Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Wrth eu boddau...

Vaughan Roderick|13:09, Dydd Mercher, 7 Ebrill 2010

orme_tram.jpgMae ymgeisydd y Ceidwadwyr yn Aberconwy, Guto Bebb "wrth ei fodd" a pholisi yswiriant cendlaethol ei blaid yn enwedig y darn sydd, yn ol un o daflenni Guto, yn eithrio busensau bach o dalu yswiriant y deg aelod cyntaf o'i staff.

Wrth gwrs bod Guto wrth ei fodd a'r polisi. Fe fyddai perchnegion gwestai a llefydd gwely a brecwast Llandudno wrth eu boddau hefyd a pholisi o'r fath.

Ond beth yw'r polisi'r blaid mewn gwirionedd? Dyma fe ar wefan swyddogol y blaid.

"Any new business started in the first two years of a Conservative Government will pay no Employer National Insurance on the first ten employees it hires during its first year."

Ydy hynny'n golygu'r un peth, dywedwch? Mae 'na ragor am hyn ar y prif safle.

_42842757_peterrogers203bbc.jpgHefyd wrth ei fodd heddiw mae'r bythol wyrdd Peter Rogers sydd wedi derbyn caniatad gan ei feddygon i sefyll ar Ynys Môn yn dilyn llawdriniaeth.

Fe fydd Ceidwadwyr yr ynys ac i raddau llai pobol Plaid Cymru yn diawlio'u lwc ond oedd unrhyw un yn credu mewn gwironedd y byddai unrhyw beth dan haul yn rhwystro Peter rhag sefyll?

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.