Lincs
Gan fod y drafodaeth ynghylch safon iaith wedi creu cymaint o stŵr mae "Pedant Iaith" wedi sefydlu ei flog ei hun. Dyma'r ddolen. Mae'n bosib bod ychydig o ddiogi ieithyddol gen i wedi esgor ar drafodaeth bwysig. Hap a damwain!
Mae hynny'n fy atgoffa nad ydwyf wedi postio set o ddolenni'n ddiweddar. Y BBC, nid fi, sy'n dewis y "blogroll" ond dw i'n sicr eich bod yn mwynhau dewisiadau'r gorfforaeth!
Yn ôl yr arfer fe wnâi grybwyll Blogiadur a Maes-e rhag ofn bod unrhyw un heb eu darganfod. Does 'na ddim byd arbennig o newydd o safbwynt safleoedd Cymreig. Dyma ddewis eclectig felly.
Mae Failblog yn llwyddo i wneud i fi chwerthin. O safbwynt gwleidyddiaeth America rwy'n meddwl y byd o 538. Wrth hiraethu am yr hen ddyddiau yn fy musnes i does na'r unlle syn well na Transdiffusion.
Mwynhewch.

Golygydd Materion Cymreig y BBC yn blogio'n rheolaidd ar faterion gwleidyddol Cymru. 

SylwadauAnfon sylw
*plyg anfaddeuol o ddi-gywilydd*
Mae https://www.metastwnsh.com yn newydd ;-)