Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Er mwyn y nefoedd...

Vaughan Roderick|19:26, Dydd Mercher, 18 Mawrth 2009

Prin fod angen prawf pellach o ba mor drwsgl a hurt yw cyfundrefn ddeddfu Cymru fel mae'n bodoli ar hyn o bryd. Serch hynny wrth i'r LCO tai ddiflannu i ryw bydew yn Nhŷ'r Arglwyddi gadewch i ni ystyried y broses scriwtineiddio y mae'r LCO Iaith yn dioddef ar hyn o bryd.

Pwyllgor Deddfwriaeth (5) y cynulliad sy'n ystyried yr LCO yn y Bae. Ar y degfed o Fawrth fe glywodd y pwyllgor dystiolaeth gan David Rosser a Leighton Jenkins o CBI Cymru. Yr wythnos hon cafodd y mudiadau iaith eu cyfle gyda Menna Machreth a Sioned Haf yn cynrychioli Cymdeithas yr Iaith ac Alun Owens yn siarad ar ran yr Urdd.

Ddydd Llun nesaf fe fydd y Pwyllgor Dethol wrthi yn San Steffan. Pwy yw'r tystion? Ymhlith eraill David Rosser, Leighton Jenkins, Menna Machreth, Sioned Haf ac Alun Owens.

Gwallgofrwydd.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.