
 |  | Cofio 'Steddfod orau'r ganrif'
edrych yn ôl wrth edrych ymlaen at Eisteddfod Llanelli
Dydd Sadwrn, Mai 20, 2000
| Gyda’r paratoadau yn prysur fynd yn eu blaen ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli fis Awst nesaf y mae Brenda Lewis yn edrych yn ôl at ymweliad diwethaf yr Eisteddfod Genedlaethol â’r dref. Un a gafodd ei galw yn Eisteddfod orau’r ganrif a lle y cadeiriwyd un o feirdd blaenaf ein cenedl!
Dyma’r ail erthygl mewn cyfres sy’n edrych ymlaen at Brifwyl eleni yn Nhre’r Sosban.
Daeth llawer tro ar fyd cyn i’r Eisteddfod Genedlaethol ymweld â Llanelli am y pedwerydd tro. Dyddiau tywyll yr Ail Ryfel Byd, 1939 hyd at 1945, a diweithdra oedd yn bennaf gyfrifol ond bu’n rhaid aros tan 1962 cyn i’r hen dre gael y cyfle i groesawu’r Wyl.
Meddyg lleol, y Dr Harri Llywellyn, llywydd Côr Llanelli, aeth gyda’r côr i Eisteddfod Caernarfon ym 1959. Wrth gyfarfod â hwn a’r llall ar faes y Brifwyl mynegodd ddyhead pobl Llanelli i groesawu’r Wyl.
Ym 1960 teithiodd 150 o gefnogwyr mewn bysiau i’r Deml Heddwch, Caerdydd, i gyflwyno’r Cais i Gyngor yr Eisteddfod.
Roedd hon yn fuddugoliaeth fawr a dangoswyd brwdfrydedd a gweithgarwch arbennig wrth sefydlu pwyllgorau, paratoi rhestr testunau na chodi arian.
Ar ddydd y Cyhoeddi daeth cannoedd o bobol i weld y Seremoni yng Nghylch yr Orsedd ym Mharc Howard.
|Meddai yr Archdderwydd Trefin: "Llanelli yw un o gaerau Anghydffurfiaeth a thwr cadarn democratiaeth. Mae’n flaenllaw ym myd addysg, gyda dwy ysgol Uwchradd Gymraeg a chariad at iaith a thraddodiad yn rhan o enaid y dref.
"Perthyn i’r dref draddodiad cerddorol a chorawl ers dyddiau Alaw Ddu . . ."
Tybed i ba raddau mae hyn yn wir heddiw? Yn sicr mae cymdeithas wedi newid yn rhyfeddol ers hynny!
Ar gyfer yr Eisteddfod, gosodwyd pafiliwn mawr gwyrdd y dywedwyd ei fod yn fwy na’r Albert Hall ar gaeau Penygaer ac meddai yr Ysgrifennydd Cyffredinol, Tomi Scourfield:
"Hon oedd Eisteddfod orau’r ganrif."
Un peth na allwyd ei drefnu oedd y tywydd ac fe ddaeth gwynt a glaw i amharu ar y pleser a siomedig tuhwnt oedd cynnal seremoniau’r Orsedd yn Sinema Regal - ond fe sicrhaodd y glaw fod y pafiliwn yn llawn bob dydd!
Bardd y Gadair gyda Llef un yn Llefain oedd Caradog Prichard o Fethesda ond ar y pryd yn newyddiadurwr yn Llundain.
Defnyddiodd y ffugenw Idris yn deyrnged i’r Dr Idris Jones a roddodd y wobr ariannol.
Bardd y Goron oedd y Parchedig Emlyn Lewis, Llandarog, am bryddest, Cwmwl.
Yn yr eisteddfod hon hefyd y cyflwynodd yr actor, Clifford Evans, y Fedal aur Celf a Chrefft i Josef Herman, yr arlunydd o Wlad Pwyl am ei gyfraniad nodedig i gelf yng Nghymru.
Yma hefyd y gwelwyd teledu lliw am y tro cyntaf - a hynny ar stondin TWW.
Mae cerddoriaeth yn ei amryw ffurfiau wrth graidd pob Eisteddfod a daeth 70 o gorau i gystadlu.
Er i gyngherddau yr Wyl fod yn llwyddiant mawr bu tynnu’n groes hefyd gydag un o’r arweinyddion, Wyn Morris, yn cwyno bod deugain y cant o’r sain yn mynd ar goll yn y llenni a rhaid eu tynnu i ffwrdd,
Gwrthodwyd gwneud hyn ond yn hytrach trowyd y llenni i’r ochr. Roedd Wyn yn hynod flin a siomedig am hyn ac yn ogystal roedd agwedd a diffyg cydweithrediad aelodau’r Côr wedi peri diflastod iddo.
Serch hynny fe fu’r cyngherddau yn llwyddiannus iawn gyda’r tenor, Kenneth Bowen, a’r soprano, Esther Lattar ymhlith cantorion yr wythnos.
Ac er gwaethaf y tywydd daeth 66,000 drwy’r giatiau a gwerthwyd £30,000 o docynnau gan wneud elw sylweddol. |  | 
|