Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Rhodri'n cyrraedd Popbitch

Vaughan Roderick|17:08, Dydd Iau, 17 Ionawr 2008

Wrth i wleidyddion chwilio am ffyrdd newydd i gyrraedd yr ifanc efallai y bydd Rhodri Morgan yn dathlu'r ffaith ei fod wedi llwyddo i ddarparu'r un o brif straeon yr e-bost sgandalus "popbitch".

Peidiwch a becso dyw'r Prif Weinidog ddim wedi cael ei ddal mewn rhyw dro trwstan 'da Amy Winehouse neu Pete Doherty. Dyfyniad gan Rhodri sydd wedi apelio at y casglwyr sgandalau. Dyma'r stori yn ei chyfanrwydd.

“I saw Wales’ First Minister, Rhodri Morgan, at Riverside Food Market, Cardiff. He was telling the owner of a dog who’d just put its head in his bag of groceries, “I don’t think it’s right that you let your dog go round licking people’s bread.”

Sgŵp o ryw fath mae'n siŵr!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:14 ar 18 Ionawr 2008, ysgrifennodd Dafydd Tomos:

    Ddim y stori mwya ysgytwol nagyw (cewch chi bethau gwaeth ar faes-e), ond fyny i safon arferol popbitch.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.