Air Alun a Ieuan Air
Mae'r cyn-weinidog Alun Pugh wedi bod yn uchel ei gloch yn ei feirniadaeth o'r cynlluniau i ddatblygu Maes Awyr Llanbedr ger Harlech. Poeni mae Alun, sydd bellach yn gyfarwyddwr Cymdeithas Eryri, y bydd awyrennau ysgafn yn tarfu ar amgylchedd ac economi'r Parc Cenedlaethol.
Mae 'na rai wrth gwrs sy'n hoff o weld ein gwlad o'r awyr. Yn eu plith, mae'n siŵr, mae awduron "Pembrokeshire: Historic Landscapes from the Air". Cyhoeddwyd y llyfr hwnnw'r llynedd gyda pharti lansio yn y senedd. Pa Aelod Cynulliad wnaeth noddi'r derbyniad? Oes angen dweud?
Yn y cyfamser mae'r Torïaid wedi awgrymu y dylid ail-enwi'r gwasanaeth awyr rhwng Caerdydd a'r Fali yn "Ieuan Air" ar ôl darganfod bod y dirprwy brif weinidog wedi ei defnyddio dros ddeugain o weithiau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Dw'n i ddim pa mor aml y mae Llywydd y Cynulliad wedi manteisio ar y gwasanaeth. Anaml, dybiwn i. Pe bai'r awyren yn galw yn Llanbedr ar y llaw arall...

Golygydd Materion Cymreig y BBC yn blogio'n rheolaidd ar faterion gwleidyddol Cymru. 

SylwadauAnfon sylw
wel gan mai Ynys Môn ydi etholaeth IWJ, ac yn wir mai fo ydi'r unig aelod o'r cabinet sy'n cynrychioli etholaeth yn y gogledd, dydi hynny fawr o sioc! Ble ddiawl mae'r stori fan hyn?!
Braidd yn anheg cael pop at Ieuan.
1. Mae'r gwasanaeth awyr yn gwneud yn dda iawn, dyw e braidd yn dibynnu yn unig swydd ar deithiau'r Dirprwy Brif Weinidog i lwyddo.
2. Mae'n rhatach na'r tren, ac felly'n faich llai ar gostau'r Cynulliad.
3. Mae'n fwy gwyrdd na theithio ar ei hunan lan i Sir Fon yn ei gar.
Chwarae teg iddo fe am rhoi esiampl dda. Swnio fel grawnwyn sur gan ACau eraill i fi.
O ran Llanbedr, os ydy'r awyrenfa'n cadw gwaith yn yr ardal beth yw'r broblem? Mae'n nhw'n siarad am faes awyr fel petai chweched terminal i Heathrow sy'n cael ei grybwyll. Ydy ambell i awyren fach yn tarfu fwy ar lonyddwch Eryri na trenau bach Ffestiniog neu rheilffordd Cambria? Siarad am golli perspective.