Rhwydweithio
Rwy'n teimlo fel prifathro'n gwneud y "cyhoeddiadau" yn y gwasanaeth cyntaf ar ôl gwyliau'r haf! Fe fydd CF99 yn dychwelyd heno am ddeg. Bethan Rhys Roberts a finnau sy'n cyflwyno fel arfer a'r gwesteion heno yw Helen Mary Jones, Nia Griffith ac Eleanor Burnham. Y gohebwyr y tymor hwn yw Arwyn Jones ac Owain Clarke.
Fe fydd "Dau o'r Bae" (a'r podlediad) yn dychwelyd ddydd Gwener. Mae Bethan Lewis yn dathlu genedigaeth ei chrwt bach cyntaf, Cai. Fi a pwy arall fydd y "ddau" felly? Cewch glywed!
Yn y cyfamser dyma gasgliad o ddolenni difyr gan gychwyn gyda blogbost deifiol.
The Ballad of Caernarfon JailAlwyn ap Huw
Mwy ar y stori ( a llwyth o lincs) gan Blogmenai
The ''Welsh Marseillaise'' Gwyn Griffiths
Hanes fersiwn Lydaweg "Hen Wlad fyn Nhadau"
Bigger than a six packDaran Hill
Dyfodol Democratiaid Rhyddfrydol Cymru- wedi ei ysgrifennu cyn y gynhadledd rwy'n amau!
Indian group says it will abandon ancestral homeSouth Western Daily News
Fe fydd 'na lawer o straeon fel hon wrth i'r byd dwymo.

Golygydd Materion Cymreig y BBC yn blogio'n rheolaidd ar faterion gwleidyddol Cymru. 
