Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Tŷ ar y tywod

Vaughan Roderick|10:54, Dydd Mercher, 19 Medi 2007

Does dim dwywaith mai Plaid Cymru enillodd brwydr y gimics/syniadau gwreiddiol yn ystod etholiad y cynulliad. Mae'n anodd gor-ddweud ynglŷn â'r dirmyg sy gan y pleidiau eraill tuag at bolisïau fel cluniaduron i blant ysgol a grantiau i bobol sy'n prynu tŷ ar y tro cyntaf.

Mae'r ail bolisi yn arbennig wedi ennyn dirmyg y Torïaid sy'n awgrymu y byddai ond yn ychwanegu at chwyddiant ym mhrisiau tai.

Ond beth yw hyn? Draw yn Awstralia mae John Howard arweinydd chwaer blaid y Ceidwadwyr yn wynebu brwydr am ei einioes wleidyddol ar ôl degawd mewn grym. Na phoener. Mae gan blaid Mr Howard arf ddirgel yn eu meddiant sef cynyddu'r gwariant ar "First Home" a "First Home plus", cynlluniau poblogaidd a gyflwynwyd gan y llywodraeth nol yn y flwyddyn 2000.

Beth mae'r cynlluniau hynny'n gwneud? Ie, dyna chi, cynnig grantiau i bobol sy'n prynu tŷ am y tro cyntaf.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:06 ar 19 Medi 2007, ysgrifennodd Helen:

    Mae cynllun cyffelyb yn nhalaith Texas hefyd!

  • 2. Am 15:28 ar 19 Medi 2007, ysgrifennodd Rhodri:

    Dwi'n methu yn lan a deall pam fod y syniad yma'n destun dirmyg. Yma yn yr Eidal mae mwy nag un o'r Regione "semi-autonomous", fel Trentino Alto-Adige a Friuli Venezia Giulia, yn cynnig yn union yr un peth - grant i bobol lleol heb incwm uchel i brynu ty cynta. Er mwyn sicrhau grant mae'n rhaid ichi fod yn byw yn yr ardal eisioes ers peth amser, a gall eich morgais ddim bod werth fwy na hyn a hyn.

    Mae'r system yn llwyddianus iawn yn cadw pobol lleol ifanc yn yr ardaloedd yma, a does yna ddim chwyddiant mawr mewn prisau tai. Ble mae'r broblem?

  • 3. Am 20:19 ar 20 Medi 2007, ysgrifennodd Tartini:

    Hei Vaughan - beth am holi Rhodri am hynt a helynt diwrnod "Vafanculo" un yr Eidal? (Gweler blog Beppe Grillo)

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.