Rialtwch
Fe ddigwyddodd rywbeth rhyfedd gyda "Rialtwch" wythnos ddiwethaf.
Fe wnes i gynnwys dolen i gyfweliad hanner awr gyda Richard Burton. Roedd y peth wedi bod ar safle'r "New York Times" am rai misoedd. Cwpwl o ddyddiau wedyn wnaeth y stori yma ymddangos yn y "Western Mail"
"FORGOTTEN footage of Richard Burton has been unearthed on the 25th anniversary of his death, showing the screen legend revealing a wealth of behind-the-scenes Hollywood tittle-tattle."
Dydw i ddim yn beirniadu'r papur. Rwy'n cicio fy hun na wnes i feddwl wneud mwy am y peth fy hun! Serch hynny, fe fyddai "credit" neu "hat-tip" i "Obell" wnaeth dynnu fy sylw at y cyfweliad wedi bod yn neis! Ta beth dyma Richard Burton yn canu (neu'n siarad) y gân wnaeth roi enw ar gyfnod yng ngwleidyddiaeth America.
Nid fi yw'r newyddiadurwr cyntaf i fethu troi ceiniog o stori ynghylch Richard Burton, gyda llaw. Am flynyddoedd Ceri Garnon oedd hunan-liwtiwr Cymraeg y BBC yn Abertawe. Roedd Ceri yn weinidog a chan wisgo'r het yna fe wnaeth dorri'r newydd am farwolaeth Richard Burton i'r teulu ym Mhont-rhyd-y-fen. Fe fyddai Ceri wedi gallu gwneud ffortiwn trwy werthu'r stori ond fe wnaeth e ddewis peidio gwneud. Fe ddylai rhyw un adrodd y stori yna wrth Jan Moir!
Mae gweddill ffilmiau'r wythnos hon hefyd yn awgrymiadau gan Obell. Dyma ddarllediad rhyfedd iawn gan y Ceidwadwyr. Ydy William Hague yn troi mewn i Winston Churchill?
Ydy chi'n cofio'r dyddiau pan doedd bron dim byd ond hwn i weld ar setiau teledu ym Mhen Llŷn...
...nes i hwn gyrraedd?

Golygydd Materion Cymreig y BBC yn blogio'n rheolaidd ar faterion gwleidyddol Cymru. 

SylwadauAnfon sylw
Mae Dick Cavett wedi bod yn postio rhaglenni cyfan o'i gyfweliadau gyda Burton ers mis Gorffennaf. Mae nhw'n gyfweliadau gwych wrth gwrs, a llawer mwy deallus a threiddgar na 'Parky' 'fyd.
Wrth gwrs mae hwn yn esgus i unrhyw newyddiadurwr diog i 'ddarganfod' y peth dro ar ôl tro. Wnaeth y Mule ddarganfod hyn gynta ym mis Awst.