Er gwybodaeth
Mae 'na ddadl ddiddorol ym myd y blogiau ynghylch rhagfarn honedig gan BBC Cymru. Nid fy lle i yw gwneud unrhyw sylw ond dw i'n meddwl y bydd y dadleuon o ddiddordeb i ddarllenwyr y blog yma. Y safleoedd perthnasol yw BlogMenai, WelshPoliticalHistory a Guerilla-Welsh-Fare.
Dau beth sy ddim yn cael eu nodi gan y Blogwyr yw mai newyddiadurwyr BBC Cymru oedd y cyntaf i gyhoeddi sylwadau Ramesh Patel ac mae un o raglenni BBC Cymru "Dragon's Eye" wnaeth dynnu sylw at erthygl ddadleuol Rhys Williams. Gan gofio'r cyd-destun hwnnw mae'r dadleuon yn werth eu darllen..

Golygydd Materion Cymreig y BBC yn blogio'n rheolaidd ar faterion gwleidyddol Cymru. 

SylwadauAnfon sylw
Hi Vaughan,
Diolch am y linc. Nes i nodi yn y darn nad ydw i'n siwr os oes yna bias ond y ma yna pwynt yw neud am shwt fydd y straeon yma wedi ei trin os fydd y gwelidyddion yn rhai Plaid cymru. Nes i nodi o dan y sylwadau ar blog WelshPoliticalHistory taw Dragons Eye nath neud son am Rhys. Ond ma'r pwynt gwreiddiol dal i sefyll.
Hefyd ma fe yn werth nodi nad ydw i (na blog menai fel y gwelwn i) yn ymosod ar unrhyw newyddiadurwyr penodol ond ar strategaeth y BBC yn Cymru ar y cyfan

Heb anghofio rhain wrth gwrs:
https://prysgodyn.blogspot.com/2009/02/cyfryngau-di-asgwrn-cefn-yn-gadael-rhys.html
https://blog.rhysllwyd.com/?p=733
https://british-nats-watch.blogspot.com/2009/02/rhys-williams-2.html
Rwy'n derbyn bod 'na ddadl i gael. Dydw i ddim yn meddwl bod hi'n briodol i mi gwneud sylw ond o ystyried pwysigrwydd arbennig y BBC yng Nghymru oherwydd gwendid cyffredinol ein cyfryngau roeddwn yn teimlo y dylwn i dynnu sylw at y drafodaeth.