Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Barack Ab Ama

Vaughan Roderick|21:05, Dydd Mercher, 8 Hydref 2008

Does dim byd newydd mewn gwleidyddiaeth ond roedd darllediadau gwleidyddol Plaid Cymru yn ystod etholiadau'r cynulliad yn ffres ac yn drawiadol. Dw i'n siŵr eich bod chi'n cofio nhw- ffilmiau byr yn defnyddio arddull pryf ar wal yn esgus dangos trafodaethau mewnol strategwyr y Blaid Lafur.

Maen nhw dal i'w gweld ar YouTube yn fan hyn.

Nawr dyma i chi ddolen i'ch arwain at hysbysebion diweddaraf Barak Obama- ffilmiau byr yn defnyddio arddull pryf ar wal yn esgus dangos trafodaethau mewnol strategwyr John Mccain.

Cyd-ddigwyddiad? Efallai neu efallai bod Steve Morgan wedi croesi Mor Iwerydd eto!

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.