Teitl y dydd
Gan nad yw'r cynulliad yn cynnal sesiwn lawn does 'na ddim dyfyniad y dydd heddiw ond mae teitl y cynnig seneddol yma gan Dai Davies AS (Blaenau Gwent) yn gwneud i fi wennu am ryw reswm.
PUBLIC EXPENDITURE ON FLOOD PROTECTION AND INVADING IRAQ
Dyw'r cynnig ei hun ddim mor rhyfedd â'r teitl. Mae'n bosib ei ddarllen yn fan hyn.

Golygydd Materion Cymreig y BBC yn blogio'n rheolaidd ar faterion gwleidyddol Cymru. 

SylwadauAnfon sylw
Mae'n hen bryd i rywun dynnu sylw'r cyhoedd at y mater hwn - nid yn unig yng nghyswllt diffyg gwariant ar amddiffynfeydd rhag llifogydd, ond hefyd yng nghyswllt hanfodion megis addysg ac iechyd - a hynny gan blaid sy'n honni ei bod am adfer 'cyfiawnder cymdeithasol' Rhagrith noeth! Mewn gwirionedd, does dim llawer wedi newid yn ystod y degawdau a fu o ran y symiau enfawr y mae llywodraeth gwledydd Prydain yn eu hofera ar 'amddiffyn', beth bynnag a fo lliw'r blaid sydd wrth y llyw yn San Steffan.