Newyddion Da o Lawenydd Mawr
Gyda'r holl sôn am Nick Bourne rwy'n teimlo fy mod wedi bod yn ymddwyn fel y Grinch wnaeth ddwyn y Nadolig dros y dyddiau diwethaf. Beth am i ni ddathlu ychydig o newyddion da am unwaith.
Dydw i ddim wedi cyfri ai Nick Bourne neu Abergeirw sydd wedi ysgogi'r nifer fwyaf o eiriau ar y blog y mis hwn. Mae'n reit agos, fe dybiwn i. Heddiw mae trydan yn cyrraedd Abergeirw! Betia i byddan nhw'n gofyn am band-lydan nesaf! Nadolig Llawen Abergeirw!
Mae'r Times wedi cyhoeddi rhestr o'r peldroedwyr Prydeinig gorau. Ym yr hanner cant mae 'na dri sy'n gynnyrch system ieuenctid Dinas Caerdydd sef Aaron Ramsey, Chris Gunther a Joe Ledley. Mae'n argoeli'n dda iawn ar gyfer dyfodol y tîm cenedlaethol.
Mae'n debyg bod y lein fach o Borthmadog i Ryd Ddu wedi ei chwblhâi. Fel dywedodd y digrifwr Tudor Owen wrtha i'r dydd o'r blaen "Fe fydd hi'n bosib mynd ar drên o Gaernarfon i Vladivostok ...ond cyrraedd Port fydd hanner y daith!"

Golygydd Materion Cymreig y BBC yn blogio'n rheolaidd ar faterion gwleidyddol Cymru. 
