yn llywydd yn ei fro ei hun
Enwi llywyddion ac arweinyddion Steddfod Llanelli
Dydd Mercher, Gorffennaf 12, 2000 | Huw Edwards, cyflwynydd prif raglen newyddion y BBC o Lundain fydd un o Lywyddion y Dydd Eisteddfod Genedlaethol gyntaf y mileniwm.
Ganwyd Huw ym mro Eisteddfod Genedlaethol Llanelli. Fe’i magwyd yn Llangennech y tu allan i'r dref.
Bellach mae'n wyneb adnabyddus ar y teledu ac yn brif gyflwynydd Newyddion Chwech y BBC o Lundain.
Yn ogystal fe’i gwelir ar raglenni teledu eraill ar S4C a'r BBC ac fe’i clywir ar y radio.
Meddai: "Mae’n fraint ac anrhydedd cael fy ngwahodd i fod yn Llywydd y Dydd a rhwy’n gobeithio y byddaf yn deilwng o’r anrhydedd hon."
Dywedodd Aled Siôn, trefnydd Eisteddfodau Cenedlaethol y De, fod Huw yn ddewis naturiol ac amlwg.
"Enwebir dau Lywydd y Dydd ar gyfer pob Eisteddfod, un ar gyfer y dydd Mercher ac un arall ar gyfer y dydd Sadwrn olaf.
"Pan ofynnwyd i’r Pwyllgor Gwaith lleol gynnig enw ar gyfer y dydd Mercher, roedd y gefnogaeth a’r awydd i wahodd Huw Edwards yn unfrydol ac yr ydym fel Eisteddfod yn hynod o falch ei fod wedi derbyn ein gwahoddiad.
" Cadeirydd y Pwyllgor Lleol, Garry Nicholas, fydd Llywydd y dydd Sadwrn olaf."
Arwain ar y llwyfan Yr arweinyddion llwyfan fydd Dei Tomos, Nia Roberts, Delyth Mai Nicholas, Frank Lincoln a Garry Owen.
Dywedodd Aled Siôn ei bod yn bwysig i arweinyddion yr Eisteddfod fod yn gyfuniad o’r profiadol a’r newydd, y cyfarwydd a’r llai cyfarwydd, yn ogystal ag ychydig o naws leol.
"Penderfynwyd gwahodd Dei Tomos sy’n hen gyfarwydd ag arwain yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ogystal â gwahodd Nia Roberts yn ôl wedi iddi arwain at y tro cyntaf ym Môn y llynedd. Ond mae’r tri arweinydd arall gyda chysylltiadau lleol, Delyth Mai Nicholas, Frank Lincoln a Garry Owen."
Dyma’r tro cyntaf i Frank Lincoln, sy’n dod o ardal Llanelli, arwain yn y Genedlaethol er ei fod yn hen gyfarwydd ag arwain cyngherddau ac wedi arwain yn Eisteddfod Gydwladol Llangollen. Dyma’r tro cyntaf hefyd i Garry Owen, y cyflwynydd a’r darlledwr arwain yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Athrawes yw Delyth Nicholas sy’n amlwg iawn ym myd llefaru a drama’r ardal ac wedi ymddangos ar amryw i lwyfan eisteddfodol.
Roedd hi’n un o'r arweinyddion llwyfan yn Eisteddfod Nedd a’r Cyffiniau ym 1994. |  | 
|